RNLI Pwllheli i wasanaethu eto wedi 'methiant difrifol'
- Cyhoeddwyd
Bydd bad achub 'D-class' RNLI Pwllheli yn gwasanaethu unwaith eto am gyfnodau cyfyngedig o ddydd Mercher ymlaen.
Fe gaeodd yr orsaf ym mis Chwefror yn dilyn “methiant difrifol” yn y berthynas rhwng aelodau’r criw yno.
Dywedodd yr RNLI nad oedd modd cynnal y gwasanaeth ym Mhwllheli oherwydd "anghytgord parhaus".
Mae'r criw bellach wedi bod yn ailhyfforddi gydag ymarferion ac asesiadau rheolaidd yn cael eu cynnal i sicrhau bod gwirfoddolwyr ar eu hanterth yn eu sgiliau.
'Ffantastig'
Mae hyfforddiant ac asesiadau yn parhau er mwyn gobeithio dychwelyd i wasanaeth llawn yn fuan.
Mae rheolwyr yr RNLI wedi canmol y criw am eu hymroddiad, eu penderfyniad a'u gwytnwch i ail sefydlu'r orsaf, ac yn hyderus y bydd y 'D-class' yn gwbl weithredol yn yr wythnosau nesaf.
Dywedodd Caroline Jones, un o'r gwirfoddolwyr ar y lan yn RNLI Pwllheli: “Mae’n deimlad hollol wych gallu troi’r pagers yn ôl ymlaen a dychwelyd at yr hyn rydym wedi’i hyfforddi i’w wneud.
“Dros yr wythnosau diwethaf, mae’r criw wedi rhoi llawer iawn o amser ac ymroddiad i sicrhau ein bod ni’n barod i fynd yn ôl i achub bywydau.
“Rydyn ni'n gwasanaethu am gyfnodau cyfyngedig i ddechrau - sy’n newyddion gwych, gan ein bod ni gam yn nes at ddychwelyd i wasanaethu yn llawn.”
- Cyhoeddwyd13 Medi 2021
- Cyhoeddwyd1 Chwefror
- Cyhoeddwyd27 Chwefror
Dywedodd Chris Gaskin, rheolwr achub bywydau yr ardal: “Mae ymroddiad ac ymrwymiad y criw ym Mhwllheli i’w ganmol.
“Fe ategodd dwy ran o dair o’r criw eu hymrwymiad i symud ymlaen gyda’r orsaf ac rydym hefyd wedi gweld ymgyrch recriwtio hynod lwyddiannus yn y gymuned.
“Mae yna ambell gam arall i'w cymryd, ond dyma’r cam cyntaf mewn gwirionedd i ddychwelyd y 'D-class' i wasanaeth llawn, sy’n lle cyffrous i fod.”