91热爆

Teithio'r byd i ddysgu mwy am ffermio'r ucheldir

Dan JonesFfynhonnell y llun, Paul Harris
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dan Jones, sy'n wreiddiol o Ynys M么n, wedi ennill ysgoloriaeth Nuffield

  • Cyhoeddwyd

Mae ffermwr o Sir Conwy yn paratoi i deithio miloedd o filltiroedd er mwyn gweld a oes yna wersi i鈥檞 dysgu am sut mae鈥檙 ucheldir yn cael ei ffermio mewn rhannau eraill o鈥檙 byd.

鈥淚sio sb茂o ar ddyfodol y byd defaid ar diroedd uchel Cymru ydw i, a thrio chwilio am gydbwysedd rhwng cynhyrchu bwyd, byd natur a鈥檙 effaith 'dan ni yn ei gael ar newid hinsawdd,鈥 meddai Dan Jones.

Mae Dan yn denant i鈥檙 Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar fferm y Parc ar y Gogarth yn Llandudno ers wyth mlynedd.

Ym mis Medi bydd yn cychwyn am Borneo ac yna Taiwan, Japan, Gwlad Pwyl a鈥檙 Eidal.

Bydd yn ymweld ag ardal Sarawak yn Borneo ac yn aros gyda theulu amaethyddol er mwyn profi sut maen nhw鈥檔 byw o ddydd i ddydd.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Dan Jones wedi bod yn denant ar fferm y Parc ar y Gogarth yn Llandudno

Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn ddydd Llun dywedodd bod ffermio yng Nghymru a Borneo yn wahanol iawn ar yr olwg gyntaf, ond bod gweld systemau eraill o ffermio bob amser yn werthfawr.

鈥淚 dd'eud y gwir dydyn nhw ddim yn gwneud llawer o ffermio fel 'da ni yn ei 'neud," meddai.

"Ond isio gweld eu systemau ydw i, a gweld sut mae ffermio wedi datblygu yno.

"Maen nhw dipyn o flynyddoedd tu 么l i ni a rhai ffermwyr yn dal i fod yn hunter gatherers."

Ar gyfer rhan nesaf y daith bydd yn mynd i Batagonia a Chile, ac yna Ffrainc a Thwrci.

Mae Dan Jones, sy'n wreiddiol o Ynys M么n, wedi ennill ysgoloriaeth Nuffield.

Mae鈥檙 elusen wedi ei sefydlu er mwyn rhoi cyfleodd i ffermwyr o Brydain ddysgu am amaethyddiaeth mewn rhannau eraill o鈥檙 byd - gan ddefnyddio鈥檙 profiad i wella amaethyddiaeth yma.

鈥淔fermio defaid ar yr ucheldir dwi isio ei 'neud am byth," meddai.

"Ond mae鈥檔 fwy na hynny 鈥 fel ffermwyr 'dan ni isio cynhyrchu bwyd ond mae鈥檔 holl bwysig edrych ar 么l ein cymunedau a鈥檙 iaith Gymraeg.

鈥淪ut all ffermwyr yr ucheldir wneud gwahaniaeth ydy鈥檙 cwestiwn?

"Helpu byd natur a helpu hefo鈥檙 newid yn yr hinsawdd, a chael hyd i gydbwysedd rhwng y cyfan."

Pynciau cysylltiedig