G诺yl newydd yn Nyffryn Aeron i ddathlu 'arwr lleol'
- Cyhoeddwyd
Bydd g诺yl arbennig yn cael ei chynnal am y tro cyntaf yn Nyffryn Aeron y penwythnos hwn i ddathlu "arwr lleol".
Roedd John Ffos Davies yn cael ei gydnabod fel un o hoelion wyth yr ardal. Roedd wedi treulio cyfnod fel prifathro yn Ysgol Cribyn, ac yn cyfrannu'n helaeth i'r gymuned leol.
Ganrif yn ddiweddarach mae criw lleol wedi mynd ati i drefnu g诺yl er mwyn cydnabod ei gyfraniad.
Bydd yr 诺yl yn cael ei chynnal yn hen Ysgol Cribyn - adeilad sydd bellach yn cael ei ddefnyddio gan y gymuned i gynnal digwyddiadau amrywiol.
'Dathlu Ffos Davies a'i dreftadaeth'
Wrth siarad 芒 91热爆 Cymru Fyw, dywedodd Euros Lewis, un o drefnwyr yr 诺yl, mai bwriad y digwyddiad yw "dathlu Ffos Davies a'i dreftadaeth".
Bu John Ffos Davies yn greiddiol i gadw hen alawon gwerin Cymraeg yn fyw yn yr ardal.
"Roedd ganddo glust fain," meddai Euros Lewis, a byddai Mr Davies yn cofnodi alawon ar nodiant sol-ffa er mwyn dysgu'r disgyblion a'u trosglwyddo i'r genhedlaeth nesaf.
Dywedodd Euros Lewis "oni bai iddo fe arbed y caneuon yma, 'Twll Bach y Clo', 'March Glas', bydde rheiny ddim yn enwau cyfarwydd".
Ei obaith felly yw sicrhau fod trigolion y gymuned yn fwy ymwybodol o hanes a diwylliant yr ardal ac yn gallu gwerthfawrogi cyfraniad Ffos Davies i'w filltir sgw芒r.
Dywedodd fod 'na gryn dipyn o edrych ymlaen at yr 诺yl yn lleol.
"Be sy'n braf yw gweld a theimlo'r brwdfrydedd, y naws o dy gwmpas ac mae 'na edrych ymlaen yn gyffredinol".
Bydd yr 诺yl yn gyfle i "gadw'r traddodiadau rhag diflannu, mae yn realiti, mae pobl yn gweithio gyda'i gilydd, mae'n nodwedd o gymdeithas fyw".
Bydd dwy ran i'r 诺yl - y rhan gyntaf yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc, lle bydd cyfle i'w haddysgu am waith Ffos Davies, meddai Euros Lewis.
Bydd Noson Lawen yn cael ei chynnal yn y nos lle bydd rhai o enwau mawr Cymru megis Cleif Harpwood ac Ifan Gruffydd yn perfformio.
Wrth edrych ymlaen at y noson, dywedodd Cleif Harpwood: "Mae'n amlwg fod Ffos Davies yn wir yn dipyn o foi ac mi fydd hon yn dipyn o noson - noson lawen go iawn".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mai
- Cyhoeddwyd13 Ebrill