91热爆

Beth sy'n cysylltu Aberystwyth a'r blaned Mawrth?

EnfysFfynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
  • Cyhoeddwyd

Mae prifysgol yng Nghymru'n arwain y gwaith o ddatblygu darn allweddol o offer fydd yn mynd i鈥檙 blaned Mawrth, ar 么l i gydweithio gyda Rwsia ddod i ben yn sgil yr ymosodiad ar Wcr谩in.

Bydd gwaith ar yr offeryn newydd yn cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth gyda chefnogaeth gan Goleg Prifysgol Llundain, RAL Space - sef labordy cenedlaethol y DU ar gyfer ymchwil yn y gofod - a chwmni Qioptiq.

Mae鈥檙 offeryn wedi cael ei enwi鈥檔 Enfys a bydd yn cael ei osod ar y cerbyd neu鈥檙 crwydryn fydd yn cael ei lansio i鈥檙 blaned goch yn 2028.

Bydd Enfys yn disodli darn o offer a adeiladwyd yn wreiddiol gan Rwsia.

Lansiad yn 2028

Prosiect ar y cyd rhwng Ewrop a Rwsia oedd y daith i'r blaned Mawrth yn wreiddiol.

Ond yn dilyn ymosodiad Rwsia ar Wcr谩in, penderfynodd Asiantaeth Ofod Ewrop ei ailgynllunio a chynnwys cydrannau o Ewrop ac America yn unig.

Mae hyn yn golygu bod y lansiad wedi'i ohirio tan 2028.

Bydd Enfys yn gweithio gyda chamer芒u鈥檙 crwydryn i adnabod mwynau ar wyneb Mawrth wrth iddo chwilio am arwyddion o fywyd.

Pan fydd Enfys yn canfod mwynau a ffurfiwyd ym mhresenoldeb d诺r, bydd gwyddonwyr sy'n rheoli鈥檙 crwydryn yn gallu ei orchymyn i ddrilio hyd at ddau fetr o dan wyneb y blaned i gymryd samplau i'w dadansoddi.聽

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dr Matt Gunn yw brif ymchwilydd ar y datblygiad Enfys

Mae Asiantaeth Ofod y DU yn darparu 拢10.7m i ariannu datblygiad Enfys.

Dywedodd Dr Matt Gunn, prif ymchwilydd Prifysgol Aberystwyth ar broject Enfys: "Mae鈥檙 gofod a鈥檙 technolegau sy鈥檔 cael eu defnyddio i鈥檞 archwilio wedi fy swyno erioed, ac felly mae arwain datblygiad un o offerynnau gwyddoniaeth allweddol y daith hon yn destun cryn gyffro i mi.聽

"Mae鈥檙 buddsoddiad hwn gan Asiantaeth Ofod y Deyrnas Gyfunol hefyd yn gymeradwyaeth enfawr o ansawdd ymchwil y gofod yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, a fydd yn effeithio ar ein byd ac eraill am genedlaethau i ddod."

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma model graddfa llawn y crwydryn y blaned Mawrth

Eglurodd Dr Gunn r么l allweddol Enfys wrth benderfynu lle dylai鈥檙 crwydryn chwilio am dystiolaeth o fywyd.

鈥淢ae 'na lawer o wahanol fathau o fwynau ar y blaned Mawrth, ond mae rhai ohonyn nhw yn awgrymu i ni fod d诺r wedi bod yn bresennol wrth iddyn nhw gael eu ffurfio yn y gorffennol.

"Os gallwn ni ddod o hyd i'r mwynau hynny, yna ry鈥檔 ni鈥檔 gwybod eu bod nhw wedi cael eu ffurfio naill ai mewn llyn neu afon.

"Mae Enfys yn caniat谩u i ni fesur eu sbectrwm a phenderfynu yn union ble maen nhw."

鈥淸Heb Enfys] gallwch chi ddweud yn fras pa fathau o fwynau ydyn nhw, ond allwch chi ddim 聽dweud yr union fath o fwynau, felly mae Enfys yn caniat谩u ichi nodi'r samplau pwysig mewn gwirionedd.

"Dim ond hyn a hyn o gyfleoedd fydd gennym ni i ddrilio, mae'n cymryd llawer o amser.

"Felly mae angen i ni wneud yn si诺r ein bod ni'n drilio yn y llefydd cywir i gasglu samplau ar gyfer yr offer dadansoddi ar y cerbyd.

"Y siawns orau o ddod o hyd i olion o fywyd yw yn y llefydd lle bu d诺r.鈥

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi helpu datblygu camer芒u PanCam y cerbyd

Cyn cyhoeddiad ddydd Iau yngl欧n 芒鈥檙 gwaith ychwanegol, roedd Dr Gunn a鈥檌 gydweithwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn gweithio ar system o gamer芒u panoramig, PanCam, ar gyfer y crwydryn.

Mae Dr Gunn wedi helpu i ddatblygu sampl lliw unigryw ar gyfer y camer芒u, yn seiliedig ar ffenestri lliw eglwysi, fel bod y camer芒u'n gallu cyfleu lliwiau鈥檙 blaned yn gywir.

Un o agweddau mwyaf heriol dylunio offer ar gyfer y crwydryn yw sicrhau eu bod yn gallu gweithredu yn oerfel eithafol y blaned Mawrth, lle gall y tymheredd ostwng mor isel 芒 -120 gradd Celsius.

'Amgylchedd galed iawn'

Dywedodd Dr Gunn: "Mae dibynadwyedd yn her wirioneddol. Mae amgylchedd Mawrth yn galed iawn, felly mae gwneud yn si诺r bod popeth yn goroesi nosweithiau oer y blaned ac yn parhau i weithredu am fisoedd yn her wirioneddol.

"Mae gennym ni system gwactod thermol pwrpasol [yn y labordy] lle ry鈥檔 ni鈥檔 profi'r holl gydrannau ac is-systemau.

"Byddwn ni鈥檔 profi'r rheini dros y misoedd nesaf, i lawr i lai na meinws 130 gradd, ac yna hyd at 50 gradd, gannoedd o weithiau."

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth

Enw鈥檙 crwydryn yn wreiddiol oedd ExoMars, ond mae bellach wedi cael ei ailenwi'n Rosalind Franklin.

Roedd hithau鈥檔 grisialegydd pelydr-x yn King's College, Llundain wnaeth ddarparu llun ym 1952 o鈥檙 trefniant atomig o DNA a gafodd ei 聽ddadansoddi gan Watson a Crick yn eu gwaith nhw ar DNA.

Mae llawer o wyddonwyr yn credu bod r么l Franklin wrth ddarganfod strwythur DNA yn haeddu mwy o gydnabyddiaeth.

Cafodd y crwydryn ei wneud yn y DU ac yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Iau fe fydd yn cynnwys mwy o offer sy鈥檔 cael ei ddatblygu dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth.

'Arbed amser'

Dywedodd Libby Jackson, Pennaeth Archwilio鈥檙 Gofod yn Asiantaeth Ofod y DU, fod r么l y brifysgol yn y canolbarth yn allweddol.

鈥淏ydd Enfys, mewn cydweithrediad 芒 PanCam, yn galluogi鈥檙 crwydryn i adnabod y mannau iawn i fynd i ddrilio.

"Bydd yn arbed amser a bydd yn golygu y gallwn ni wneud y mwyaf o botensial gwyddonol y daith hon.

"Ry鈥檔 ni wrth ein bodd bod y DU yn gallu chwarae鈥檙 r么l hon wrth ddod 芒鈥檙 crwydryn yn 么l i鈥檞 botensial llawn, a bydd Aberystwyth yn gwneud gwaith gwych gyda鈥檙 offeryn hwn.鈥