Cyhoeddi rhestr fer gwobrau llyfrau Tir na n-Og
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi'r rhestr fer Gymraeg ar gyfer gwobrau llyfrau Tir na n-Og 2024
Dywedodd y Cyngor Llyfrau bod y gwobrau'n "dathlu'r gorau o straeon o Gymru a straeon am Gymru a gyhoeddwyd yn 2023".
Gwobrau Tir na n-Og yw'r gwobrau hynaf ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Mae gan y wobr Gymraeg ddau gategori - ar gyfer oedran cynradd ac oedran uwchradd.
Rhestr fer cynradd
Jac a'r Angel gan Daf James, darluniwyd gan Bethan Mai (Y Lolfa)
Mari a Mrs Cloch gan Caryl Lewis, darluniwyd gan Val茅riane Leblond (Y Lolfa)
Wyneb yn Wyneb gan Sioned Wyn Roberts (Atebol)
Y Gragen gan Casia Wiliam, darluniwyd gan Naomi Bennet (Cyhoeddiadau Barddas)
Rhestr fer uwchradd
Astronot yn yr Atig gan Megan Angharad Hunter (Y Lolfa)
Fi ydy Fi gan Sian Eirian Lewis, darluniwyd gan Celyn Hunt (Y Lolfa)
S锚r y Nos yn Gwenu gan Casia Wiliam (Y Lolfa)
Y beirniaid ar y panel ar gyfer y llyfrau Cymraeg eleni oedd Sara Yassine, Si么n Lloyd Edwards a Rhys Dilwyn Jenkins, dan gadeiryddiaeth Sioned Dafydd.
Dywedodd Ms Dafydd: "Roedd cytundeb ymysg y panel fod pawb wedi cael blas ar y darllen a bod plant Cymru yn ffodus iawn o gael y fath ystod o lyfrau safonol i'w mwynhau a'u trysori.
"Diolch i'r holl weisg, yr awduron a'r dylunwyr am oriau o bleser ac ymgolli!
"Credwn bod llyfrau ymysg y casgliad eleni a fydd yn ffefrynnau gan blant Cymru a bydd ambell lyfr yn sicr o gael ei fyseddu a'i ddarllen yn dawel ac ar goedd drosodd a throsodd am flynyddoedd i ddod."
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar 29 Mai ar Faes Eisteddfod yr Urdd ym Meifod.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth
- Cyhoeddwyd7 Mawrth
- Cyhoeddwyd25 Ionawr