Gatland: 'Fydden i heb ddod 'n么l tasen i'n gwybod'
- Cyhoeddwyd
Mae Warren Gatland wedi cyfaddef na fyddai wedi dychwelyd fel prif hyfforddwr t卯m rygbi Cymru pe bai'n gwybod gwir raddfa'r problemau sy'n wynebu rygbi yng Nghymru.
Er iddi fod y tymor mwyaf cythryblus yn hanes y g锚m broffesiynol yng Nghymru, mae Gatland yn credu y gall yr helyntion diweddaraf ysgogi ei d卯m yng Nghwpan y Byd yn Ffrainc yn yr hydref.
Wrth siarad ar bodlediad Scrum V, dywedodd nad oedd ganddo unrhyw syniad o鈥檙 llanast oedd o鈥檌 flaen pan ddychwelodd fel prif hyfforddwr y t卯m ym mis Rhagfyr.
Sgandal rhywiaeth Undeb Rygbi Cymru (URC), y prif weithredwr yn ymddiswyddo, hyfforddwyr yn cael eu diswyddo neu eu gwahardd, chwaraewyr yn bygwth streicio oherwydd anhrefn cytundebol, t卯m cenedlaethol mewn trafferthion a methiannau rhanbarthol parhaus.
Hyn oll yn ogystal 芒鈥檙 pedwar t卯m proffesiynol yn wynebu heriau ariannol llym.
'Doedd gen i ddim syniad'
"Pan ddes i mewn i'r Chwe Gwlad, doedd gen i ddim syniad," meddai Gatland.
"Doeddwn i ddim yn ymwybodol o sawl peth oedd yn digwydd a'r materion oedd yn ymwneud 芒鈥檙 garfan a'r chwaraewyr.
鈥淎r y pryd pe bawn i鈥檔 gwybod, byddwn wedi penderfynu鈥檔 wahanol ac wedi mynd i rywle arall fwy na thebyg.
鈥淩oedd y materion hyn yn bodoli o鈥檙 blaen, ond does dim dwywaith bod llwyddiant y t卯m cenedlaethol yn y gorffennol wedi cuddio鈥檙 craciau.
鈥淣awr, er gwell mae鈥檔 debyg, maen nhw wedi dod i鈥檙 amlwg ac mae yna gyfle i ganolbwyntio ar y pethau oedd angen eu trwsio.
鈥淢ae 鈥檔a gyfle gwych i ni gael ailsefydlu nifer o bethau鈥檔 gadarnhaol.
"Rwy'n teimlo ein bod yn y lle hwnnw nawr sy'n gyffrous gyda rhai o'r talentau ifanc sy'n dod drwodd."
Er i nifer o chwaraewyr blaenllaw Cymru gyhoeddi na fyddan nhw ar gael ar gyfer Cwpan y Byd, mae Gatland wedi mynnu ei fod yn parhau i deimlo鈥檔 obeithiol am obeithion Cymru yn y bencampwriaeth
"Yr hyn sy'n rhoi mantais neu wefr i mi yw pan nad yw'r disgwyliadau yno neu mae'r heriau'n ymddangos yn fwy," meddai.
"Mae hynny'n fy ngyrru hyd yn oed yn fwy.
鈥淎llwn ni ddim anghofio beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol, ac mae llawer o faterion wedi cael sylw a chwestiynau wedi eu holi.
鈥淥s gall rhai o鈥檙 cyfryngau Cymreig ddal ati i鈥檔 diystyru ni, byddai hynny鈥檔 wych oherwydd maen nhw鈥檔 gwneud ffafr enfawr 芒 ni.
"Mae'n caniat谩u i ni ddod i mewn o dan y radar a does dim byd mae bechgyn Cymru'n ei garu'n well na chael ein diystyru a鈥檔 cefnau yn erbyn wal - maen nhw'n tueddu i ymateb i hynny."
Arian rhanbarthau ar ei ffordd
Yn siarad yn yr un podlediad, fe awgrymodd prif weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru, Nigel Walker fod rhandaliad llawn cyntaf y cytundeb ariannol newydd rhwng pedwar rhanbarth Cymru ag Undeb Rygbi Cymru (URC) am gael ei dalu o fewn y dyddiau nesaf.
Ond fe gyfaddefodd fod rhyddhau arian i'r timau oedd yn brin o arian "wedi cymryd yn rhy hir".
Cafodd cytundeb chwe blynedd newydd rhwng URC a'r timau - Caerdydd, y Gweilch, y Dreigiau a'r Scarlets - ei arwyddo ym mis Mawrth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2023
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2023