91热爆

Dyn, 36, yn pledio'n euog i drosedd hiliol Caernarfon

Stryd Llyn CaernarfonFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r achos yn ymwneud 芒 digwyddiad ar Stryd Llyn, Caernarfon ar 9 Awst

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 36 oed wedi pledio'n euog i drosedd yn ymwneud 芒 hiliaeth yn dilyn digwyddiad yng Nghaernarfon.

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug fore Gwener, plediodd Michael Owen Williams yn euog i drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus, wedi'i gwaethygu gan hiliaeth.

Fe blediodd Williams, o Ddolfor ger Pwllheli, yn euog hefyd i ail gyhuddiad o fynd yn groes i orchymyn atal troseddau rhyw.

Ni chlywodd y llys fanylion pellach am y cyhuddiadau, ond mae'r troseddau yn ymwneud 芒 digwyddiad ar Stryd Llyn ar 9 Awst.

Fe ymddangosodd Williams yn y llys drwy gyswllt fideo o Garchar Berwyn Wrecsam.

Mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Llandudno ar 14 Hydref.

Pynciau cysylltiedig