Cwmni o'r gogledd eisiau claddu carbon, nid gwastraff
- Cyhoeddwyd
Gallai safle trin gwastraff yng ngogledd Cymru fod yn un o鈥檙 rhai cyntaf ym Mhrydain i ddefnyddio technoleg dal a storio carbon.
Mae Parc Adfer yn Sir y Fflint yn creu ynni trwy losgi gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.
Ond mae鈥檙 cwmni sy鈥檔 ei redeg, enfinium, yn gobeithio dal y carbon deuocsid sy鈥檔 cael ei gynhyrchu o鈥檙 broses a鈥檌 storio yn ddwfn o dan y ddaear.
Maen nhw鈥檔 bwriadu buddsoddi 拢200m ar y safle ac yn cystadlu am gyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2017
Cafodd Parc Adfer ei agor ar Lannau Dyfrdwy yn 2019 ar 么l i bump o gynghorau鈥檙 gogledd ddod at ei gilydd i greu Prosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru (PTGGGC).
Bob blwyddyn, mae鈥檔 trin 232,000 tunnell o wastraff nad oes modd ei ailgylchu o gartrefi a busnesau鈥檙 ardal.
Mae鈥檙 ynni sy鈥檔 cael ei gynhyrchu wrth losgi鈥檙 gwastraff yn ddigon i gyflenwi trydan i 30,000 o gartrefi, yn 么l enfinium.
Mynd 芒'r dechnoleg 'i'r lefel nesaf'
Ond os bydd y cynllun diweddaraf yn llwyddiannus, bydd y carbon deuocsid sy鈥檔 cael ei ryddhau o鈥檙 ffwrneisi yn lleihau鈥檔 sylweddol.
Y bwriad ydy ei gladdu o dan F么r y Gogledd.
Mae鈥檙 datblygiad yn mynd 芒鈥檙 dechnoleg 鈥渋 lefel 鈥榙an ni heb weld鈥 yng Nghymru, yn 么l Dr Prysor Williams, sy'n ymchwilio i allyriadau carbon ym Mhrifysgol Bangor.
鈥淵n sicr efo buddsoddiad o鈥檙 lefel yma, mae bosib i hyn dyfu i rywbeth llawer mwy," meddai.
鈥'Dan ni鈥檔 gwybod am y dechnoleg ers blynyddoedd. Y broblem oedd bod o鈥檔 hynod o ddrud.
鈥淎 drwy brosiectau fel hyn 鈥榙an ni鈥檔 gobeithio fydd y dechnoleg yn symud yn ei flaen ac yn fwy fforddiadwy, a鈥檙 potensial i dyfu鈥檔 sylweddol wedyn.鈥
'Diogelu swyddi hefyd'
Roedd Uchelgais Gogledd Cymru鈥檔 un o鈥檙 rhai fu鈥檔 cefnogi enfinium ar y datblygiad.
Dywedodd Elgan Roberts, rheolwr rhaglen ynni carbon isel Uchelgais Gogledd Cymru, eu bod yn 鈥渉apus iawn鈥 i gefnogi鈥檙 prosiect.
鈥淢ae dal carbon yn un o鈥檙 opsiynau i ddatgarboneiddio鈥檙 prosesau presennol sy鈥檔 allyrru carbon deuocsid ar hyn o bryd," meddai.
鈥淢ae hyn hefyd yn medru diogelu swyddi presennol yn ogystal ag ymestyn oes yr isadeiledd sydd yna ar hyn o bryd tra 鈥榙an ni ar ein ffordd i sero net.鈥
Bydd y prosiect ar Lannau Dyfrdwy yn cystadlu gyda cheisiadau eraill am gyllid gan Lywodraeth y DU.
Mae disgwyl cyhoeddiad yn yr haf ar ba brosiectau fydd yn cael eu dewis fod yn rhan o un o raglenni datgarboneiddio diwydiant cyntaf Prydain.