91热爆

Arestio dyn wedi diflaniad dynes o Gaerdydd

Cafodd Charlene Hobbs, 37, o ardal Glan yr Afon yng Nghaerdydd, ei gweld ddiwethaf ar 7 Gorffennaf.Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Charlene Hobbs, 37, o ardal Glan yr Afon yng Nghaerdydd, ei gweld ddiwethaf ar 7 Gorffennaf

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 45 oed wedi鈥檌 arestio wrth i'r heddlu chwilio am ddynes na sydd wedi cael ei gweld ers bron i bedwar mis.

Cafodd Charlene Hobbs, 37, o ardal Glan yr Afon yng Nghaerdydd, ei gweld ddiwethaf ar 7 Gorffennaf.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod y dyn, o Adamsdown gerllaw, yn cael ei holi yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies fod swyddogion yn "cadw meddwl agored yngl欧n 芒 lleoliad Charlene ond rydym yn bryderus iawn am ei lles".

鈥淕allai unrhyw wybodaeth, waeth pa mor ddi-nod, ein helpu ni i ddod o hyd iddi,鈥 meddai.

"Rwyf hefyd yn apelio'n uniongyrchol ar Charlene. Os ydych yn darllen y stori yma, cysylltwch 芒'r heddlu i roi gwybod i ni eich bod yn ddiogel."

Pynciau cysylltiedig