91热爆

Cost paratoi'r Senedd ar gyfer mwy o wleidyddion yn 拢6.5m

SeneddFfynhonnell y llun, PA
  • Cyhoeddwyd

Mae cost paratoi'r Senedd ar gyfer cynnydd yn y nifer o wleidyddion bellach wedi cyrraedd 拢6.5m - 拢1.2m yn fwy na'r amcangyfrif blaenorol, yn 么l y corff sy'n rhedeg y sefydliad.

Mae Comisiwn y Senedd yn mynnu cynnydd o 16% i'w cyllideb y flwyddyn nesaf gan ddod 芒'r cyfanswm i 拢84.3m.

Bydd angen mwy o arian i drefnu'r "newid mwyaf ers datganoli" wrth i nifer yr ASau godi o 60 i 96 yn 2026, yn 么l y Comisiwn.

Ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod ehangu nifer yr ASau yn "flaenoriaeth anghywir".

Beth yw Comisiwn y Senedd?

Comisiwn y Senedd sy鈥檔 gyfrifol am redeg Senedd Cymru o ddydd i ddydd, gan gynnwys cynnal swyddfeydd y gwleidyddion ym Mae Caerdydd ac adeilad y Senedd ei hun.

Nhw hefyd sy'n gyfrifol am dalu cyflogau ASau a'u staff.

Daw'r cyllid gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Gyfunol Cymru.

Bydd y comisiwn yn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft yn ddiweddarach ddydd Gwener, ac fe fydd pleidlais ar y cynigion yn y Senedd ym mis Tachwedd.

Fodd bynnag, mae dogfen friffio a ddarparwyd i Aelodau o'r Senedd a ddaeth i law 91热爆 Cymru yn dangos cais am gyllideb o 拢84.3m ar gyfer 2025-26, sef cynnydd o 16.7% o'i gymharu 芒 2024-25.

Mae鈥檔 dadlau fod y cynnydd yn angenrheidiol oherwydd nifer o ffactorau - gan gynnwys ymrwymiad i gynyddu cyflogau鈥檙 sector cyhoeddus, costau cyn-etholiad wrth i Senedd Cymru symud tuag at bleidlais 2026, a gwaith cynnal a chadw ar D欧 Hywel, yr adeilad lle mae swyddfeydd ASau.

Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd nifer yr aelodau o'r Senedd yn cynyddu o 60 i 96

Mae costau pellach yn gysylltiedig ag archwilio opsiynau posibl pan ddaw'r les ar D欧 Hywel i ben yn 2032.

Y brif her sy鈥檔 wynebu鈥檙 comisiwn dros y flwyddyn nesaf fydd addasu swyddfeydd, ac adeilad y Senedd ei hun, ar gyfer 36 Aelod ychwanegol ar 么l 2026.

Y llynedd, fe wnaeth y comisiwn ragweld y byddai angen 拢5.3m i dalu鈥檙 costau hyn yn 2025-26.

Fodd bynnag, yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2025-26 mae'r ffigwr yma wedi codi i 拢6.5m.

Dywedodd llefarydd ar ran y comisiwn y byddai鈥檙 gyllideb ddrafft yn amlinellu cynllun 鈥渋 dalu costau rhedeg y Senedd wrth iddi baratoi ar gyfer y newid mwyaf ers datganoli", sef dod yn Senedd o 96 aelod.

Roedd polisi diwygio鈥檙 Senedd yn rhan allweddol o鈥檙 cytundeb cydweithredu rhwng Llafur a Phlaid Cymru rhwng Rhagfyr 2021 a mis Mai eleni.

Dywedodd Darren Millar, llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: 鈥淢ae angen brys yng Nghymru am fwy o feddygon, nyrsys a deintyddion - nid am fwy o wleidyddion.

鈥淢ae鈥檙 gost i drethdalwyr o ddiwygio鈥檙 Senedd yn aruthrol, hyd yn oed cyn i gynlluniau Llafur a Phlaid Cymru am ragor o wleidyddion gael eu gweithredu.

鈥淢ae gwario miliynau ychwanegol ar y vanity project hwn wrth i restrau aros y GIG dorri record am chwe mis yn olynol, yn dangos y blaenoriaethau anghywir.鈥

Dywedodd Plaid Cymru y byddai'n "edrych yn ofalus ar fanylion" y gyllideb ddrafft.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am ymateb.