91热爆

'Symud gemau Chwe Gwlad i sianeli di-d芒l yn golled i URC'

  • Cyhoeddwyd
G锚m rygbiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ar hyn o bryd mae gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn cael eu dangos ar y 91热爆, ITV ac S4C

Byddai symud Pencampwriaeth y Chwe Gwlad i restr o ddigwyddiadau chwaraeon sydd wedi eu gwarchod ar gyfer darllediadau teledu am ddim yn cael effaith niweidiol ar rygbi Cymru, meddai URC.

Mewn llythyr at bwyllgor Diwylliant a Chwaraeon y Senedd, mae prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney yn dweud mai'r system bresennol sydd orau - lle mae sicrwydd o ddarlledu uchafbwyntiau ar deledu am ddim ond nid y gemau cyfan yn fyw.

Mae yna alwadau wedi bod gan wleidyddion ym Mae Caerdydd a San Steffan am i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad gael ei symud i Gr诺p A o ddigwyddiadau mawr - sy'n cael eu cynnig i sianeli daearol ar delerau rhesymol a theg.

Ar hyn o bryd mae'r Chwe Gwlad yng Ngr诺p B, sy'n golygu bod modd darlledu gemau byw ar wasanaethau tanysgrifio ar yr amod fod uchafbwyntiau'n cael eu cynnig i sianeli am ddim.

Ddydd Mercher fe wnaeth Senedd Cymru bleidleisio o blaid galw ar Lywodraeth y DU i gynnwys gemau Chwe Gwlad Cymru yn y categori di-d芒l.

Llywodraeth y DU sydd 芒'r pwer i benderfynu - maen nhw yn diweddar wedi gwrthod galwad debyg gan Aelodau Seneddol Cymreig.

Y Ceidwadwyr Cymreig oedd wedi galw am y drafodaeth ac roedd pob un o'r pleidiau yn gyt没n ar y mater.

Ffynhonnell y llun, Mark Lewis/Huw Evans Agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Ms Tierney bod 26% o incwm Undeb Rygbi Cymru dros y pum mlynedd ddiwethaf wedi dod o hawliau darlledu

Yn ei llythyr dywed mae Ms Tierney yn egluro nad yw'r Undeb Rygbi Cymru yn credu y dylid symud gemau'r Chwe Gwlad o sianeli nad oes rhaid talu amdanyn nhw.

Ond fe fyddai gosod cyfyngiad o'r fath ar rygbi rhyngwladol yn cyfyngu hawliau'r farchnad ddarlledu ac yn ergyd i enillion ariannol posib Undeb Rygbi Cymru.

Mae hi'n dadlau y byddai cyfyngu'r farchnad i'r fath raddau yn gallu cael effaith ddinistriol ar y g锚m yn ei chyfanrwydd yng Nghymru - yn y tymor canolig ac yn yr hir dymor.

Dywed fod gan rygbi le unigryw ac arbennig yn ein diwylliant.

"Ni yw corff llywodraethol y g锚m ac ry'n yn gwybod bod y genedl gyfan yn berchen arni.

"Mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau bod y gemau ar lefel broffesiynol a chymunedol yng Nghymru yn gynaliadwy," meddai.

Ychwanegodd Ms Tierney bod 26% o incwm Undeb Rygbi Cymru dros y pum mlynedd ddiwethaf wedi dod o hawliau darlledu.

Mae'r cytundeb darlledu presennol gyda'r 91热爆 ac ITV i ddarlledu'r gemau yn dod i ben y flwyddyn nesaf.

Bydd Abi Tierney, a chyfarwyddwr URC, Nigel Walker yn ymddangos o flaen y pwyllgor Chwaraeon a Diwylliant ddydd Iau.

Daw hyn wrth i d卯m rygbi dynion Cymru baratoi i ddechrau eu hymgyrch Chwe Gwlad gartref yn erbyn yr Alban ddydd Sadwrn - g锚m a fydd yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C a 91热爆 1 Cymru.