Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Cymru 0-40 Ffrainc
- Cyhoeddwyd
Methodd t卯m merched Cymru 芒 sgorio'r un pwynt yn erbyn Ffrainc yng Nghaerdydd ddydd Sul yn ystod eu pedwaredd colled o bedwar yn ymgyrch Chwe Gwlad eleni.
40-0 oedd y sg么r terfynol ym Mharc yr Arfau wrth i'r gwrthwynebwyr sgorio chwe chais amlygu pam eu bod mewn sefyllfa i anelu at sicrhau Camp Lawn.
Roedd yr ymwelwyr 19 pwynt i ddim ar y blaen ar ddiwedd hanner cyntaf yn dilyn ceisiau Annaelle Deshaye, Joanna Grisez a Romane Menager.
Fe diriodd Gabrielle Vernier, Manae Feleu a Grisez am yr eildro yn yr ail hanner i sicrhau buddugoliaeth pwynt bonws - er i'r ystadegau ddangos mai dim ond 35% o'r meddiant y cafodd Ffrainc.
Roedd perfformiad Sisilia Tuipulotu yn elfen bositif i Gymru, ac fe ddaeth Mollie Wilkinson i'r maes yn yr ail hanner - y chweched aelod o'r garfan i ennill cap rhyngwladol cyntaf yn ystod ymgyrch eleni.
Golyga'r canlyniad bod t卯m Ioan Cunningham yn parhau ymhell ar waelod y tabl gydag un g锚m i fynd - gartref yn Stadiwm Principality, yn erbyn Yr Eidal ddydd Sadwrn 27 Ebrill.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ebrill
- Cyhoeddwyd30 Mawrth
- Cyhoeddwyd23 Mawrth