91热爆

Cyngor M么n yn colli ap锚l dros godi 33 o dai fforddiadwy

Safle'r datblygiad
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l AMP Construction, mae "galw arbennig am eiddo dwy a thair ystafell wely" yn ardal Gwalchmai

  • Cyhoeddwyd

Mae arolygwyr cynllunio wedi gwyrdroi penderfyniad gan Gyngor M么n i wrthod datblygiad o 33 o dai fforddiadwy.

Fis Mai y llynedd fe gafodd cais i adeiladu'r cartrefi yng Ngwalchmai ei wrthod gan gynghorwyr sir yr ynys oherwydd pryderon fod y safle tu allan i ffin ddatblygu'r pentref.

Gan honni ei fod yn "or-ddatblygiad", roedd cwestiynau hefyd dros yr effaith ar wasanaethau lleol.

Ond wedi i'r datblygwyr lansio ap锚l mae arolygwr cynllunio o PEDW - Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru - wedi dod i'r casgliad fod y datblygiad yn dderbyniol.

Ffynhonnell y llun, Dogfennau cynllunio

Roedd aelodau o Bwyllgor Cynllunio M么n wedi mynd yn groes i swyddogion y cyngor wrth wrthod y cais y llynedd, gydag adran dai yr awdurdod o'r farn bod angen 50 eiddo fforddiadwy yn ardal Trewalchmai i gwrdd 芒'r gofyn.

Cwestiynu'r angen am ddatblygiad mor fawr wnaeth llawer o drigolion lleol, gyda Chyngor Cymuned Trewalchmai yn datgan gwrthwynebiad unfrydol i'r cynllun.

Cafodd dros 100 llythyr o wrthwynebiad hefyd eu hanfon i'r awdurdod, yn ogystal 芒'r ddau gynghorydd sir lleol - Neville Evans a Douglas Fowlie - yn siarad yn erbyn y cais.

Ond yn sgil yr ap锚l a gwrandawiad cyhoeddus, penderfyniad arolygwyr cynllunio Llywodraeth Cymru oedd caniat谩u'r cais a gwyrdroi gwrthodiad y cyngor.

Yn 么l AMP Construction, a wnaeth y cais ar gyfer y datblygiad ar gae ar Stryd y Goron yng Ngwalchmai, mae "galw arbennig am eiddo dwy a thair ystafell wely" yn yr ardal.

Y llynedd dywedodd un o berchnogion y safle bod yr angen am y 33 t欧 fforddiadwy "wedi ei brofi".

Ychwanegodd Alan Griffiths, a gafodd ei fagu yng Ngwalchmai, bod "wir angen" tai fforddiadwy yng nghalon yr ynys, lle mae'r iaith ar ei chryfaf.

Ond barn Gr诺p Gwarchod Gwalchmai oedd nad oedd y cynllun yn un addas, gan honni y "byddai ychwanegiad o 10% i boblogaeth y pentref yn achosi mwy o bwysau ar yr isadeiledd".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Maldwyn Owen o Gr诺p Gwarchod Gwalchmai ymysg y rheiny i wrthwynebu'r cynllun

Wedi ei benodi gan weinidogion Llywodraeth Cymru, barn yr arolygydd cynllunio Ian Stevens oedd fod y cais yn un derbyniol.

Wrth nodi ei fod yn "fodlon bod angen lleol am y datblygiad arfaethedig wedi鈥檌 adnabod yng Ngwalchmai," ychwanegodd: "Rwy鈥檔 fodlon bod yr angen am dai fforddiadwy yn y pentref yn llawer uwch na鈥檙 cyflenwad hyd yma.

"Byddai meddianwyr yn y dyfodol sydd 芒 chysylltiadau lleol 芒鈥檙 pentref yn cael blaenoriaeth, gan gyfrannu drwy hynny at leihau鈥檙 bwlch rhwng y galw a鈥檙 cyflenwad lleol.

"Ar 么l ystyried yr holl faterion eraill a godwyd, deuaf i鈥檙 casgliad y dylid caniat谩u鈥檙 ap锚l."

Bydd y cyngor hefyd yn gorfod talu costau achos yr ap锚l i'r ymgeisydd.

'Siomedig iawn'

Penderfynodd Cyngor M么n i beidio darparu sylw yn sgil ymholiad gan 91热爆 Cymru.

Ond dywedodd Maldwyn Owen, aelod o Gr诺p Gwarchod Gwalchmai, ei fod yn "siomedig iawn" gyda'r penderfyniad.

"'Da ni'n dal i gwestiynu鈥檙 ffigyrau yn nhermau lefel y galw oddi fewn y pentref ei hun," meddai wrth Cymru Fyw.

"Mae'n ergyd i'r gymuned yn nhermau gymaint o wrthwynebiad sydd wedi bod yn lleol a byddwn yn ystyried ein hopsiynau r诺an."

Pynciau cysylltiedig