Dyddiau olaf ffwrneisi dur traddodiadol Port Talbot mewn lluniau
1 o 4
- Cyhoeddwyd
Rhyw fath o deimlad o orfodaeth yw disgrifiad y ffotograffydd Mark Griffiths o'r rheswm yr aeth ati i wneud ffilm fer am gymuned Port Talbot.
Cafodd ei fagu yn y dref, ac mae teulu a ffrindiau iddo'n gweithio yn y gwaith dur, neu 芒 rhyw fath o gysylltiad gyda鈥檙 gwaith.
Mae disgwyl i鈥檙 ffwrnais chwyth yng ngwaith Tata gael ei diffodd ddydd Llun.
Bydd tua 2,000 o weithwyr Port Talbot yn colli eu swyddi.
Pan fydd y ffwrnais yn cau, bydd cynhyrchu dur yn y modd traddodiadol yn dod i ben yng Nghymru.
Adrodd stori cymuned sydd 芒 dyfodol ansicr mae'r ffilm fer o鈥檙 enw gan Mark Griffiths.
鈥淢ae鈥檙 effaith yn mynd i fod yn syfrdanol," meddai.
"Fydd e ddim yn effeithio鈥檔 unig ar y gweithwyr dur, bydd e鈥檔 effeithio ar yr isadeiledd o gwmpas [Tata], y busnesau lleol, y cymunedau sydd yn mynd i gael eu chwalu a鈥檜 dinistrio oherwydd hyn.
鈥淒yma pam ro鈥檔 i鈥檔 meddwl ei bod hi鈥檔 bwysig i mi greu鈥檙 gwaith yma,鈥 meddai.
Fel rhan o鈥檙 ffilm, fe siaradodd Mark Griffiths gydag amrywiaeth o gyfranwyr - cynrychiolydd undeb, perchennog busnes yn y dref, elusen iechyd meddwl, a'r Aelod Seneddol lleol, Stephen Kinnock.
鈥淢ae gen i gysylltiad agos 芒 llawer o bobl ym Mhort Talbot - sawl ewythr, fy nheulu鈥檔 ehangach, ffrindiau oedd yn gweithio ar ryw adeg mewn rhan o鈥檙 gwaith dur, un ai鈥檔 uniongyrchol neu鈥檔 rhan o鈥檙 isadeiledd - felly mae鈥檔 anodd iawn clywed y straeon yma."
Mae鈥檔 dweud bod Port Talbot, yn ymdebygu i鈥檙 cymoedd o ran agwedd y bobl.
鈥淩y鈥檔 ni鈥檔 un teulu anferth, ac mae pawb yn edrych ar 么l ei gilydd,鈥 meddai.
Mae鈥檙 ffotograffydd yn gobeithio y bydd ei waith yn cadw hanes y dref yn fyw, ac yn annog rhai sydd mewn grym i ofalu am y gymuned hefyd.
- Cyhoeddwyd23 Medi
- Cyhoeddwyd14 Mai
- Cyhoeddwyd26 Mehefin
'Dogfennu pethe fydd fyth yn digwydd eto'
Cafodd y ffotograffydd Jon Pountney fynediad i'r safle i dynnu lluniau o ddyddiau olaf y ffwrnes chwyth.
鈥淔el rhywun o鈥檙 tu allan, chi鈥檔 mynd i mewn ac yn meddwl, 鈥榮ai wir yn gwybod sut i ymateb i鈥檙 hyn rwy鈥檔 ei weld, achos mae e' mor anhygoel鈥, ac fel ffotograffydd, mae hynny鈥檔 eitha' anodd, achos chi hefyd yn ceisio canolbwyntio ar y lluniau,鈥 meddai.
Mae ei brosiect diweddara, 鈥楾he Allure of Ruins鈥, yn canolbwyntio ar greiriau a thirluniau 么l-ddiwydiannol Cymreig, neu 鈥渉en bethau鈥 yn ei eiriau ei hun.
Mae hefyd wedi bod yn gyfle i ddweud stori gwaith dur Tata mewn ffordd gyfoes, a 鈥渄ogfennu pethe fydd fyth yn digwydd eto鈥.
鈥淒oeddwn i ddim yn gwybod beth i鈥檞 ddisgwyl, ac ry鈥檆h chi yn ei hanfod yn mynd i gwrdd ag ystafell dywyll fawr iawn, ble mae na afon o fetel tawdd yn rhedeg drwy鈥檙 canol.
鈥淒ydych chi byth wedi gweld unrhywbeth tebyg 鈥 mae鈥檔 rhywbeth anhygoel bron fel elfennau llosgfynydd, sy鈥檔 eitha' brawychus,鈥 ychwanega.
Cyn gynted ag yr ydych chi ar y safle, mae'r teimlad o falchder yn 鈥渁mlwg iawn, iawn鈥 ymysg y gweithwyr, yn 么l yr artist gweledol.
鈥淢ae pobl yn broffesiynol iawn ac yn parchu ei gilydd, a鈥檙 gwaith maen nhw鈥檔 ei wneud, sy鈥檔 hynod o beryglus,鈥 meddai.
I Jon Pountney, mae 'na deimlad bod hanes yn ailadrodd ei hun, ar 么l bod yn rhan o gynhyrchiad ffuglennol ar waith dur yn cau.
Fe weithiodd fel ffotograffydd ar ddrama deledu Michael Sheen 鈥The Way鈥 y llynedd, oedd yn adrodd stori o anrhefn a therfysg ynghlwm 芒 chau gwaith dur ffuglennol.
Yn 么l seren a chyfarwyddwr y ffilm, Michael Sheen, roedd hi鈥檔 鈥渞hyfeddol o agos at y gwir鈥.
Er hyn, mae Mr Pountney yn gweld dyfodol mwy gobeithiol i鈥檙 dref na鈥檙 un gafodd ei darlunio ar y sgrin fach.
鈥淢ae hynny gan fwyaf ynghlwm 芒 pha mor ymarferol mae鈥檙 Cymry. Hyd yn oed yn ystod amseroedd anodd, ychydig yn debyg i streic y gl枚wyr, y syniad yma y byddwn ni鈥檔 dal i fynd," meddai.
鈥淔e fyddwn ni鈥檔 parhau i edrych ar 么l ein gilydd, ac fe wnawn ni barhau i wthio ymlaen, ac fe fydd yfory wastad yn ddiwrnod gwell."