91热爆

'Galw mawr' am wasanaeth cwmni ambiwlans preifat o F么n

  • Cyhoeddwyd
Huw Williams
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Huw Williams yn dweud mai'r nod yw cyd-weithio gyda'r Gwasanaeth Ambiwlans

Mae cyfarwyddwr cwmni ambiwlans preifat ar Ynys M么n yn dweud bod gofyn mawr am y gwasanaeth mewn ardaloedd gwledig.

Cafodd M么n Medics ei sefydlu n么l ym mis Ebrill er mwyn cefnogi cleifion a cheisio lleddfu'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd.

Huw Williams a Meilyr Hughes wnaeth sefydlu'r cwmni ambiwlans preifat - sy'n mynd 芒 chleifion ar draws Cymru a thu hwnt i apwyntiadau neu'n eu cludo adref ar 么l cael llawdriniaeth ysbyty.

Yn 么l Mr Williams, un o gyfarwyddwyr y cwmni sydd wedi ei leoli ym Modffordd ger Llangefni, mae'r gwasanaeth yn "hanfodol".

Gyda phwysau digynsail ar y gwasanaeth iechyd, a disgwyl i'r pwysau hwnnw gynyddu dros fisoedd y gaeaf, mae yna bryder ymysg rhai yngl欧n 芒 sut fydd gwasanaethau yn ymdopi.

Ond mae Mr Williams yn credu y gallai'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan gwmn茂au preifat fel M么n Medics fod yn "bwysig iawn".

"Mae'r gwaith yn dod gan y gwasanaeth ambiwlans, a 'da ni'n 'neud gwaith preifat hefyd i gleifion sydd 芒'r modd o dalu eu hunain. Mynd 芒 nhw i apwyntiadau neu i'r ysbyty.

"Mae'r bobl 'da ni'n eu cludo, dydyn nhw ddim yn gweld ni fel cwmni preifat, maen nhw'n gweld ein staff ni fel bod nhw'n gweithio i'r gwasanaeth ambiwlans.

"Ein nod ni ydy cyd-weithio, dyna ydy bwriad sefydlu'r busnes."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Sian Lloyd Jones yn gyfrifol am ddarparu cludiant i gleifion amrywiol

Un sydd wedi ymuno 芒'r cwmni eleni ydy Sian Lloyd Jones, sy'n gyfrifol am ddarparu cludiant i gleifion amrywiol.

Mae Ms Lloyd Jones wedi bod yn gweithio yn y maes iechyd yn y gorffennol, ond fe ymunodd hi 芒 M么n Medics er mwyn gallu rhoi rhywbeth yn 么l i'r gymuned.

"Mae'r cleifion yn hollol wahanol, rhai yn cael eu transffyrio i聽ysbytai, eraill adra i'r gymuned neu i gartrefi gofal," meddai.

"Mae bob dydd yn wahanol gennym ni, ac mae'n braf.

Gwasanaethu yn y Gymraeg

"Mae'n braf cael rhoi yn 么l, a phan 'da ni'n cyflwyno'n hunain i gleifion ac yn d'eud ein bod ni'n siarad Cymraeg, 'da chi'n gweld y w锚n fawr yma er eu hwynebau.

"Mae hynny'n bwysig iawn - maen nhw mor ddiolchgar a 'da ni'n cael hwyl ar y ffordd adra efo nhw."

Ond er yn cynnig gwasanaeth i gleifion, dydi'r gwasanaeth ddim yn dod heb gostau.

Gyda'r esgid yn gwasgu ar y pwrs cyhoeddus, mae yna rai yn cwestiynu a ydy hi'n economaidd ymarferol i'r gwasanaeth iechyd dalu cwmn茂au preifat i wneud gwaith ar eu rhan.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae angen sicrhau nad ydy'r sector gyhoeddus yn mynd yn or-ddibynnol ar gwmn茂au preifat, yn 么l Dr Edward Jones

Dywedodd Dr Edward Jones, uwch ddarlithydd mewn Economeg ym Mhrifysgol Bangor, bod yna agweddau cadarnhaol a negyddol.

"Os ydy'r math yma o gytundebau yn cael eu gwneud yn gywir, yn sicr mae 'na fuddion economaidd i'r sector gyhoeddus, oherwydd y syniad yw, drwy gael cwmn茂au preifat i wneud y math yma o waith, mi fyddan nhw'n gallu ei wneud am gost llawer is.

"Ond i gael y gost is yna, mae'n rhaid bod yna gystadleuaeth rhwng busnesau yn y sector breifat i dendro am y gwaith, ac yn anffodus beth yda ni'n ei weld yn aml yw nad oes y math o gystadleuaeth sydd ei angen er mwyn 'neud y gost mor isel 芒 phosib.

"Hefyd, mae'n rhaid neud yn si诺r nad ydy'r sector gyhoeddus yn mynd yn or-ddibynnol ar y cwmn茂au o'r sector breifat, gan fod hynny'n rhoi'r p诺er iddyn nhw yn y tymor hir i godi pa bynnag bris maen nhw isio er mwyn cynnal y gwasanaeth."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae M么n Medics yn gobeithio gallu cynnig gwasanaethau gwahanol yn y dyfodol hefyd

Gyda'r pwysau yn cynyddu dros y gaeaf, mae'r gwaith yn prysuro i gwmni M么n Medics - 芒'r gofyn felly am fwy o staff.

Dywedodd Huw Williams: "Mae gennym ni dri o staff ar hyn o bryd, a 'da ni'n gobeithio bydd gennym ni dri arall yn fuan.

"'Da ni'n gobeithio, yn y flwyddyn newydd, cynnig gwasanaethau gwahanol - gofal diwedd oes, sydd yn rhywbeth pwysig.

"'Da ni hefyd yn datblygu'r ochr cymorth cyntaf er mwyn cynnig cymorth cyntaf i ddigwyddiadau lleol."

Pynciau cysylltiedig