91热爆

Gething yn amddiffyn toriadau Amgueddfa Cymru

  • Cyhoeddwyd
VGFfynhonnell y llun, Matthew Horwood

Mae'r Prif Weinidog wedi amddiffyn toriadau i amgueddfa genedlaethol Cymru.

Yn ystod cynhadledd i'r wasg ddydd Llun, ni wnaeth Vaughan Gething gynnig unrhyw gymorth brys i Amgueddfa Cymru, sydd wedi rhybuddio y gallai eu prif safle yng Nghaerdydd gau.

Dywedodd Mr Gething fod hyn o ganlyniad i geisio blaenoriaethu'r gwasanaeth iechyd ar 么l degawd o ddiffyg arian.

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi wynebu "penderfyniadau anodd".

Amgueddfa Cymru i dorri o leiaf 90 o swyddi

Dros y penwythnos, fe wnaeth Amgueddfa Cymru gyhoeddi eu bod yn torri o leiaf 90 o swyddi yn dilyn toriad i'w cyllid.

Wrth drio gwella sefyllfa'r gwasanaeth iechyd a Thrafnidiaeth Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud toriadau i fannau eraill o fewn y gyllideb.

Ddydd Sul, fe rybuddiodd Jane Richards, Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru, y gallai un o'i safleoedd mwyaf adnabyddus, yr amgueddfa genedlaethol yng Nghaerdydd, gau gan fod ei gyflwr yn dirywio.

Mae'r sefydliad wedi derbyn toriad o 拢3m i'w grant, ond gan eu bod yn parhau i wneud diffyg o 拢1.5m yn flynyddol, bydd cyfanswm y bwlch yn cyrraedd 拢4.5m erbyn diwedd Mawrth.

Mae gan y sefydliad saith safle dros Gymru, ac mae 'na werth 拢90m o waith adnewyddu ar draws y safleoedd.

Blaenoriaethu'r gwasanaeth iechyd

Wrth siarad yng Ngholeg Gwent yng Nglyn Ebwy, dywedodd Mr Gething ei fod yn blaenoriaethu "iechyd a gofal cymdeithasol a llywodraeth leol, sy'n golygu roedd penderfyniadau anodd iawn i'w gwneud ar draws yr ystod o lywodraeth".

"Os yw'r GIG wir am fod yn flaenoriaeth i ni, yna mae'n rhaid i ni fuddsoddi ynddo fe, does dim modd cael y canlyniad hwn am ddim ar draul pethau eraill o fywyd y cyhoedd."

Dywedodd fod hyn "wirioneddol yn tanlinellu'r angen i gael setliad gwahanol ar lefel y DU".

Llywodraeth y DU sy'n darparu'r rhan fwyaf o arian Llywodraeth Cymru, ond mae Llywodraeth Cymru yn aml yn dweud nad ydyn nhw'n derbyn digon i gynnig gwasanaethau.

"Byddwn yn hoffi gweld dyfodol lle bydd modd i'r amgueddfa genedlaethol yng Nghaerdydd wneud y gwaith atgyweirio ar yr adeilad gan gynnig gwasanaeth ardderchog," dywedodd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r amgueddfa genedlaethol yng nghanol canolfan ddinesig Caerdydd

Fe ychwanegodd: "Mae'n rhaid i ni feddwl am yr hyn y gall yr amgueddfa gynnig, rhywbeth y mae pobl yn ymwybodol amdano, ac yn cymryd mantais ohono.

"Mae gennym ni'r hawl, a dylwn barhau i gael uchelgais ar gyfer yr hyn y gall ein hamgueddfeydd ac orielau cenedlaethol gynnig."

Mewn datganiad, dywedodd Amgueddfa Cymru nad oes ganddyn nhw gynlluniau i gau'r amgueddfa genedlaethol yng Nghaerdydd, ond bod yna ddifrod sylweddol i'r to.

"Rydym yn trafod gyda Llywodraeth Cymru i dderbyn cyllid cyfalaf yn arbennig ar gyfer y gwaith adeiladu."

Maen nhw'n dweud nad ydynt wedi gwneud unrhyw ddiswyddiadau gorfodol eto, ond eu bod yn cynnal cynllun diswyddo gwirfoddol.