91热爆

Dyn o F么n yn cyfaddef bod 芒 fideo o weithgareddau rhyw ar grwban

llun stocFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Ynys M么n wedi cyfaddef bod ym meddiant pornograffi eithafol yn ymwneud 芒 gweithredoedd rhyw gyda chrwban.

Plediodd James Owen, 30, hefyd yn euog i fod 芒 delwedd anweddus o blentyn, yn y categori mwyaf difrifol o gam-drin plant yn rhywiol.

Clywodd Llys Ynadon Caernarfon ddydd Iau iddo gael ei arestio yn dilyn ymchwiliad i bedoffeil hysbys gan Heddlu'r Met yn Llundain.

Fe wnaethon nhw enwi Owen, o Lanfechell ger Amlwch, fel rhywun oedd wedi derbyn y llun categori A cam-drin plant.

Pan aeth yr heddlu i'w gartref ym M么n i gael ei ddyfeisiadau electronig, fe ddaethon nhw hefyd o hyd i bedwar llun a 24 fideo o berson yn perfformio'n rhywiol gyda'r anifail byw.

Clywodd Owen fod yn rhaid iddo gofrestru fel troseddwr rhyw, ar 么l cael ei ryddhau ar fechn茂aeth.

Bydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon ar 11 Hydref.

Pynciau cysylltiedig