Y Wladfa: Angen 'codi hyder' siaradwyr Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Wrth i Gymdeithas Cymru-Ariannin chwilio am ddau berson i Gymru i weithio yn y Wladfa, maen nhw'n dweud mai'r bwriad ydy "codi hyder pobl er mwyn defnyddio'r iaith fel cyfrwng cymdeithasol."
Mae 159 mlynedd ers i'r Cymry lanio ar dir Y Wladfa, Patagonia am y tro cyntaf ac i gydfynd 芒 G诺yl y Glaniad ddydd Sul, mae'r gymdeithas yn chwilio am bobl i weithio yno yn 2025.
Dywedodd aelod o bwyllgor gwaith y gymdeithas eu bod nhw'n chwilio am bobl "profiadol, brwdfrydig ac ymroddgar" ar gyfer y swyddi yn nhalaith Chubut.
Yn ogystal 芒 dathliadau yn y Wladfa, mae sawl digwyddiad yng Nghymru yn nodi G诺yl y Glaniad.
Mae G诺yl y Glaniad yn cael ei dathlu'n flynyddol ar 28 Gorffennaf i gofio am y Cymry cyntaf i hwylio i'r Wladfa yn 1865.
Fe wnaeth mudwyr gychwyn ar eu taith o Lerpwl ar y Mimosa ym Mai 1865.
Yn ystod y daith a barodd ddau fis, cafodd dau fabi eu geni ac fe gafodd priodas ei chynnal ar y llong.
Er mai 153 o bobl oedd yn rhan o'r daith gyntaf, mae gan dros 50,000 o bobl Patagonia gysylltiadau gyda Chymru erbyn heddiw.
- Cyhoeddwyd9 Awst 2023
- Cyhoeddwyd6 Awst 2023
I nodi'r achlysur, mae Cymdeithas Cymru-Ariannin yn chwilio am swyddogion i gyfrannu at y diwylliant Cymraeg ac at waith eglwysi yn y Wladfa.
Mae aelod o bwyllgor gwaith Cymdeithas Cymru-Ariannin, Rhisiart Arwel yn pwysleisio pwysigrwydd y swyddi newydd.
Dywedodd: "Un o brif swyddogaethau'r gymdeithas ydy cefnogi cymdeithas Cymraeg sydd yn byw ym Mhatagonia.
"Y gobaith ydy'n bod ni'n cael dau berson i allu bod allan yn Y Wladfa am gyfnod hyd at 12 mis."
Angen 'codi hyder' siaradwyr Cymraeg y Wladfa
Bydd un swydd yn ffocysu ar ddatblygu'r Gymraeg trwy gynnal gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg, tra bydd yr ail swyddog yn cyd-weithio鈥檔 agos gydag eglwysi a gweinidogion.
Dywedodd Rhisiart: "Mater o godi hyder pobl 'da ni eisiau gwneud er mwyn defnyddio'r iaith fel cyfrwng cymdeithasol.
"Mae llawer o bobl yn gallu siarad Cymraeg yna, sy'n hollol wych, ond y pwynt ydy'r defnydd o'r iaith."
Mae gwasanaeth Cymraeg yn cael ei chynnal yn y Gaiman unwaith y mis, tra bod y gweddill yn dueddol o gael eu cynnal mewn Sbaeneg.
Mae Rhisiart yn gobeithio bydd un swyddog yn helpu i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg o fewn crefydd.
"Mae'r traddodiad o ddefnyddio Cymraeg yn y capeli wedi crebachu.
"Mae crefydd dal yn bwysig iawn i bobl ar draws Y Wladfa ac felly bysa'r person 'da ni'n anfon allan wedyn yn gallu cynorthwyo'r bobl sydd eisoes yn gweithio yn y capeli."
Er bod 7,000 milltir rhwng Cymru a'r Wladfa, mae Aberteifi yn rhannu cysylltiad cryf gydag un dref yno.
Cafodd Aberteifi ei phartneru 芒 Threfelin, ble mae cofeb y Mimosa, fel rhan o ddathliadau 150 mlynedd G诺yl y Glaniad yn 2015.
Mae'r gymuned yn dod at ei gilydd dros y penwythnos ar gyfer bwyd ac adloniant i nodi'r 诺yl yn Neuadd yr Esgob Petit.
Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan y gymdeithas, sydd yn trefnu dathliad pob blwyddyn mewn trefi gwahanol.
"Mae llawer o bwyllgor Cymdeithas Cymru-Ariannin wedi cael eu geni ym Mhatagonia neu maen nhw wedi treulio dipyn o amser yna felly mae gennym ni lot o gyd-destun," dywedodd Rhisiart Arwel.
Yn ogystal ag yma yng Nghymru, dywedodd Rhisiart y bydd cyfarfodydd arbennig yn digwydd ar draws Y Wladfa i ddathlu'r "diwrnod pwysig" ddydd Sul.
Bydd trigolion yn rhannu danteithion wrth fwynhau adloniant traddodiadol.
Bydd modd i'r ddau berson fydd yn mynd i'r Wladfa o Gymru fod yn rhan o ddathliadau G诺yl y Glaniad yn Y Wladfa flwyddyn nesaf.
Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw 31 Awst.