Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Hunanbortread eiconig van Gogh yn dod i Gymru
Bydd hunanbortread enwog yr artist Vincent van Gogh yn dod i Gymru ym mis Mawrth fel rhan o gynllun cyfnewid gyda'r Mus茅e D'Orsay ym Mharis.
Fe fydd Portread o'r Artist (1887) i'w weld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 16 Mawrth tan fis Ionawr 2025.
Dyma'r tro cyntaf i'r hunanbortread enwog ddod i Gymru.
Fel rhan o gynllun cyfnewid gyda'r Mus茅e D'Orsay, bydd un o'r paentiadau enwocaf yng nghasgliad Amgueddfa Cymru, La Parisienne gan Renoir - y Fenyw Las - yn mynd i Baris.
Bydd y paentiad gan van Gogh i'w weld yn rhan o arddangosfa newydd, Drych ar yr Hunlun, sy'n gofyn y cwestiwn 'Ai'r hunanbortread oedd yr hunlun cyntaf?'
Yn cadw cwmni i van Gogh bydd detholiad o artistiaid yng nghasgliad cenedlaethol Cymru, gan gynnwys Rembrandt, Brenda Chamberlain, Francis Bacon, Bedwyr Williams ac Anya Paintsil.