91热爆

Bae Colwyn: Cyhuddo dau ddyn o lofruddio dyn 65 oed

  • Cyhoeddwyd
Yr heddlu ym Mae Colwyn wedi'r gwrthdrawiad ym mis Tachwedd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gaeodd yr heddlu ran o'r dref yn dilyn y digwyddiad a laddodd David Wilcox

Mae dau ddyn wedi'u cyhuddo o lofruddio dyn 65 oed mewn digwyddiad ym Mae Colwyn y llynedd.

Bu farw David Mark Wilcox, oedd yn byw yn y dref, yn oriau m芒n ddydd Llun, 20 Tachwedd yn dilyn gwrthdrawiad un cerbyd ar Princes Drive.

Mae disgwyl i David Webster, sy'n 42 oed ac o Widnes yn Sir Gaer, a Thomas Whitely, sy'n 33 oed ac o Fae Colwyn, ymddangos yn y llys yn ystod y dydd.

Mae'r heddlu eisoes wedi cyhuddo dynes 29 oed, Lauren Harris, sydd heb gyfeiriad sefydlog, o lofruddio.

Pynciau cysylltiedig