Amgueddfa Cymru: 拢3.7m 'ddim am fynd yn ddigon pell'
- Cyhoeddwyd
Fe fydd yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn derbyn 拢3.7m rhyngddynt i ariannu "gwaith atgyweirio brys" a gwella sut mae eu casgliadau'n cael eu storio.
Er yn cydnabod ei fod yn "gam positif", dywedodd cadeirydd yr amgueddfa ei fod yn "swm bach" pan oedd angen gwneud gwerth tua 拢25m o atgyweiriadau brys hanfodol i'r adeilad.
Wrth siarad yn yr Amgueddfa Genedlaethol ddydd Mercher, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths mai 鈥渟wm bach iawn ydyw".
"Rwy鈥檔 gwerthfawrogi hynny鈥檔 llwyr, ond dyna鈥檙 cyfan y gallaf ddod o hyd iddo eleni,鈥 meddai
'Angen miliynau sylweddol'
Dywedodd Kate Eden, cadeirydd Amgueddfa Cymru: 鈥淣i fydd yr arian yn mynd yn ddigon pell.
"Ond bydd yn caniat谩u i ni gael yr arbenigedd technegol i roi鈥檙 achos busnes hwnnw at ei gilydd, i wneud rhai gwelliannau brys ar unwaith, a gwella hygyrchedd.鈥
Mae to'r amgueddfa, sydd dros 100 oed, yn gollwng - sy'n golygu bod yn rhaid tynnu paentiadau o ystafelloedd y llawr uchaf a'u storio mewn mannau eraill yn ystod cyfnodau o law trwm.
Un o'r ymweliadau cyntaf a wnaeth Lesley Griffiths ers ei phenodi yn weinidog y cabinet dros ddiwylliant a chyfiawnder cymdeithasol oedd i'r amgueddfa.
Wrth siarad 芒 phwyllgor yn y Senedd ddydd Mercher, dywedodd: "Dydw i erioed wedi gweld cymaint o fwcedi yn dal d诺r. Roedd yn erchyll."
Dywedodd hefyd wrth y pwyllgor diwylliant fod "angen miliynau sylweddol" i atgyweirio to'r amgueddfa yn llwyr.
Dywedodd Ms Griffiths: "Rwyf wedi ail-flaenoriaethu fy nghyllideb i ddod o hyd i'r cyllid (a fydd) yn helpu i wneud y gwaith atgyweirio brys hynny eleni ond rwy'n gwerthfawrogi'n llwyr yn y tymor hir y bydd angen cyllid sylweddol.鈥
Dywedodd fod yr arian wedi'i glustnodi drwy ddileu cynlluniau ar gyfer amgueddfa yng ngogledd Cymru a safle angori ar gyfer cynllun yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol, sydd ar hyn o bryd wedi'i wasgaru ar draws naw oriel gelf.
鈥淎llwn ni ddim cael adeilad newydd pan fod gennym ni adeiladau eiconig fel hyn sydd angen cyllid.鈥
Pan ofynnwyd iddi a oedd hi'n meddwl y byddai pobl yng ngogledd Cymru'n "wedi siomi" dywedodd "na, nid wyf yn meddwl hynny. Rwy'n dod o ogledd Cymru a dydw i ddim yn teimlo hynny o gwbl."
Ychwanegodd fod Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis eisoes wedi derbyn "cyllid sylweddol" i'w gwella, a bod disgwyl iddi gael ei chau am flwyddyn o fis Tachwedd 2024 ar gyfer y gwaith adnewyddu.
Dywedodd prif weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Rhodri Llwyd Morgan y bydd yr arian hwn yn mynd tuag at waith adnewyddu hanfodol i adeilad y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
鈥淢ae鈥檙 casgliad cenedlaethol sy鈥檔 cael ei gadw yma yn drysor sy鈥檔 perthyn i鈥檙 genedl a bydd y cyllid yn galluogi gweithiau y mae mawr eu hangen.
"Bydd cwblhau鈥檙 gwaith hwn yn golygu bod y casgliadau鈥檔 ddiogel yn y tymor hir ac yn sicrhau mynediad iddynt ar gyfer cenedlaethau鈥檙 dyfodol.鈥
Gostyngiad o 10.5% yn eu cyllid
Ym mis Rhagfyr 2023 hysbyswyd Amgueddfa Cymru a鈥檙 Llyfrgell Genedlaethol am ostyngiad o 10.5% yn eu cyllid 鈥 y toriad mwyaf yn eu hanes.
Dywedodd yr amgueddfa y byddai'r toriad yn 拢3m tra bod y llyfrgell yn Aberystwyth wedi dweud y byddai'r toriad yn 拢1.3m.
Ym mis Ebrill dywedodd prif weithredwr Amgueddfa Cymru, Jane Richardson y byddai'n rhaid torri "o leiaf 90 o swyddi", ond nid oes union ffigwr wedi ei gyhoeddi tra bod yr ymgynghoriad yn parhau.
Amcangyfrifir bod angen cyfanswm o 拢90m ar saith safle Amgueddfa Cymru tuag at atgyweiriadau a gwelliannau.
Mae鈥檙 safleoedd eraill yn cynnwys Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Pwll Glo Big Pit ym Mlaenafon, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, Amgueddfa Wl芒n Cymru ger Llandysul ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion.
Fe ddywedodd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod yn croesawu'r "arian ychwanegol".
"Ond mae'r ffaith nad oes mwy o arian yn cael ei gynnig yn hurt wrth gofio bod Llafur yn bwrw 'mlaen 芒 chynlluniau i gyflwyno 36 aelod ychwanegol i Senedd Cymru.
"Os yn gorfod dewis rhwng ariannu'n treftadaeth neu ariannu mwy o wleidyddion, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dewis ein treftadaeth bob tro."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mai
- Cyhoeddwyd8 Chwefror
- Cyhoeddwyd5 Chwefror