91Èȱ¬

'Cynrychioli Cymru yn ein 70au yn fraint arbennig'

Chwaraewyr Cymru sy'n cymryd rhan yn y gystadleuaeth
  • Cyhoeddwyd

"Doedd yr un ohonom ni'n disgwyl cynrychioli Cymru, ond eto i gyd, rydym ni yn ein 70au a dyna'n union 'dan ni'n ei wneud."

Daeth sylwadau Mark Entwistle, 75, yn ystod sesiwn hyfforddi olaf timau Cymru cyn dechrau Cwpan y Byd i'r rheiny sydd dros 70 a dros 75 oed.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd am y tro cyntaf yr wythnos hon.

Wedi’r holl ymbaratoi, y gemau hyfforddi a’r ymarferion, mae’r chwaraewyr wedi disgrifio effaith gadarnhaol y profiad ar eu hiechyd.

'Dim amser i gael seibiant'

"Does dim amser i gael seibiant gan fod y gêm yn mynd yn ei flaen o dy gwmpas, felly mae'n rhaid i ti roi'r ymdrech i mewn," meddai Mr Entwistle.

Yn ôl yr amddiffynnwr, a chapten tîm Cymru, mae cynrychioli ei wlad yn "fraint arbennig".

Ond mae'r garfan yn pwysleisio nad pêl-droed cerdded sy'n cael ei chwarae yn y gystadleuaeth.

Dywed Mike Williams, 73, bod rhedeg o amgylch y cae yn eu cadw'n heini ac yn iach, ac mae wrth ei fodd yn cael bod yn rhan o'r tîm.

"Mae e'n bleser i chwarae gyda'r bois. Mae'r rhan fwya' ohonom ni'n hyfforddi tair gwaith yr wythnos."

Disgrifiad o’r llun,

Mae tîm Cymru wedi bod yn hyfforddi "yn galed" ers wythnosau

Dros gyfnod o bedwar diwrnod o ddydd Mawrth 20 Awst, bydd cannoedd o bêl-droedwyr o Awstralia, Norwy, Yr Almaen, Denmarc ac UDA yn heidio i gaeau chwaraeon Prifysgol Caerdydd yn Llanrhymni.

Mae carfan Cymru'n gobeithio am y gorau, yn enwedig gan fod ganddyn nhw'r fantais o chwarae gartref.

Mae Keith Beadmore o Gasnewydd yn gyn-ficer yn ei 80au: "Rydym ni'n teimlo'n hyderus iawn.

"Ry'n ni wedi bod yn hyfforddi yn galed dros yr wythnosau diwethaf ac mae ein ffitrwydd ni yn bendant wedi gwella."

Dyma fydd y trydydd tro i Ryland Wallace, 73, chwarae mewn Cwpan y Byd eleni.

"Fe chwaraeais i yng Nghwpan y Byd Criced i bobl dros 60 oed yn India, a dwi newydd ddod yn ôl o chwarae yng Nghwpan y Byd Criced i bobl dros 70 oed yn Lloegr, ond mae hon yn wahanol gêm felly ry'n ni’n mynd i drio'n gorau glas yng Nghaerdydd.

"I fi, ma' hyn i gyd yn fonws. Yn 73 oed, dwi'n ymwybodol fy mod i yn extra time.

"Mae e'n hyfryd i fod yn onest. Dwi just isie aros yn ffit drwy gydol y peth. Dwi bob amser rhwng anafiadau, ac ma' gymaint ohonom ni yn chwarae gyda rhyw fath o anaf."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jimmy Mullen - cyn-reolwr Caerdydd a Burnley - yn helpu i hyfforddi tîm Cymru dros-75

Mae cyn-reolwr Caerdydd a Burnley, Jimmy Mullen, wedi bod yn helpu hyfforddi tîm dros-75 Cymru cyn y gystadleuaeth fawr.

Mae'r tîm wedi datblygu'n fawr dros y misoedd diwethaf, meddai, gan nodi nad yw'r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi chwarae yn y gynghrair bêl-droed o’r blaen, ond bydd modd iddyn nhw ymfalchïo yn y ffaith eu bod wedi chwarae mewn Cwpan Byd.

"Ry'n ni wedi gweithio yn galed ar ein ffordd o chwarae, ac mae'r chwaraewyr yn deall yr hyn sydd angen ei wneud," meddai.

Mae'r tîm dros-70 yn chwarae gemau 11-bob-ochr, tra bod y tîm dros-75 yn chwarae gemau 7-bob-ochr ar gae llai o faint.

Mae rheolwr y tîm Dros-75, Tim Bowker, wedi helpu dewis dau dîm saith-bob-ochr – Cymru a Wales – sy'n mynd i chwarae dwy gêm y dydd, gyda phob gêm yn para tua awr.

"Ma' gyda ni system gyfnewid roll on roll off. Mae'n rhaid i fi newid y tîm fel bod pawb yn cael neu 20 munud," esboniodd.

Disgrifiad o’r llun,

Tim Bowker yw rheolwr y tîm Dros-75, fydd yn chwarae gemau saith-bob-ochr

Mae Keith Hughes, 80, yn byw yn Wrecsam ac yn teithio i Gaerdydd yn gyson er mwyn hyfforddi.

"Dwi’n teithio mwy na Judith Chalmers!" meddai, gan gyfeirio at deithiau helaeth y newyddiadurwr teithio yn y 1970au ar 80au.

Yn y gorffennol, mae pencampwriaeth Cwpan y Byd wedi cael ei chynnal yn Nenmarc ac yng Ngwlad Thai.

Bydd pencampwriaeth y flwyddyn nesaf yn Japan, ac yn cynnwys categori dros-80.

Mae Prifysgol Caerdydd, busnesau lleol ac aelodau o'r gymuned leol ymhlith y rhai sydd wedi helpu gyda'r gwaith o gynnal y digwyddiad, gan fod angen dros 25 o wirfoddolwyr y dydd.