91热爆

Adolygiad barnwrol yn cynnig gobaith i ymgyrchwyr Penrhos

  • Cyhoeddwyd
Penrhos
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r safle yn ymestyn dros 200 acer, ond dywedodd y cwmni y bydd 73 o aceri yn parhau ar gael i'r cyhoedd fwynhau

Bydd ymgyrchwyr sy'n gobeithio atal pentref gwyliau rhag cael ei adeiladu ar ran o barc gwledig ym M么n yn cael dadlau eu hachos mewn adolygiad barnwrol.

Er gwaethaf dadlau tanbaid, fe roddwyd caniat芒d cynllunio amlinellol yn 2016 i adeiladu 500 o fythynnod gwyliau ar dir ym Mharc Arfordirol Penrhos ger Caergybi.

Canlyniad y cynlluniau fyddai datblygu tua 200 acer o'r parc arfordirol poblogaidd, a sefydlwyd ar gyfer y gymuned ym 1971 gan hen ffatri Alwminiwm M么n.

Mae gr诺p ymgyrchu, sydd wedi dadlau ers tro yn erbyn y datblygiad, yn honni bod y terfyn amser o bum mlynedd i ddechrau'r gwaith ar y datblygiad wedi dod i ben yn ystod haf 2022.

O ganlyniad maen nhw'n dweud bod rhaid i'r datblygwyr ailgyflwyno'r datblygiad yn ei gyfanrwydd am ganiat芒d cynllunio o'r newydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 2016 sicrhaodd cwmni Land and Lakes ganiat芒d i godi 500 o fythynnod gwyliau ar ran o safle Penrhos ger Caergybi

Ond mae Cyngor Ynys M么n, ar 么l sicrhau ei gyngor cyfreithiol ei hun, yn credu bod y caniat芒d pentref gwyliau yn dal i sefyll a bod digon o waith wedi ei wneud i gwrdd 芒'r terfyn amser o bum mlynedd.

Yr wythnos hon daeth gwrandawiad llys yng Nghaerdydd i'r casgliad bod rhai agweddau o ddadl yr ymgyrchwyr yn haeddu ystyriaeth bellach, ac mae disgwyl iddynt gael eu clywed yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r parc, ar gyrion Caergybi, yn un gwledig ac yn hafan i fyd natur yn 么l ymgyrchwyr

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor M么n: "Yn dilyn y gwrandawiad Ddydd Mawrth (27 Chwefror), cadarnhawyd gan y barnwr fod gan yr hawlydd achos y gellid ei ddadlau ar ddwy sail benodol yn unig ac y byddai gwrandawiad arall yn cael ei drefnu ar gyfer yr Uchel Lys yn ddiweddarach eleni er mwyn clywed dadleuon ar y seiliau hynny.

"Cadarnhaodd y barnwr fod caniat谩u'r ddwy sail yma i gael eu dadlau yn cael ei wneud o drwch blewyn ac nad oedd yn dymuno rhoi 'ffug obaith' (geiriau'r barnwr) i'r hawlydd.

"Mae'r cyngor sir yn parhau'n hyderus yn ei broses o wneud penderfyniadau a bydd yn cyflwyno'r achos hwn unwaith eto yn yr Uchel Lys."

Yn 么l y datblygwyr, cwmni Land and Lakes, "gwnaethpwyd dechreuad effeithiol i'r datblygiad ym Mhenrhos yn 2021, sy'n golygu bod y caniat芒d cynllunio ar gyfer y safle bellach yn cael ei gadw am byth".

Fodd bynnag, fe ychwanegon nhw fod "datblygiad ar raddfa lawn wedi'i oedi wrth i ni ddisgwyl i'r heriau presennol yn economi'r DU leddfu".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe sefydlwyd Parc Arfordirol Penrhos ar gyfer y gymuned ym 1971 gan hen ffatri Alwminiwm M么n

Maen nhw hefyd yn bendant nad oes unrhyw gynlluniau i rwystro mynediad i safle Penrhos i'r cyhoedd.

"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y bydd 'na hawl mynediad i 73 acer o goed a llwybrau, ac agor 100 acer arall o dir ger cae glas i'r cyhoedd allu ei fwynhau."

'Cefnogaeth anhygoel'

Yn 么l sefydliad y Woodland Trust, mae'r parc yn denu rhyw 100,000 o ymwelwyr bob blwyddyn gyda chyfoeth o goed, anifeiliaid a blodau yn tyfu yno.

Wedi denu cefnogaeth yn lleol mae ap锚l ddiweddaraf gr诺p ymgyrchu Achub Penrhos i helpu ariannu eu costau cyfreithiol bellach wedi cyrraedd 拢22,000.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ymgyrchwyr Achub Penrhos y tu allan i siambr y cyngor cyn cyfarfod cynllunio y llynedd

Dywedodd Hilary Paterson-Jones o'r gr诺p: "Rydym wrth ein bodd ei fod wedi symud ymlaen i adolygiad barnwrol llawn gan fod teimladau cryf iawn yn yr ardal na all y datblygiad yma fynd yn ei flaen.

"Roedd yn rhaid i ni brofi nad oedden nhw [Land and Lakes] wedi dechrau'r gwaith go iawn ac roedd y barnwr yn eithaf hapus bod ganddon ni achos.

"Mae ein hymgyrch yn un llawr gwlad ond mae'r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel, 'da ni wedi bod yn brwydro ers 14 mlynedd bellach a dydan ni ddim yn mynd i roi'r gorau iddi r诺an."

Pynciau cysylltiedig