91热爆

Tom Lockyer: 'Teulu'n dod gyntaf' cyn dychwelyd i chwarae

  • Cyhoeddwyd
Lockyer yn chwarae i GymruFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae p锚l-droediwr Cymru Tom Lockyer yn dweud y bydd yn ystyried ei deulu gyntaf cyn unrhyw benderfyniad i ddychwelyd i chwarae yn dilyn ataliad ar y galon.

Fe ddisgynnodd amddiffynnwr Luton Town, 29, ar y cae mewn g锚m Uwch Gynghrair yn erbyn Bournemouth ym mis Rhagfyr.

Roedd "yn dechnegol wedi marw" am ddau funud a 40 eiliad cyn i staff meddygol ei adfer.

Mae nawr yn annog mwy o bobl i wneud hyfforddiant CPR, gan ddweud nad pawb fydd mewn sefyllfa mor ffodus ag yr oedd ef.

'Dwi eisiau i fwy o bobl ddechrau dysgu CPR'

"Fi'n lwcus iawn achos tase fe heb ddigwydd ar gae p锚l-droed, mae pob posibilrwydd fydden i ddim yma," meddai mewn cyfweliad gyda 91热爆 Breakfast.

"Mae meddwl am hynny, fy nghariad [sy'n feichiog] yn magu plentyn ar ei phen ei hun, yn dorcalonnus.

"Dyna pam mae'r darlun mawr yn bwysig - dwi eisiau i fwy o bobl ddechrau dysgu CPR."

Dyma'r eildro i Lockyer gael problem ar ei galon, wedi iddo hefyd ddisgyn ar y cae yn rownd derfynol y gemau ail gyfle fis Mai diwethaf pan gafodd Luton ddyrchafiad i'r Uwch Gynghrair.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Tom Lockyer ataliad ar y galon yn ystod g锚m fis Ragfyr

Ar 么l llawdriniaeth fe ddychwelodd i chwarae, cyn ei ataliad ar y galon ar 16 Rhagfyr yn Bournemouth.

Bydd "yn ddiolchgar am byth", meddai, i'r staff meddygol a'i achubodd ar y diwrnod hwnnw.

"Heb y bobl yna oedd yn wych dan bwysau, fydden i ddim yma heddiw ac yn ddigon lwcus i fod yn paratoi i groesawu merch fach i'r byd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tom Lockyer yn cydnabod y gefnogaeth yn Luton cyn g锚m Uwch Gynghrair fis Ionawr

Mae doctoriaid nawr wedi gosod teclyn ICD (implantable cardioverter-defibrillator) yn ei frest, sydd i fod i ailddechrau'r galon yn syth os oes digwyddiad tebyg yn y dyfodol.

Ond mae Lockyer, sydd wedi ennill 16 cap dros Gymru ac oedd yn rhan o'r garfan yn Euro 2021 a Chwpan y Byd 2022, yn dweud ei bod hi'n "rhy gynnar" i wybod a fydd yn chwarae eto.

"Ar un llaw fi mor ddiolchgar, os oes rhaid i fi ymddeol, mod i wedi bod yn ddigon lwcus i chwarae yn yr Uwch Gynghrair, sgorio yn yr Uwch Gynghrair, cynrychioli fy ngwlad, yr holl bethau gwych yna," meddai'r g诺r o Gaerdydd.

"Ac ar y llaw arall fi'n teimlo bydden i wrth fy modd gyda thipyn bach mwy.

"Fydden i ddim yn mynd yn erbyn unrhyw gyngor meddygol... ac mae pethau mwy ar y gorwel nawr gyda'r babi.

"Byddai'n rhaid i fi siarad gyda'r teulu cyn ystyried dod yn 么l - fi'n canolbwyntio ar y babi nawr."