C么r Meibion Trelawnyd: Cofio Ednyfed Williams
- Cyhoeddwyd
Cymeriad, bonheddwr a baswr heb ei ail.
Dyma rai o'r geiriau sy'n cael eu hail adrodd gan aelodau o G么r Meibion Trelawnyd i ddisgrifio Ednyfed Williams.
Yn 96 oed bu farw Mr Williams gan adael sedd wag yng nghanol aelodau un o gorau enwocaf Cymru.
Ond mae colli rhywun fel Ednyfed Williams yn fwy na cholli dim ond llais, roedd ei gwmn茂aeth a'i frwdfrydedd at y c么r yn anhygoel.
'Llais mawr'
Dim ond tair oed oedd Mr Williams pan sefydlwyd C么r Trelawnyd yn 1933, ac ychydig dros 20 mlynedd yn ddiweddarach daeth yn aelod ei hun yn 1955.
Ganwyd ym mhentref Frongoch ger y Bala cyn derbyn ei addysg uwchradd yn Nhreffynnon.
Gweithiodd am ddegawdau fel athro a dyna pryd daeth arweinydd C么r Trelawnyd, Ann Atkinson, ar ei draws am y tro cyntaf.
Meddai: "Roeddwn yn gwneud ymarfer dysgu ar y pryd yn Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug. Roedd Ednyfed yn ddirprwy yno a beth wnaeth fy nharo i gyntaf oedd y llais mawr yma.
"Ond beth oedd yn gwbl amlwg oedd mai dyn annwyl a pharchus oedd berchen y llais yna.
"Blynyddoedd maith yn ddiweddarach fe wnaeth ein llwybrau groesi eto pan nes i ymuno i arwain y c么r yn 2015."
N么l yn 2021 rhyddhawyd ffilm o'r enw Men Who Sing.
Mae Men Who Sing yn bortread o G么r Meibion Trelawnyd wrth i'w haelodau wynebu heriau personol ac wrth i'r c么r frwydro i geisio denu aelodau newydd.
Mae hefyd yn bwrw golwg ar berthynas cynhyrchydd y ffilm, Dylan Williams sy'n byw yn Sweden, gyda'i dad, Ednyfed, yng Nghymru.
Cafodd fersiwn Gymraeg ohoni, Y C么r, ei rhyddhau hefyd ar S4C.
Fe ddychwelodd Dylan adref i Ddyserth pan ffoniodd ei dad i roi gwybod iddo ei fod yn gwerthu cartref y teulu a bod "sgip y tu allan" ar gyfer cynnwys y t欧.
Dywedodd wrth raglen Newyddion S4C yn 2021: "Roedd gweld fy nhad yn cerdded o amgylch cartref gwag yn rhywbeth cryf iawn, so nes i ddechre ffilmio.
"A wedyn y noson gyntaf oeddwn i'n 么l, nes i fynd i fyny efo fo i bractis y c么r.
"Mae nhad i wedi bod yn aelod o'r c么r ers bron i 70 mlynedd a nes i fynd i fewn a gweld yr holl ddynion 'ma o'n i'n 'nabod o fy mhlentyndod, sydd bellach yn eu 70au ac 80au.
"A nethon nhw sefyll a dechrau canu ac 'nath o fynd syth trwydda i. Ac o'n i'n teimlo bod gen i rywbeth o'n i isio edrych mewn iddo fo mewn ffilm."
Mae Grahame Thomas, ysgrifennydd C么r Trelawnyd, wedi bod yn aelod ers 44 o flynyddoedd.
"Roedd cymeriad Ednyfed yn heintus ac yn codi ysbryd pawb yn ymarferion y c么r," meddai.
"Ednyfed oedd ein 肠辞尘辫猫谤别 mewn digwyddiadau cyhoeddus ac roedd ei ddawn o allu siarad a chydio mewn cynulleidfa yn anhygoel.
"Roedd o'n unigryw, roedd o wastad yn llawn hwyl a thynnu coes, ond doedd o byth yn dweud dim byd anweddus nag amharchus.
"Hyd yn oed yn 96 oed doedd o byth yn colli unrhyw un o'r ymarferion.
"Roedd yn rhan o gyngerdd G诺yl Dewi gyda ni rhai wythnosau yn 么l yng Nghadeirlan Llanelwy, felly mae'n newyddion hynod o drist ei fod wedi ein gadael ni," meddai.
Un stori sy'n aros yn y cof i Ann sy'n gwneud iddi wenu wrth feddwl am Ednyfed yw'r digwyddiad pan oedden nhw'n recordio CD ddiweddara'r c么r.
"Roedden ni gyd wrthi yn recordio, roedd 'na ddarn ysgubol ble roedd 'na Amen fawr ar ddiwedd y darn.
"Dyma'r c么r yn mynd amdani ac ar y nodyn olaf dyma fi'n clywed rhywun yn gweiddi 'Waw'.
"Ednyfed oedd o. Doedd o methu helpu ei hun, wedi ymgolli'n llwyr yn y darn ac yn gwerthfawrogi ymdrechion y c么r i gyrraedd y nodau yna.
"Roedd pawb yn ei dyblau yn chwerthin ac roeddwn i eisiau cadw'r "Waw" yn y darn gorffenedig ar y CD.
"Ond dyna sut un oedd o, wrth ei fodd gyda cherddoriaeth ac yn gallu ymgolli ei hun mewn darnau cerddorol. Ond yn fwy na dim roedd ganddo fo lais anhygoel, roedd o'n pwyso'r adran fas at ei gilydd yn berffaith," meddai.
Cawr C么r Trelawnyd
Roedd y c么r yn golygu popeth iddo ac roedd o'n golygu popeth i'r c么r, yn 么l ei ffrindiau.
Y penwythnos hwn bydd y c么r yn perfformio yn Stadiwm y Principality cyn g锚m pencampwriaeth y Chwe Gwlad rhwng Cymru a'r Eidal.
Bydd un aelod yn llai o'r c么r yn camu ar y tir ble mae sawl cawr a phencampwr wedi troedio dros y blynyddoedd.
Ond bydd cawr C么r Trelawnyd yn cael ei gofio, meddai Grahame Thomas, wrth i weddill y c么r "ganu gyda deigryn yn ein llygaid gan gofio ar yr un pryd am gyfaill mor arbennig."
Hefyd o ddiddordeb: