Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gêm ddi-sgôr siomedig i Gymru yn erbyn Gibraltar
Fe orffennodd hi'n ddi-sgôr mewn gêm gyfeillgar rhwng Cymru a Gibraltar nos Iau, ar noson rwystredig i dîm di-brofiad Rob Page.
Roedd golwg anghyfarwydd i'r tîm a ddechreuodd y gêm yn Estádio Algarve ym Mhortiwgal, gyda Page rhoi cyfle i sawl chwaraewr newydd.
Fe wnaeth pum chwaraewr ennill eu capiau llawn cyntaf; Jay Dasilva, Fin Stevens, Tom King, Lewis Koumas a Charlie Crew.
Ond roedd hi'n noson siomedig iawn ar y cae gyda Chymru yn methu'n glir a chreu cyfleoedd o safon yn erbyn y wlad sydd yn safle 203 yn rhestr detholion Fifa.
Chwaraewr canol cae Bolton Wanderers, Josh Sheehan gafodd ei ddewis fel capten - a hynny ar ei bumed cap i'w wlad.
Roedd Cymru yn llwyr reoli'r meddiant o'r cychwyn cyntaf, ond prin iawn oedd y cyfleoedd mewn hanner cyntaf difflach.
Fe lwyddodd Jay Dasilva a Rabbi Matondo i fygwth amddiffyn Gibraltar ar brydiau lawr yr asgell chwith, ond roedd Cymru yn ei chael hi'n anodd datgloi amddiffyn Gibraltar.
Ymosodwr Abertawe, Liam Cullen ddaeth agosaf i sgorio yn yr hanner cyntaf gyda'i ergyd o ymyl y cwrt cosbi, ond fe arbedodd y golwr yn hawdd.
Bron i Josh Sheehan roi Cymru ar y blaen wedi bron i awr o'r gêm ar ôl i'w gic gornel daro'r postyn pellaf.
Daeth Brennan Johnson, Kieffer Moore a Dan James i'r cae gyda hanner awr yn weddill wrth i Page droi at y profiad ar y fainc.
Ond er yr eilyddion, prin iawn oedd y cyfleoedd i'r rhai yn y crysau melyn, gydag amddiffyn Gibraltar yn parhau yn gadarn.
Fe greodd yr eilydd Lewis Koumas gyfle iddo'i hun gyda 10 munud yn weddill, wrth iddo droi yn sydyn ar ochr chwith y cwrt cosbi cyn ergydio'n bwerus ar draws y gôl - gan orfodi arbediad da gan y golwr.
Bydd carfan Rob Page nawr yn teithio i Trnava i wynebu Slofacia mewn gêm gyfeillgar arall ar 9 Mehefin.
Bydd gemau cystadleuol nesaf Cymru ym mis Medi yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Ar ôl disgyn o'r brif haen yn 2022, mae Cymru wedi eu rhoi mewn grŵp gyda Gwlad yr Iâ, Montenegro a Thwrci yng Nghynghrair B.