91热爆

Y Gweilch yn rownd 16 olaf Cwpan Her Ewrop

  • Cyhoeddwyd
GeorgeFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Owen Watkin yn croesi'r llinell i'r Gweilch

Mae'r Gweilch wedi sicrhau g锚m gartref yn rownd 16 olaf Cwpan Her Ewrop ar 么l ennill 28-38 yn erbyn y Lions yn Ne Affrica ddydd Sul.

Daeth cais cyntaf y g锚m ar 么l 16 munud wrth i'r Gweilch gipio'r b锚l ynghanol cae gan greu lle i Owen Watkin groesi'r llinell.

Ond daeth ymateb yn syth gan y Lions wrth i'r capten Marius Louw fanteisio ar gic dros y top gan Sanele Nohamba.

George North oedd y nesaf i sgorio cais wedi i'r canolwr dorri ei ffordd trwy'r amddiffyn gan roi'r Gweilch ar y blaen o 8-14.

Yn 10 munud olaf yr hanner fe sgoriodd y t卯m cartref ddau gais trwy Pretorious a Louw.

Daeth cais nesa'r g锚m ar 么l ychydig dros chwarter awr o'r ail hanner gyda Morne van den Berg yn croesi'r llinell.

Roedd hi'n edrych fel bod y Lions yn rhuo eu ffordd i'r rownd nesaf ond roedd Keiran Williams yn dal yn llawn egni.

Fe lwyddodd ei rediad i ddarganfod yr asgellwr Keelan Giles i ddod a'r Gweilch yn 么l o fewn pedwar pwynt gyda saith munud i fynd.

Tair munud yn ddiweddarach, diolch i rediad da gan y prop Cameron Jones, cafodd y b锚l ei phasio i Watkin a'i rhoddodd hi'n 么l i Jones i sgorio cais.

Gyda thair munud ar 么l roedd y cefnogwyr cartref yn syfrdan wrth i Morgan Morse ryng-gipio'r b锚l a rhedeg 60 metr i'r llinell.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Ond ni fydd y Dreigiau yn mynd ymhellach yn y gystadleuaeth ar 么l colli o 9-29 yn erbyn y Sharks yng Nghasnewydd nos Sul.

Croesodd Jaden Hendrikse ac Ox Nche am geisiau i'r t卯m o Dde Affrica yn yr hanner cyntaf i'w gwneud hi'n 6-12 ar yr egwyl.

Ond ymestyn wnaeth y fantais yn yr ail hanner wrth i Gerbrandt Grobler, Le Roux Roets a Werner Kok oll groesi er mwyn sicrhau na fyddai'r Dreigiau yn rownd yr 16 olaf.

Pynciau cysylltiedig