Amgueddfa Cymru: 'Angen 拢90m o waith atgyweirio'
- Cyhoeddwyd
Mae gan amgueddfeydd Cymru 么l-groniad o 拢90m o waith atgyweirio ac mae dyfodol yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd yn "destun pryder mawr", yn 么l eu pennaeth.
Dywedodd Jane Richardson fod staff wrth law bob nos i ddod i mewn i dynnu paentiadau oddi ar y waliau fel na fyddent yn cael eu difrodi gan dd诺r glaw yn gollwng.
Dywedodd fod pedwar bwced i ddal glaw y tu allan i ddrws ei swyddfa.
Roedd Jane Richardson, prif weithredwr Amgueddfa Cymru, yn siarad 芒 phwyllgor diwylliant Senedd Cymru.
5.3 miliwn o eitemau
Mae Amgueddfa Cymru yn cynnwys saith amgueddfa, gyda chasgliadau o bedwar ban byd.
Mae 5.3 miliwn o eitemau yn y casgliad cenedlaethol, gan gynnwys paentiadau a chelfyddyd gain yn ogystal 芒'r llyfrgell a'r archifau, llawer ohonynt wedi'u cadw mewn adeiladau rhestredig Gradd I fel Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chastell Sain Ffagan, Caerdydd.
Dywedodd Jane Richardson wrth ASau: "Ar draws ein holl yst芒d mae gennym ni broblem o 拢90m ac yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd mae ein gwaith brys mwyaf tyngedfennol yn 拢25m.
"Does dim rhaid i chi ei wneud mewn un flwyddyn, fe allech chi ei wneud fesul cam dros bedair, ond os na wnewch chi, mae dyfodol yr adeilad hwnnw o bryder mawr".
Tynnu paentiadau oddi ar y waliau
Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi ariannu rhai atgyweiriadau i'r to yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ond ei fod yn cynnwys "50 o wahanol strwythurau" a bod yn rhaid i staff fod yn barod i helpu pan oedd hi'n bwrw glaw.
"Pan rydyn ni'n disgwyl storm neu law trwm, mae'n rhaid i ni roi staff wrth law, yn llythrennol, fel y gallant ddod i mewn i'r adeilad yng nghanol y nos i dynnu paentiadau oddi ar y waliau," meddai.
"Dydw i ddim yn gor-ddweud - dyna mae ein staff yn ei wneud. Dydyn ni byth, byth yn peryglu diogelwch y gwaith, mae gennym ni staff ar gael bob amser, maen nhw'n gwybod yn union beth i'w wneud ac maen nhw'n ei wneud yn rheolaidd ond dyna realiti bywyd gwaith cydweithwyr ar hyn o bryd."
Roedd hi'n poeni am gyflwr yr adeilad nid yn unig ar gyfer y casgliad ond hefyd fel amgylchedd gwaith.
"Pe baech chi'n dod i ymweld 芒 mi yn fy swyddfa, ychydig y tu allan i ddrws fy swyddfa, mae pedwar bwced ar gyfer d诺r.
"Mae gennym ni storfa annigonol - mae hynny'n golygu bod y casgliad yn cael ei gadw mewn amodau nad yw'n briodol ac mae hynny hefyd yn golygu na all cadwraethwyr gael mynediad ato i ofalu amdano na'i wneud yn hygyrch".
Dywedodd Ms Richardson y byddai'n rhoi mwy o wybodaeth i Lywodraeth Cymru am y gwaith atgyweirio angenrheidiol.
'O ddifrif'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cymryd diogelwch y casgliadau cenedlaethol o ddifrif.
"Fel rhan o'i chymorth grant ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, mae Amgueddfa Cymru yn derbyn mwy na 拢4.7m tuag at gynnal a chadw cyfalaf sydd wedi helpu i fynd i'r afael 芒'r prosiectau cynnal a chadw mwyaf dybryd.
"Er ein bod yn ymwybodol o'r materion cynnal a chadw tymor hwy, mae'r Amgueddfa wedi ein sicrhau bod y casgliadau'n ddiogel ar hyn o bryd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd30 Awst 2023
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2022