Pwyllgor lleol Eisteddfod 2023 yn codi dros 拢500,000
- Cyhoeddwyd
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cadarnhau bod y pwyllgor gwaith lleol yn Ll欧n ac Eifionydd eleni bellach wedi codi dros 拢500,000 - sy'n swm record.
Llynedd fe wnaeth cronfa Eisteddfod Tregaron godi 拢463,671, oedd eisoes yn swm uwch nag erioed o'r blaen.
Ond ar ddiwrnod cyntaf y Brifwyl ym Moduan ddydd Sadwrn, cafwyd cadarnhad fod y swm eleni wedi cyrraedd 拢503,610.
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Michael Strain, fod ganddo "ddim byd ond parch ac edmygedd at ein holl wirfoddolwyr" oedd wedi gwneud hynny'n bosib.
'Dangos pwysigrwydd symud'
Cafodd y swm diweddaraf ei gyhoeddi gan Liz Saville Roberts AS, wrth iddi annerch Pafiliwn yr Eisteddfod yn ei haraith groeso fel Llywydd yr 诺yl eleni.
"O gofio mai'r targed oedd 拢400,000, i godi dros hanner miliwn, mae hwnna'n anhygoel," meddai wrth siarad 芒 91热爆 Cymru.
"Rhaid i ni gofio mae'r Eisteddfod yn hwyr yn ein cyrraedd ni oherwydd Covid, ac yn ystod Covid roedd rhaid i ni godi'r arian, ac yn sgil effaith Covid.
"Dwi'n gobeithio bod ni'n gallu dod at ein gilydd a dathlu'r gwaith caled sydd 'di dwyn ffrwyth yma ar y maes."
Ychwanegodd Cadeirydd Bwrdd Rheoli a Llywydd Llys yr Eisteddfod, Ashok Ahir, fod yr ardal wedi aros yn eiddgar am gael Eisteddfod arall, gyda'r un diwethaf yn ardal Pwllheli yn 1955, a rhai mwy diweddar yng Nghricieth a Porthmadog.
"Ar gyfer ni sy'n rhan o reoli a threfnu'r 诺yl, mae hyn yn dangos pa mor bwysig yw e bod Eisteddfod yn mynd o le i le," meddai wrth ganmol cyfanswm ariannol y pwyllgor gwaith lleol.
"Mae'n dangos y brwdfrydedd a'r ymrwymiad mae pobl leol yn gallu 'neud i bob 'Steddfod sy'n dod atyn nhw.
"Ni mor ddiolchgar i bobl Ll欧n ac Eifionydd am y gwaith maen nhw wedi 'neud, nid jyst eleni wrth fynd dros hanner miliwn, ond dros y ddwy flynedd ddiwethaf."
Doedd neb yn fwy balch na chadeirydd y pwyllgor gwaith ei hun, Michael Strain, a roddodd glod i鈥檙 holl bobl oedd wedi gweithio鈥檔 galed i sicrhau bod popeth yn barod ar gyfer yr Eisteddfod eleni.
"Rydw i鈥檔 grediniol fod y targed ac awydd ein trigolion lleol ar draws y dalgylch i gefnogi鈥檙 Eisteddfod wedi helpu i ail-agor Ll欧n, Eifionydd ac Arfon yn dilyn y pandemig," meddai.
"Fe ddaeth pobl yn 么l at ei gilydd. Fe ail-ddechreuodd y cymdeithasu ac fe lifodd yr arian i mewn i goffrau ein g诺yl.
"Felly heddiw, mae鈥檔 bleser cyhoeddi ein cyfanswm - hyd yn hyn. Ac mae鈥檙 arian yn dal i鈥檔 cyrraedd bron yn ddyddiol."
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd3 Awst 2023
Eisteddfod arall am ddim?
Ddydd Sadwrn fe wnaeth Plaid Cymru alw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o gefnogaeth ariannol i鈥檙 Eisteddfod Genedlaethol wrth symud ymlaen.
Wrth ymateb i hynny dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses bod trafodaeth "barhaus" yn digwydd gyda鈥檙 llywodraeth am gostau.
"Bysen i'n dadlau bod cymdeithas w芒r yn un ble mae gan bawb mynediad i ddiwylliant," meddai.
"[Ond] law yn llaw 芒'r argyfwng costau byw, mae 'na argyfwng yn y diwydiant digwyddiadau, ble mae costau wedi mynd drwy'r to.
"Felly roedd 'na bwynt llynedd ble roedd rhaid i ni edrych ar ble i wneud arbediad o 拢1m, a dyna'r realaeth i ddigwyddiadau."
Ychwanegodd fod yr Eisteddfod wedi ceisio cadw costau i lawr, gyda phris tocyn bargen gynnar "yr un pris 芒 thocyn 10 mlynedd yn 么l".
Roedd Plaid Cymru hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried rhoi cefnogaeth ar gyfer mynediad am ddim i鈥檙 诺yl yn Rhondda Cynon Taf y flwyddyn nesaf, fel a gafwyd yng Nghaerdydd yn 2018.
Ond pwysleisiodd Betsan Moses mai鈥檙 "flaenoriaeth" oedd ceisio sicrhau cynlluniau fel mynediad am ddim i deuluoedd incwm isel, fel sy鈥檔 digwydd eleni, yn hytrach na Phrifwyl arall yn y de am ddim.
鈥淥 ran tegwch, pam nad yw Gwynedd yn cael Eisteddfod am ddim, pam nad yw Wrecsam yn cael Eisteddfod am ddim?鈥 meddai.