91热爆

Cynnydd 11% mewn dysgwyr Cymraeg yn 么l ffigyrau

Disgrifiad,

Dywedodd Dona Lewis bod y ffigyrau yn glod i'r sector dysgu Cymraeg

  • Cyhoeddwyd

Mae nifer y bobl sy'n dysgu Cymraeg wedi cynyddu o 11% o'i gymharu 芒'r flwyddyn flaenorol, yn 么l ffigyrau diweddaraf.

Mae'r ffigyrau'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol yn dangos bod mwy na 16,900 o bobl wedi dechrau dysgu yn 2022-23.

Roedd 44% o'r dysgu yma ar gyrsiau ar-lein, ac mae'r cyfanswm draean yn uwch na phum mlynedd yn 么l.

Dywedodd prif weithredwr y ganolfan bod y ffigyrau diweddaraf yn dangos y "bwrlwm" sydd o fewn y sector.

'Galw uchel' am ddysgu Cymraeg

Mae nifer y dysgwyr wedi cynyddu bob blwyddyn ers 2017, pan gychwynnodd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol rhyddhau .

Mae鈥檙 ganolfan yn ystyried 2019-2020 yn eithriad (17,505 o ddysgwyr unigryw) oherwydd cynnydd yn niferoedd y dysgwyr a ddilynodd gyrsiau hunan-astudio ar lefel blasu ar gychwyn y pandemig.

Daw'r ffigyrau diweddaraf bron i dair blynedd ar 么l i'r Cyfrifiad ddatgelu bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng.

Mae'r data'n dangos fod y mwyafrif o ddysgwyr o fewn oed gweithio, ond bod fwy o bobl ifanc wedi dysgu'r iaith na blynyddoedd cynt.

Roedd cynnydd o 9% yn nifer y bobl rhwng 16-24 oed a ddechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2022-23.

Cafodd ffigyrau yngl欧n 芒 nifer y dysgwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol eu rhyddhau am y tro cyntaf eleni.

Mae'r data'n awgrymu bod 3.9% o ddysgwyr yn dod o gefndir ethnig lleiafrifol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd prif weithredwr y ganolfan, Dona Lewis, ei fod yn "sicr yn glod i lwyddiant y sector bod cymaint o bobl eisiau dysgu Cymraeg".

"I ni, mae o'n dangos bwrlwm be' da ni'n weld o ddydd i ddydd.

"Un o heriau mawr y sector ydi ymateb i'r galw uchel sydd yna gan bobl i fod eisiau dysgu Cymraeg.

"Mae yna alw uchel am ddysgu Cymraeg, mae yna awydd uchel."

Credai Ms Lewis fod y ffurf wahanol mae gwersi yn cael ei gynnig yn rhannol gyfrifol am y cynnydd.

"Mae gennym ni lot mwy o ddewis i bobl ddysgu Cymraeg i ffitio mewn efo'i bywydau prysur."

Ychwanegodd: "Mae'r ganolfan yn ceisio sicrhau bod 'na groeso i bawb i ymuno gyda'n cyrsiau ni."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nid yw Duolingo yn diweddaru'r cwrs dysgu Cymraeg ers diwedd 2023

Er bod cyrsiau'r ganolfan wedi profi'n boblogaidd, mae un adnodd adnabyddus wedi wynebu rhwystr.

Cyhoeddodd Duolingo ar ddiwedd 2023 eu bod nhw am roi'r gorau i ddiweddaru cwrs dysgu Cymraeg.

Dywedodd Ms Lewis: "Mae adnoddau fel Duolingo yn rhywbeth sydd ar gael i ategu beth mae [dysgwyr] yn 'neud 'efo ni.

"Mae yna ystod eang o adnoddau eraill allan yna i helpu pobl ar eu siwrne.

"Y mwyaf o bethau sydd ar gael i ddysgwyr, gorau oll."

Pynciau cysylltiedig