91热爆

Crynodeb

  • Mark Drakeford yn ateb cwestiynau am y tro olaf ond un fel prif weinidog.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:38 Amser Safonol Greenwich 12 Mawrth

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Ymunwch 芒 ni eto yr wythnos nesaf wrth i Mark Drakeford ateb cwestiynau am y tro olaf fel prif weinidog.

  2. 'Addysg cyfrwng Cymraeg yw stori lwyddiant mawr y 25 mlynedd diwethaf'wedi ei gyhoeddi 14:22 Amser Safonol Greenwich 12 Mawrth

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Mark Drakeford

    Mae Laura Anne Jones o'r Ceidwadwyr yn dweud bod record Llywodraeth Cymru ar addysg dros y chwe blynedd diwethaf "yn gallu cael ei chrynhoi mewn un gair - methiant".

    Mae鈥檔 ymhelaethu, 鈥渆rs i chi ddod yn brif weinidog, mae eich llywodraeth wedi torri cyllidebau addysg i鈥檙 asgwrn flwyddyn ar 么l blwyddyn mewn termau real 鈥 hyd at 拢56 miliwn oedd yr un diweddaraf. Mae鈥檙 llywodraeth wedi methu 芒 mynd i鈥檙 afael ag argyfwng recriwtio a chadw athrawon yng Nghymru - ac mae'n argyfwng, yn enwedig y llywodraeth hon yn methu 芒 denu athrawon i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn y pynciau craidd. Bu cynnydd amlwg mewn ymddygiad drwg a thrais."

    Dywed y prif weinidog "yn y chwe blynedd diwethaf rydym wedi diwygio'n sylfaenol wasanaethau ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol, datblygu a gweithredu cwricwlwm newydd i Gymru, creu comisiwn newydd ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil. Bydd y rhain, a datblygiadau eraill yn mynd ymlaen i wella addysg yng Nghymru am flynyddoedd lawer i ddod.鈥

    Ychwanegodd mai "addysg cyfrwng Cymraeg yw stori lwyddiant mawr y 25 mlynedd diwethaf".

    Laura Anne Jones
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Laura Anne Jones

  3. Ailgylchuwedi ei gyhoeddi 14:15 Amser Safonol Greenwich 12 Mawrth

    Mae'r prif weinidog yn dweud bod maint y gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi yng Nghymru wedi gostwng o 42% i 1.6% mewn degawd, ond mae'n cydnabod bod angen gwelliant pellach o ran ailgylchu.

    O fis nesaf ymlaen, bydd y rheoliadau ailgylchu yn y gweithle yn ei gwneud yn ofynnol i bob gweithle busnes, sector cyhoeddus a thrydydd sector wahanu deunyddiau ailgylchadwy allweddol.

    AilgylchuFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  4. Atebolrwyddwedi ei gyhoeddi 14:03 Amser Safonol Greenwich 12 Mawrth

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth hefyd yn gofyn pam fod y prif weinidog yn fodlon ateb cwestiynau i Times Radio ac nid yn y Senedd am yr ymchwiliad Covid.

    Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn ateb cwestiynau ar yr amser priodol, ac y dylai Rhun ap Iorwerth 鈥渨ybod yn well鈥 na鈥檌 gyhuddo o osgoi craffu seneddol.

    Dywed Rhun ap Iorwerth "ein gwaith ni yw craffu, gwaith y prif weinidog yw bod yn agored i graffu - fel, wrth gwrs, y mae'n ei wneud ar sawl achlysur - ond cawn ddewis pryd rydym yn gofyn y cwestiynau yr ydym am eu gofyn".

    Gofynnodd Rhun ap Iorwerth hefyd "pan wrthododd y darpar Ganghellor Llafur, Rachel Reeves, ddiystyru toriadau gwariant mewn rhai meysydd, a wnaeth y prif weinidog anfon neges destun i Keir Starmer wedyn i egluro pa mor drychinebus fyddai hynny i Gymru?"

    Atebodd y prif weinidog, 鈥淢ae ei gwestiwn, sydd wedi鈥檌 gynllunio i awgrymu, rywsut, y byddai galwad gennyf fi ar y mater hwnnw yn ganlyniadol, mor bell oddi wrth y realiti o ran sut y mae鈥檔 rhaid i bleidiau fod mewn llywodraeth, yn hytrach nag yn y busnes o grwpiau pwyso a, wel, fe stopiaf yn y fan yna - pleidiau sy'n gweithredu ar sail bod yn grwpiau pwyso, yn hytrach na bod yn bleidiau difrifol o lywodraeth - rwy'n ofni bod ei gwestiwn yn amlygu'r bwlch sy'n dal i fodoli."

    Mae gan Lafur gytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru yn y Senedd.

    Rhun ap Iorwerth
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Rhun ap Iorwerth

  5. Ymchwiliad Covidwedi ei gyhoeddi 13:52 Amser Safonol Greenwich 12 Mawrth

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cyhuddo鈥檙 prif weinidog o wrthod ateb cwestiynau yn y Senedd am yr ymchwiliad Covid ond wedi gwneud hynny mewn ymateb i鈥檙 cyfryngau.

    Mae'r prif weinidog yn ateb nad yw wedi achub y blaen ar unrhyw beth mewn ymateb i gwestiynau gan y cyfryngau, ond dim ond wedi ailadrodd gwybodaeth sydd eisoes yn gyhoeddus.

    Bydd yn ymddangos gerbron yr ymchwiliad dan lw yfory.

    Am yr ail wythnos yn olynol, mae Mr Drakeford yn cael ei holi am y defnydd o WhatsApp.

    Gofynnodd Mr Davies pam y llwyddodd Mr Drakeford i siarad am Covid mewn cyfweliad yn y Times Radio dros y penwythnos, ar 么l iddo wrthod ateb cwestiynau am WhatsApp yn y Senedd.

    Dywedodd Mr Drakeford fod ei atebion yn y cyfweliad 鈥渨edi鈥檜 saern茂o鈥檔 ofalus i wneud yn si诺r mai dim ond pethau yr wyf wedi鈥檜 dweud dro ar 么l tro eisoes yma ar lawr y Senedd ac mewn mannau eraill y dywedais i鈥.

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Andrew RT Davies

  6. Gwaith dur Port Talbotwedi ei gyhoeddi 13:43 Amser Safonol Greenwich 12 Mawrth

    Wrth i ddiwedd yr ymgynghoriad ffurfiol 45 diwrnod ar yr ailstrwythuro yng ngwaith dur Port Talbot agos谩u, mae'r prif weinidog yn dweud bod ffocws ei lywodraeth ar gefnogi cynllun amgen "credadwy" yr undebau.

    "Mae cynhyrchu dur domestig o bwysigrwydd strategol i Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae cynlluniau arbenigol, a ddatblygwyd ac a gyflwynwyd gan yr undebau llafur dur, yn darparu cynllun credadwy ac uniongyrchol i gadw cynhyrchiant dur yng Nghymru," meddai.

    Mae gweinidog yr economi, Vaughan Gething yn cyfarfod 芒 phrif weithredwr Tata Steel yng Nghymru yfory meddai鈥檙 prif weinidog.

    Port TalbotFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. Trafnidiaeth gyhoedduswedi ei gyhoeddi 13:33 Amser Safonol Greenwich 12 Mawrth

    Mae Llyr Gruffydd o Blaid Cymru yn gofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cenedlaethol.

    Dywed y prif weinidog y bydd cynaliadwyedd y rhwydwaith yn dibynnu ar nifer y teithwyr yn dychwelyd i batrymau cyn y pandemig.

    Dywedodd Llyr Gruffydd ei fod yn "deall y tensiwn... rhwng ariannu rheilffyrdd ac ariannu bysiau, ac ry' ni'n ymwybodol o'r 拢235 miliwn o gyllid sydd wedi cael ei roi'n ychwanegol i Drafnidiaeth Cymru tuag at reilffyrdd."

    "Ond o gofio.. bod tri chwarter yr holl deithiau trafnidiaeth cyhoeddus yng Nghymru ar fws, ydych chi'n credu bod eich llywodraeth chi wedi cael y balans ariannu yna rhwng ariannu trenau ac ariannu bysiau yn gywir?"

    Atebodd y prif weinidog, "y broblem yw ei bod hi bron 芒 bod yn amhosibl tynnu arian m芒s o'r rheilffyrdd achos mae costau yna o hyd".

    Llyr Gruffydd
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Llyr Gruffydd

  8. Croesowedi ei gyhoeddi 13:06 Amser Safonol Greenwich 12 Mawrth

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.