91热爆

Bae Ceibwr: Cynllun i greu canolfan chwaraeon yn hollti barn

Bae Ceibwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Bae Ceibwr wedi ei leoli o fewn ardal cadwraeth arbennig

  • Cyhoeddwyd

Mae cynlluniau i godi canolfan ar gyfer chwaraeon antur yn corddi'r dyfroedd ym Mae Ceibwr ger Aberteifi.

Mae cwmni Adventure Beyond, sydd yn cynnig arforgampau neu coasteering yn y bae, eisiau codi adeilad newydd ar gyfer cwsmeriaid ym mhentref Trewyddel gerllaw.

Mae gwrthwynebwyr yn honni y bydd nifer yr ymwelwyr yn cynyddu, a'u bod nhw eisoes yn tarfu ar adar a bywyd gwyllt yn yr ardal.

Mae rhai sy'n cefnogi'r cynllun wedi dweud bod y feirniadaeth yn "drist" ac y bydd y ganolfan yn beth "positif" i'r ardal.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma'r safle mae Adventure Beyond am ei ddatblygu ym mhentref Trewyddel

Yn 么l dogfen sydd wedi ei chyflwyno i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae Adventure Beyond am godi adeilad ar safle hen ganolfan fysiau yn Nhrewyddel.

Fe fydd yna 10 o lefydd parcio, gyda chyfleusterau newid ac ymolchi.

Fe fydd ymwelwyr yn cael eu hannog i gerdded neu seiclo i'r Bae ar gyfer arforgampau neu geufadu.

Mae'r datblygiad yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig, ac yn 么l y cwmni, os bydd yna oedi gyda'r cais cynllunio, mae yna berygl y gallai'r arian grant gael ei golli a'i drosglwyddo n么l at goffrau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dagmarr Moore yn byw yn Nhrewyddel ac yn gwrthwynebu'r cais

Mae ymgyrch 'Cadw Ceibwr' wedi ei sefydlu i wrthwynebu'r cais.

Mae Dagmarr Moore, sydd yn byw yn Nhrewyddel, yn llefarydd ar ran y gr诺p: "Mae llawer o bobl yn y pentref ddim eisiau hwb antur yn Nhrewyddel. Mae'n lle sbesial iawn.

"Mae'n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, safle o gadwraeth arbennig, ac mae'n rhaid cadw 100 metr i ffwrdd o'r adar a'r morloi.

"Ni'n meddwl bod arforgampau yn gwneud i adar y m么r symud mas o 'ma ac mae llai a llai bob blwyddyn.

"Mae'r cwmni wedi bod yma am 12 mlynedd, ac mae Cymdeithas Trewyddel ddim yn hapus bod nhw yma erioed.

"Mae llawer o geir yn dod yma a llawer o bobl. Mae'r s诺n yn gwneud i'r adar hedfan i ffwrdd ac mae cywion bach ar 么l. Mae fragile ecosystem fan hyn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Cynyr Ifan wedi bod yn arwain teithiau i Adventure Beyond ers 20 mlynedd

Gwrthod hynny yn llwyr mae Cynyr Ifan, sydd wedi gweithio i Adventure Beyond ers dau ddegawd.

"Mae'n drist bod y cyhuddiad yna yn cael ei wneud achos ydyn, ni'n arweinwyr awyr agored, ond ni'n wybodus iawn o fywyd gwyllt a 'sneb mwy 芒'i galon yn cynnal y bywyd gwyllt yma ac edrych ar 么l y bywyd gwyllt," meddai.

"Ni'n ymwybodol pryd mae tymor nythu a phryd mae tymor y morloi bach a ni'n gwybod ble maen nhw ac ni'n cadw bant.

"Dyw e ddim gwahanol i rywun yn cerdded y llwybrau, ond bod ni ar graig. Ni'n parchu hynny."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Arforgampau ym Mae Ceibwr

Mae'r cwmni sydd 芒'i bencadlys yn Aberteifi yn mynnu bod y cais yn dangos ymrwymiad at ddatblygiad cynaliadwy.

Mae Adventure Beyond yn cyflogi 12 o bobl naill ai'n llawn amser neu'n rhan amser.

Yn 么l Cynyr Ifan, mae'r cais yn gwneud cyfraniad pwysig tuag at economi'r ardal: "Mae'r cwmni wedi cynyddu'r cyflogadwyedd yma."

"D'wi'n hen stejar ond mae yna lot o staff ifanc sydd yn Gymry ifanc lleol sydd wedi dod mewn i'r diwydiant ac mae'n creu swyddi yma, a swyddi o fewn eu hardal nhw."

Mae Dagmarr Moore yn galw am wahardd arforgampau yn llwyr o Fae Ceibwr.

"Dyna beth ni'n dweud achos chi ddim yn gallu neidio o'r creigiau a bod mwy na 100 metr o'r anifeiliaid gwyllt," meddai.

Roedd y cais cynllunio i fod i gael ei ystyried gan bwyllgor rheoli datblygu Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ystod mis Gorffennaf, ond cafodd ei ohirio tan fis Medi fel bod modd cael adroddiad pellach gan Gyfoeth Naturiol Cymru yngl欧n 芒'r effaith bosib ar garfilod sydd yn nythu yn lleol, sydd yn fath o aderyn sydd yn plymio i'r m么r.

Mae Cyngor Cymuned Nanhyfer wedi gwrthwynebu'r cynllun gan ddweud bod yr adeilad yn "rhy fawr" ac nad yw'r cais yn "addas ar gyfer yr ardal."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae arwyddion yn gwrthwynebu'r cais wedi cael eu codi yn Nhrewyddel

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berchen ar ran o'r traeth yng Ngheibwr a pheth tir tua'r gorllewin o Nant Ceibwr.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd nad oedden nhw wedi gwneud sylw am y cais, am nad oedd wedi ei leoli o fewn ffiniau tir yr Ymddiriedolaeth.

Dywedodd yr Ymddiriedolaeth fod yna gytundeb blynyddol gyda darparwyr sydd am arwain teithiau arforgampau ar hyd y glannau, gyda'r nod o roi "arweiniad i grwpiau ar sut i gynnal digwyddiadau mewn ffordd gyfrifol, sydd yn lleihau'r effaith ar fywyd gwyllt".

"Mae'r cytundeb yn cael ei adolygu'n flynyddol gan yr Ymddiriedolaeth a chyrff eraill fel Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro."

Dywedodd llefarydd ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: "Rydym yn gweithio yn agos gyda CNC, sydd wedi cynnal arolwg er mwyn craffu ar effaith bosib arforgampau ar fywyd gwyllt ym Mae Ceibwr.

"Os ydy'r arolygon yma yn argymell newidiadau i weithgareddau antur yn yr ardal, fe fyddwn ni yn gobeithio eu gweithredu mor fuan 芒 phosib."

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi rhoi cadarnhad i 91热爆 Cymru y bydd rhaid cynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd cyn gwneud penderfyniad terfynol am y cais am fod Bae Ceibwr yn safle sydd wedi ei warchod o dan y gyfraith.