91热爆

Ymgyrch i gael corff rhwyfwr o Borthmadog yn 么l i Gymru

Michael HoltFfynhonnell y llun, Michael Holt
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Michael Holt yn ceisio rhwyfo 3,000 o filltiroedd o Gran Canaria i Barbados

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dyn o Borthmadog a fu farw tra鈥檔 ceisio rhwyfo ar draws Cefnfor yr Iwerydd yn apelio am gymorth i gael ei gorff adref.

Cafodd cwch Michael Holt, 54, ei ddarganfod gan long bysgota ar 么l iddo golli cysylltiad gyda'i d卯m cymorth.

Roedd yn ceisio rhwyfo 3,000 o filltiroedd ar draws yr Iwerydd o Gran Canaria i Barbados yn y Carib卯 er mwyn codi arian i helpu dwy elusen.

Roedd Mr Holt, oedd 芒 diabetes math 1, eisoes wedi rhwyfo 700 milltir cyn iddo fynd yn s芒l.

Cafodd ei ddarganfod yn farw yn ei gaban gan griw llong bysgota oedd wedi hwylio ato i鈥檞 helpu.

Mae鈥檙 cwch wedi cael ei dynnu i S茫o Vicente - un o ynysoedd Cape Verde - erbyn hyn.

Dywed ei gefnogwyr bod angen iddyn nhw gludo Michael adref o Cape Verde.

Ffynhonnell y llun, Teulu Michael Holt
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gafodd corff a chwch Michael Holt ei gludo i ynysoedd Cape Verde

Yn 么l Barry Hayes, fu鈥檔 helpu Michael Holt i gofnodi ei her ar y cyfryngau cymdeithasol, maen nhw nawr yn galw am roddion ariannol er mwyn hedfan ei gorff yn 么l i Gymru.

Ar y dudalen codi arian, mae鈥檔 dweud: "Nid yw'n broses syml ac mae'n ddrud.

"Ni wyddom faint llawn y gost ar hyn o bryd, ond os bydd arian dros ben, yna bydd yn cael ei roi i'r elusennau yr oedd Michael yn eu cefnogi."

Rhoddion i elusennau yn parhau

Yn y cyfamser mae rhoddion yn parhau i ddod i mewn i'r elusennau roedd Mr Holt yn eu cefnogi.

Roedd wedi gosod targed o godi 拢1,000 ar ei dudalen codi arian ar gyfer Mind, lle'r oedd yn codi arian er cof am ffrind, ond mae鈥檙 targed bellach wedi pasio dros 拢4,000, gyda miloedd yn yn cael eu rhoi ers i'r newyddion am ei farwolaeth ddod i'r amlwg ddydd Llun.

Mae miloedd o bunnoedd wedi'u rhoi hefyd ar dudalen Mr Holt oedd yn codi arian ar gyfer LCVS, elusen sy鈥檔 helpu pobl Lerpwl, lle mae'r cyfanswm yn fwy na hanner ffordd tuag at y targed o 拢10,000.

Ffynhonnell y llun, Michael Holt
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nod Michael Holt oedd codi ymwybyddiaeth o ddiabetes math 1

Dywedodd Barry Hayes, fod ymgais Mr Holt, fel rhywun oedd 芒 diabetes math 1, i rwyfo M么r yr Iwerydd "yn torri tir newydd, ac yn hynod ysbrydoledig".

Roedd wedi paratoi ar gyfer unrhyw broblemau yn ystod y daith trwy gael oergell wedi'i adeiladu i mewn i鈥檞 gwch ar gyfer ei inswlin, monitro gwaed awtomatig a chefnogaeth ff么n 24 awr.

Ond roedd y risg yn ei wneud yn amhosib i鈥檞 yswirio, yn 么l Mr Hayes.

鈥淢ae hyn yn gyffredin, pan chi鈥檔 gwneud rhywbeth eithafol," meddai.

"Roedd Michael yn gwybod hyn i gyd, ond fel y bydd ei ffrindiau a'i deulu yn tystio, roedd yn angerddol, ac yn 'styfnig fel mul - roedd rhwyfo dros gefnfor ar ei ben ei hun yn rhywbeth a roddodd ysgogiad a ffocws iddo."

Dywedodd Mr Hayes bod teulu Michael yn dal mewn sioc ond eu bod wedi鈥檜 cysuro o wybod ei fod yn gwneud rhywbeth roedd yn ei garu.

Pynciau cysylltiedig