91热爆

Ambiwlans Awyr: Safleoedd Caernarfon a'r Trallwng i gau

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlans Awyr

Bydd canolfannau ambiwlans awyr yn Y Trallwng a Chaernarfon yn cau a chanolfan newydd yn agor yng nghanol gogledd Cymru.

Mae'n dilyn adolygiad o'r gwasanaeth sydd wedi para bron i flwyddyn.

Cafodd penderfyniad ei wneud gan fwyafrif benaethiaid byrddau iechyd Cymru mewn cyfarfod o'r Cyd-bwyllgor Comisiynu (CBC) ddydd Mawrth - mwyafrif nad oedd yn cynnwys Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Does dim penderfyniad eto lle fydd y ganolfan newydd - Rhuddlan yn Sir Ddinbych sydd wedi ei grybwyll fel lleoliad posib.

Ond fe fydd y ganolfan yng nghanol gogledd Cymru, gyferbyn 芒'r A55, ac elusen Ambiwlans Awyr Cymru fydd yn gyfrifol am y trefniadau.

Ni fydd unrhyw newid nes bod gwasanaeth cerbydau ffordd newydd eisoes ar waith, ond mae disgwyl i'r gwasanaeth ar ei newydd wedd fod yn weithredol yn 2026.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ymgyrchwyr yn honni y byddai pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig ar eu colled pe bai'r gwasanaeth yn symud

Mae'r CBC yn galw am gomisiynu a datblygu gwasanaeth trosglwyddo achosion brys yn defnyddio cerbydau ffordd ar gyfer ardaloedd gwledig yn y gogledd a'r canolbarth yn dilyn pryderon ers dechrau'r adolygiad.

Mae ymgyrchwyr sydd eisiau cadw'r canolfannau presennol ar agor yn dweud y bydd cleifion mewn rhai mannau gwledig ar eu colled o ganlyniad symud yr hofrenyddion i safle newydd yn y gogledd.

Ond daeth adolygiad GCTMB, y gwasanaeth sy'n trosglwyddo cleifion gofal brys ac argyfyngau, i'r casgliad y byddai adleoli'r hofrenyddion yn caniat谩u i'r gwasanaeth ymateb i fwy o alwadau brys bob blwyddyn ac i wneud mwy o ddefnydd o'r meddygon arbenigol.

Dyw'r penderfyniad ddim yn effeithio ar ddwy ganolfan arall y gwasanaeth yn Llanelli a Chaerdydd - yr unig un sy'n gweithredu yn y nos ar hyn o bryd.

Cafodd yr adolygiad ei arwain gan Brif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Stephen Harrhy, a'r nod oedd gwneud gwelliannau i'r gwasanaeth a gwella effeithlonrwydd.

Yn 么l ei adroddiad, bydd newid lleoliad yr hofrenyddion a cherbydau ffordd yn galluogi'r gwasanaeth i ymateb i 139 o alwadau brys ychwanegol bob blwyddyn.

Mae'n fwriad i'r ganolfan newydd gynnal dwy shifft y diwrnod, gan gynnwys un rhwng 14:00 a 02:00 - cam a fyddai'n gwella'r ddarpariaeth ar draws Cymru yn enwedig gyda'r nos, y cyfnod sydd i gyfri am 70% o'r galw nad sy'n cael ei ddiwallu.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Stephen Harrhy yw Prif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans sy'n arwain yr adolygiad

Pryder gwrthwynebwyr yw y bydd y galwadau ychwanegol yn cael eu hateb yng ngogledd-ddwyrain Cymru - ond bydd pobl yn y canolbarth a rhannau o Ben Ll欧n ac Ynys M么n yn colli allan ac yn gweld cynnydd yn yr amseroedd ymateb iddyn nhw.

Fel rhan o ymgyrch hir yn y canolbarth yn erbyn unrhyw newid, cafodd baneri ac arwyddion eu gosod ar giatiau ac ymylon ffyrdd yn galw am gadw canolfan Y Trallwng ar agor.

Mae'r gwasanaeth ambiwlans awyr yn rhan o bartneriaeth - GIG Cymru sy'n cyflogi'r meddygon sy'n teithio ar yr hofrenyddion ac yn talu am yr offer meddygol maen nhw'n ei ddefnyddio.

Elusen Ambiwlans Awyr Cymru sy'n talu am yr hofrenyddion, y peilotiaid a'r canolfannau awyr - mae angen 拢11.2m y flwyddyn ar yr elusen.

Ond ers cyhoeddi'r argymhelliad i gau'r canolfannau, mae llawer o bobl wedi postio negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud y byddan nhw'n rhoi'r gorau i gefnogi'r elusen os bydd yr hofrenyddion yn cael eu symud.

Daeth yr adolygiad i'r casgliad y byddai adleoli'r hofrenyddion i ganolfan newydd yn "datblygu a gwella mynediad, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y gwasanaeth ar draws Cymru".

Hefyd, yn 么l yr adroddiad a gyhoeddwyd ar ddiwedd yr adolygiad mae angen gwelliannau i'r gwasanaeth yn arbennig yn ystod y nos yn y gogledd.

Yn yr ardal honno, mae tua 530,000 o bobl yn byw sydd heb fynediad at wasanaeth gan hofrennydd o fewn awr ar 么l 20:00.

Dyma un o'r rhesymau pam nad oedd cadw'r sefyllfa bresennol yn opsiwn, yn 么l yr adroddiad.

Ffynhonnell y llun, Ambiwlans Awyr Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ambiwlans Awyr Cymru'n dweud y bydd y newidiadau'n golygu bod modd cyrraedd mwy o ddigwyddiadau

Hefyd, roedd yr adolygiad wedi canfod nad yw'r hofrenyddion na'r cerbydau ffordd sydd yn y Trallwng a Chaernarfon yn cael eu defnyddio mor aml a'r adnoddau yn Llanelli a Chaerdydd.

Ond mae ymgyrchwyr sydd am gadw canolfannau'r Trallwng a Chaernarfon ar agor yn dweud eu bod yn ofni y gallai ardaloedd anghysbell canolbarth a gogledd-orllewin Cymru fod ar eu colled pan fydd y newidiadau yn digwydd.

Dangosodd gwaith modelu yr adolygiad bod hofrenyddion sy'n hedfan o Ruddlan yn gallu cyrraedd 25.1% o'r boblogaeth - sy'n is na'r canrannau ar gyfer Y Trallwng (40.1%) a Chaernarfon (25.8%).

Canfu'r gwaith modelu hefyd na fyddai Rhuddlan yn gallu darparu yr un lefel o wasanaeth ar y ffyrdd o fewn 90 munud, a'r hyn sy'n cael ei gynnig gan y canolfannau presennol.

Ymhlith yr ardaloedd fydd ddim modd eu cyrraedd mae Pen Ll欧n, rhannau o Ynys M么n a rhan helaeth o ganolbarth Cymru.

'Gwarth'

Yn y gorffennol dywedodd un ymgyrchydd, Elwyn Vaughan - sy'n gynghorydd ym Mhowys - fod yr argymhellion yn "warth llwyr."

Ffynhonnell y llun, Facebook/Rhys Lewis
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gafodd Rhys Lewis ddamwain ddifrifol 10 mlynedd yn 么l ac aeth ei deulu ati i godi arian i'r gwasanaeth ambiwlans awyr wedi iddo elwa o'u cymorth

Un sy'n poeni ynghylch colli'r ganolfan yn Y Trallwng yw Rhys Lewis, o Benegoes ger Machynlleth, a gafodd anaf difrifol dros 10 mlynedd yn 么l wedi i goeden yr oedd yn ei thocio gwympo arno.

Er mewn ardal mor anghysbell - "ar waelod dyffryn ble doedd dim signal ff么n" - fe gyrhaeddodd ambiwlans awyr "o fewn 12 munud o'r alwad" a glanio mewn man agosach nag fyddai wedi bod yn bosib i ambiwlans ffordd.

Fe gymrodd "awr a hanner i'r ambiwlans ffordd gyrra'dd - digwydd bod roedd yr agosaf yn Llanidloes," dywedodd wrth raglen Dros Frecwast.

Mae yna deimladau cryf yn erbyn y newidiadau, meddai, mewn ardal mor eang a gwledig, ac mae'n rhagweld mai parhau fydd ymgyrchu i gynnal gwasanaethau brys yn y canolbarth.

"Mae'n hollol boncyrs be maen nhw'n trio 'neud... lle 'dan ni'n edrych ar hanner awr, 40 minutes o Rhuddlan, os 'di'r hofrennydd ar ga'l."

Fe gododd Mr Lewis arian i'r gwasanaeth i ddiolch am eu help wedi ei ddamwain, ond fe awgrymodd bod sawl un y mae'n eu adnabod wedi dechrau cefnu ar yr elusen gan ganslo'u debyd uniongyrchol misol neu chwilio am elusennau eraill i'w cefnogi wrth gynnal digwyddiadau.

Pynciau cysylltiedig