Rhybudd nad yw Cymru'n ddeniadol i brosiectau ynni gwyrdd
- Cyhoeddwyd
Mae 'na rybudd nad yw Cymru'n wlad ddeniadol i gwmn茂au sydd am ddatblygu ynni adnewyddadwy.
Oedi yn y broses gynllunio a phrinder capasiti yn y grid trydan sy'n cael y bai gan Renewable UK Cymru.
Mae'r corff sy'n cynrychioli'r sector ynni adnewyddadwy yma yn dweud y gallai rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig elwa ar draul Cymru.
Maen nhw'n galw am gydweithio rhwng y gwledydd i sicrhau nad yw Cymru'n colli cyfleoedd yn sgil menter GB Energy Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud fod datblygu swyddi gwyrdd a thwf economaidd gwyrdd yn flaenoriaeth, a'u bod yn cefnogi cydweithredu ar brosiectau ynni adnewyddadwy.
Oedi
Yn 么l Renewable UK Cymru mae 'na dri chynllun yn wynebu oedi oherwydd y broses gynllunio.
Gyda'i gilydd fe allen nhw bweru dros 170,000 o gartrefi a chyfrannu 拢1m y flwyddyn i gymunedau trwy gronfeydd buddion.
Dywedodd cyfarwyddwr cynorthwyol Renewable UK Cymru, Manon Kynaston: "Maen nhw i gyd yn cael eu dal i fyny yn y system gynllunio ac yn wynebu oedi.
"Mae hynna'n rhoi signal nad yw Cymru'n lle deniadol i ddod i fuddsoddi ac ry'n ni eisiau sicrhau bod Cymru'n gallu cystadlu gyda gwledydd eraill yn y Deyrnas Unedig fel rhan o'r genhadaeth p诺er glan."
'Rhy fawr i Ynys M么n'
Mae Llywodraeth y DU yn gobeithio dyblu ynni gwynt ar y tir, a chynyddu ynni gwynt ar y m么r bedair gwaith erbyn 2030, ond mae rhai cynlluniau - fel datblygiad paneli solar Alaw M么n - wedi cythruddo rhai yn lleol.
Fe fyddai'r cynllun yn ymestyn dros 268 hectar o dir amaethyddol.
Mae Eifion O'Hare yn byw ym mhentre' Carreglefn gerllaw.
"Dwi gwbl yn erbyn y cynllun yma. Mae o'n llawer rhy fawr i Ynys M么n," meddai.
"Mae o bron fel Tryweryn, ble maen nhw'n boddi i roi i rywun arall.
"Maen nhw鈥檔 mynd i foddi鈥檙 tir da amaethyddol yma efo m么r mawr o wydr du.
"Mae ynni gwyrdd yn gr锚t, ond pam 'da ni ddim yn adeiladu nhw ar ben meysydd parcio, ar dai pobl, neu ar hyd yr heol? Nid ar dir da amaethyddol.
"Dyw鈥檙 prosiect yma ddim yn dod 芒 swyddi hir dymor i ardal sydd ei angen, ond mae o鈥檔 niweidio鈥檙 diwydiant amaeth.鈥
Dyw'r datblygwyr, Enso Energy, ddim wedi ymateb i gais 91热爆 Cymru am ymateb.
Yn 么l yr economegydd Dr Edward Thomas Jones o Brifysgol Bangor, mae'n bwysig manteisio ar y cyfleodd ddaw yn sgil menter GB Energy.
"Yn sicr mi fydd GB Energy yn gallu cael effaith yma yng Nghymru," meddai.
"Cynta' oll mi fydd 'na gryn dipyn o arian tu 么l i鈥檙 corff ac felly bydd hynny鈥檔 helpu datblygu technoleg gwyrdd yma.
"Ond beth sy鈥檔 bwysig yw ein bod ni鈥檔 cael ein si芒r teg o鈥檙 gwaith yma yng Nghymru, a tydi o ddim yn canolbwyntio 'mond ar ardaloedd eraill ym Mhrydain.
"Ac mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn cydweithio gyda datblygwyr i wneud yn si诺r bod busnesau yma yn elwa."
Mae ysgrifennydd gwladol Cymru Jo Stevens hefyd yn dweud y bydd Cymru'n elwa.
"Mae鈥檔 gyfle enfawr i ni," meddai.
"Rydym eisoes wedi cyhoeddi saith prosiect ynni gl芒n newydd yng Nghymru ers dod i rym a bydd y bartneriaeth honno rhwng GB Energy ac Yst芒d y Goron yn golygu y gallai fod 拢60bn o fuddsoddiad preifat ar gael ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Prif Weinidog wedi gosod swyddi gwyrdd a thwf economaidd gwyrdd ar frig agenda Llywodraeth Cymru ac wedi rhoi ynni, economi a chynllunio gyda鈥檌 gilydd o fewn yr un adran er mwyn helpu sicrhau ymateb cyflym i brosiectau sy鈥檔 cael eu cynnig a sy'n cyd-fynd 芒'n huchelgeisiau.
鈥淢ae Llywodraeth Cymru yn cefnogi dull cydweithredol ledled y DU ar gyfer cyfleoedd ynni adnewyddadwy, megis y dull a ddefnyddiwyd ar gyfer y Tasglu Gwynt ar y M么r Arnofiol鈥.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi
- Cyhoeddwyd11 Medi
- Cyhoeddwyd20 Awst