91热爆

Arogl wyau drwg a nwy yn 'amharu ar ein bywydau bob dydd'

Ruth Thomas
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ruth Thomas wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn y safle tirlenwi a'i weithredwyr amrywiol ers 20 mlynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae arogl sy'n dod o safle tirlenwi yn y gogledd yn "amharu ar ein bywydau bob dydd", yn 么l pobl sy'n byw yn yr ardal.

Mae pobl yn ardal Johnstown, Wrecsam yn dweud bod yn rhaid iddyn nhw gadw eu ffenestri ar gau ac aros y tu fewn i osgoi arogleuon wyau drwg a nwy sy'n dod o'r safle.

Mae perchnogion safle tirlenwi chwarel yr Hafod yn dweud eu bod yn gweithredu o fewn terfynau cyfreithiol ac yn gwneud popeth o fewn eu gallu i atal y broblem.

Mae'r cwmni wedi cael cais i ddod o hyd i atebion dros y chwe mis nesaf, yn dilyn cynnydd mewn cwynion.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cwynion wedi bod am safle tirlenwi Hafod yn ardal Wrecsam

Mae Ruth Thomas wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn y safle tirlenwi a'i weithredwyr amrywiol ers 20 mlynedd.

Mae hi'n byw hanner milltir o'r domen, a dywedodd y byddai hi bron yn imiwn i'r drewdod: "Dwi wedi arfer hefo'r arogl oni bai ei fod yn ddrwg iawn.

"Mae fel bod yn ffermwr: rydych chi'n dod i arfer ag arogl gwartheg ac mae'n mynd i ffwrdd a dyna sut dwi'n teimlo.

"Dwi nawr yn dioddef - dydw i ddim yn gwybod beth arall mae'n ei wneud i mi ar wah芒n i'r arogl."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae'n amharu ar ein bywydau bob dydd," meddai Kelly Bellis

Mae Kelly Bellis yn breswylydd arall sy'n poeni am effaith y safle ar ei merch yn ei harddegau sydd ag asthma.

Ond dywedodd fod yr arogl yn broblem i bawb sy'n byw gerllaw: "Mae'n effeithio ar ein bywyd, mae'n effeithio ar ein rhyddid, mae'n effeithio ar ein blas ar fwyd.

"Rydych chi'n arogli'r arogl hwnnw amser te a dydych chi ddim yn teimlo fel cael te.

"Felly 'da chi'n gwybod ei fod ddim yn ffordd braf o fyw ac mae'n amharu ar ein bywydau bob dydd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r arogl drwg yn achosi mwy o broblemau yn yr haf, meddai Sandra Cummings

Dywedodd Sandra Cummings fod yr arogl yn ddrwg trwy gydol y flwyddyn bob amser o'r dydd a'r nos, ond ei fod yn achosi mwy o broblemau yn yr haf.

"Os ydy hi'n noson boeth a'ch bod chi eisiau agor ffenestri oherwydd eich bod chi'n chwysu, dydych chi ddim yn gallu.

"Alla i fod mewn cwsg dwfn ac yn sydyn rydw i'n deffro yn teimlo'n sal, felly mae'n rhaid i mi fynd i gau'r ffenest."

Mewn cyfarfod craffu o gyngor Wrecsam ar 16 Hydref dywedodd Mark Silvester, Prif Swyddog Gweithredol Enovert sy鈥檔 rhedeg y safle tirlenwi, fod y cwmni鈥檔 gweithredu yn unol 芒鈥檌 drwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Mewn datganiad dywedodd: 鈥淵mhellach i sylwadau CNC sy鈥檔 cadarnhau bod Enovert yn defnyddio鈥檙 holl fesurau priodol, byddwn yn ystyried yr hyn y gallwn ei wneud y tu hwnt i鈥檙 gofynion hynny i leihau ac atal effaith arogl y tu hwnt i ffin y safle.鈥

Dywedodd CNC fod Enovert wedi nodi "mesurau priodol" yn ei gynllun i ddelio 芒'r arogl, ond deallwyd bod "effaith ar y gymuned" yn parhau.

Ychwanegodd: 鈥淩ydym yn adolygu eu cynllun yn agos i benderfynu a oes angen unrhyw fesurau ychwanegol i liniaru arogleuon ymhellach.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae CNC ac Enovert yn monitro lefelau trwytholch bob mis, meddai'r Cynghorydd David Bithell

Gofynnwyd i Enovert, CNC, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac adran diogelu鈥檙 cyhoedd Cyngor Wrecsam ddychwelyd ymhen chwe mis gydag adroddiadau ar sut y byddent yn mynd i鈥檙 afael 芒 phryderon.

Dywedodd y Cynghorydd David Bithell y byddai CNC ac Enovert yn monitro lefelau'r hylif llygredig sy'n draenio o safleoedd tirlenwi bob mis yn hytrach na phob tri mis.

Dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai hyn yn arwain at wella'r sefyllfa.

Pynciau cysylltiedig