Cynnydd prisiau bwyd di-glwten 'ddim yn deg'
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad costau byw Coeliac UK wedi darganfod bod gwerth wythnos o siopa di-glwten yn costio 35% yn fwy nag eitemau sy'n cynnwys glwten.
Mae un sy'n byw gyda'r cyflwr ers ei bod yn saith oed yn dweud fod y gwahaniaeth pris "ddim yn deg" ac mai "nid dewis" yw dioddef 芒'r cyflwr.
Mae 'na hefyd alw am godi ymwybyddiaeth pobl o'r cyflwr.
Mae modd i'r rheiny sy'n byw gyda chyflwr seliag yng Nghymru dderbyn ychydig o fwyd di-glwten fel rhan o'u presgripsiwn, ac yn 么l Cerys Davage, roedd hyn "wedi achub" ei theulu.
Fe gafodd Cerys Davage o Gaerdydd ddiagnosis o glefyd seliag pan oedd ond yn saith oed wedi blynyddoedd o ddioddef o symptomau.
Dywedodd iddi gael trafferth bwyta pan oedd yn fabi: "Ro' ni wastad yn dweud bo' fi ddim eisiau bwyta neu fod bwyd yn neud i fi deimlo'n s芒l".
Dywedodd nad oes triniaeth benodol ac mai'r unig ffordd o ymdopi gyda'r cyflwr yw dilyn diet llym di-glwten, ond bod hynny yn dod 芒 chost ychwanegol.
Fe ddaeth adroddiad Coeliac UK i'r casgliad fod 77% o bobl yn cael trafferth fforddio cynnyrch heb glwten.
Wrth siarad 芒 91热爆 Cymru Fyw, dywedodd: "Mae'r bwyd gymaint yn ddrutach ac yn enwedig yn y cost of living crisis dyw e ddim yn deg i bobl sydd dal angen y maeth ac yn gorfod talu'n ychwanegol am ddim rheswm o gwbl."
Dywedodd ei bod yn ceisio "osgoi prynu pethau fel bara neu basta di-glwten drwy'r amser".
Er bod nifer o bobl yn dewis dilyn diet di-glwten oherwydd y buddion i'w hiechyd, dywedodd Cerys nad yw byw gyda'r cyflwr yn ddewis iddi hi.
Bwyd ar bresgripsiwn 'wedi bod mor bwysig'
Mae'r clefyd yn golygu fod y system imiwnedd yn ymosod ar y meinwe wrth fwyta glwten ac o ganlyniad yn rhwystro unrhyw faeth.
Does dim modd gwella ohono a'r unig driniaeth yw dilyn diet sy'n rhydd o glwten, gydol eich oes.
Gyda'i dwy chwaer hefyd wedi derbyn diagnosis o'r cyflwr, dywedodd fod derbyn bwyd ar bresgripsiwn wedi bod yn achubiaeth i'w theulu wrth iddyn nhw dyfu fyny.
"Mae gallu cael y bwydydd angenrheidiol ar bresgripsiwn wedi bod mor bwysig i ni a 'di safio lot o arian i鈥檔 teulu ni i gadw ni鈥檔 iach, felly ni wedi bod yn ffodus iawn i gael pethau eithaf basic ond essential," meddai.
Aeth ymlaen i ddweud: 鈥淒yw e ddim jyst am brynu bara gluten free ma' hefyd rhaid prynu popeth arall sy鈥檔 mynd gyda鈥檙 bara, a chael y bobl eraill chi鈥檔 byw gydag i fyw bywyd mwy gofalus鈥.
Mae adroddiad Coeliac UK yn pwysleisio faint yn ddrutach mae prynu bwyd glwten o'i gymharu 芒 bwyd sy'n cynnwys glwten:
Mae'r dorth o fara di-glwten rhataf 6.1 gwaith yn ddrytach na'r dorth rataf sy'n cynnwys glwten, fesul gram;
Mae siopiad bwyd wythnosol ar gyfer diet glwten 35% yn ddrutach;
Mae bron i 8 o bob 10 person yn ei gweld hi'n anodd fforddio bwyd di-glwten;
Mae 7 o bob 10 person yn credu bod siopa am fwyd di-glwten yn "effeithio ar eu hansawdd byw"
Mae Maisy Williams, 23, o'r Fenni, yn cytuno fod "bod yn gluten free yn lot fwy expensive".
A hithau wedi cael diagnosis o'r cyflwr yn 2018 yn dilyn cyfnod o deimlo'n isel, blinder a cholli pwysau, dywedodd fod cwblhau ei siopa wythnosol yn ddrud iawn.
Er ei bod yn cael ychydig o fwyd fel rhan o'i phresgripsiwn, dywedodd "weithiau ti dal yn gorfod mynd bum archfarchnad gwahanol achos dyw'r peth ti eisiau ddim yna".
"Mae hyd yn oed y bwydydd frozen yn ddrud."
Aeth ymlaen i s么n fod bwyta allan "yn broblem ac yn boen" wrth orfod holi am fwydlen ddi-glwten a sicrhau fod y bwyd yn cael ei goginio yn gywir.
Fe eglurodd fod bwyd di-glwten yn aml yn ddrutach wrth fwyta allan a bod y cyflwr "wastad ar flaen dy feddwl".
'Angen gwella ymwybyddiaeth pobl'
Dywedodd ei bod eisiau "gwella ymwybyddiaeth pobl" o'r cyflwr.
"Dydy pobl ddim yn deall pa mor ddifrifol mae'n gallu bod... ond hefyd mentally, mae wedi gwneud fi mwy anxious o fwyta allan, dwi ddim yn hoffi'r sylw."
A hithau'n hoffi cymdeithasu, dywedodd fod bwyta allan yn gallu bod yn anodd oherwydd y blaengynllunio.
"Mae'n rili rhwystredig a hoffen i fyw mewn byd lle mae pobl sydd gyda coeliac disease ddim yn cael eu beirniadu," meddai.
Mae elusen Coeliac UK yn dweud eu bod yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i gefnogi hanfodion bwyd heb glwten ar bresgripsiwn i bobl sydd wedi cael diagnosis o glefyd seliag.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2018