Llai o ryddid i yrwyr ifanc er mwyn achub bywydau?
- Cyhoeddwyd
Fe allai cyflwyno cyfyngiadau ar yrwyr ifanc sydd newydd basio eu prawf gyrru achub bywydau yng Nghymru, yn 么l swyddogion iechyd cyhoeddus.
Byddai'r hyn sy'n cael ei alw'n "drwydded raddedig" yn rhoi cyfyngiadau am gyfnod wedi i bobl dan 25 basio eu prawf.
Fe allai hynny gynnwys cyfyngiadau ar yrru gyda'r nos, neu eu bod yn cael cario llai o deithwyr.
Yn y flwyddyn ddiwethaf mae Cymru wedi profi sawl gwrthdrawiad angheuol amlwg yn ymwneud 芒 phobl ifanc.
Dyw union achos nifer o'r gwrthdrawiadau hynny ddim yn eglur eto, ond mae ymgyrchwyr diogelwch ar y ffyrdd yn credu y dylai achosion o'r fath arwain at wneud mwy i geisio atal marwolaethau ymysg gyrwyr newydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU fod "dim cynlluniau" i gyflwyno trwyddedau o'r fath, ond eu bod wedi comisiynu ymchwil i gefnogi gyrwyr newydd yn well.
'Angen gwneud mwy i'w diogelu'
"'Dyn ni'n siarad 芒 lot o deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid sy'n dweud wrthyn ni, 'tasai hyn wedi bod mewn lle, bydden nhw dal yma'," meddai Lucy Straker o elusen Brake.
"Rydyn ni wedi gweld lot o achosion yn cael sylw mawr yng Nghymru ac ar draws y DU, ac ni fydden ni'n gweld achosion fel yna pe bai'r ddeddfwriaeth yma wedi bod mewn lle."
Mae ffigyrau diweddaraf Llywodraeth y DU o 2022 yn awgrymu bod un rhan o bump o'r holl wrthdrawiadau difrifol yn y DU yn cynnwys gyrrwr ifanc.
Mae dynion 17-24 oed bedair gwaith yn fwy tebygol o gael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad na'r rheiny dros 25 oed.
"Gan wybod fod y risg yn fwy, 'dan ni'n dweud bod angen gwneud mwy i'w diogelu," meddai Ms Straker.
"Mae datblygiad meddwl rhywun 17-24 oed yn golygu eu bod yn llawer mwy tebygol o gymryd risg, heb y wybodaeth a'r profiad o'r problemau allai godi o'u blaenau.
"Mae trwydded yrru raddedig yn cymryd hynny i ystyriaeth."
Gostwng lefel cyfreithlon o alcohol?
Mae'r opsiynau ar gyfer trwydded o'r fath yn cynnwys bod yn rhaid dysgu gyrru am gyfnod penodol o amser, a chyfyngiadau ar yrru gyda'r nos a faint o deithwyr y mae hawl eu cario.
Yn ei ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiogelwch ar y ffyrdd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cefnogi gostwng y terfyn cyfreithlon ar gyfer yfed a gyrru i 20mg ar gyfer pob 100ml o waed ar gyfer pobl ifanc.
Byddai hynny'n chwarter y lefel cyfreithlon ar gyfer pobl dros 25 oed, sef 80mg.
Mae'r syniad wedi cael ei fabwysiadu mewn ardaloedd yn yr Unol Daleithiau, Awstralia ac Iwerddon, ble mae'n rhaid i yrwyr roi platiau gyda'r llythyren N (am Novice) ar y car am ddwy flynedd ar 么l pasio eu prawf.
Yn 么l Ryan Ludgate, sy'n hyfforddwr gyrru yn siroedd Caerfyrddin a Cheredigion, mae angen cael "cydbwysedd", ond mae'n cydnabod fod gan yrwyr newydd lawer i feddwl amdano.
"Y troeon cyntaf chi'n mynd allan ar eich pen eich hun, mae'n terrifying," meddai.
"Rydych chi'n dod i arfer gymaint gydag eistedd drws nesaf i'ch hyfforddwr neu riant.
"Rydw i wastad yn dweud fod y tro cyntaf i chi fynd allan yn y car gyda'ch ffrindiau yn llawer mwy daunting hefyd, yn enwedig o ystyried fod mwy o bwysau yn y car hefyd."
'Tystiolaeth y gallai helpu'
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar strategaeth diogelwch ffyrdd newydd ar hyn o bryd, ac yn gofyn am farn pobl am sut i wneud y ffyrdd yn fwy diogel.
Ar y syniad o sefydlu trwydded raddedig dywedodd llefarydd fod "tystiolaeth fod trwyddedu graddedig ar gyfer gyrwyr yn gallu helpu i ostwng anafiadau a marwolaethau ymysg pobl ifanc".
Ond ychwanegodd nad oedd y mater yn un datganoledig, ac mai penderfyniad i Lywodraeth y DU fyddai mabwysiadu unrhyw gynllun o'r fath.
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU: "Mae gan y DU rai o'r ffyrdd mwyaf diogel yn y byd, ond rydym yn parhau i weithio'n ddiflino er mwyn gwella diogelwch i bawb.
"Tra bod dim cynlluniau i gyflwyno trwyddedau gyrru graddedig, rydyn ni wedi comisiynu ymchwil er mwyn cefnogi gyrwyr newydd yn well, ac mae ein hymgyrch THINK! wedi'i dargedu'n benodol at yrwyr ifanc, sydd mewn mwy o berygl ar y ffyrdd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2023