Teyrnged mam Harvey Owen ar 么l marwolaeth pedwar dyn ifanc
- Cyhoeddwyd
Mae mam un o bedwar dyn ifanc a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yng Ngwynedd wedi ei ddisgrifio fel yr "enaid mwyaf gwerthfawr" ac "yn fab y gallwn fod yn falch ohono".
Cafwyd hyd i gyrff Jevon Hirst, 16, Harvey Owen, 17, Wilf Fitchett, 17, a Hugo Morris, 18, ger pentref Garreg fore Mawrth.
Roedd y car Ford Fiesta arian roedd y bechgyn yn teithio ynddo wedi ei ganfod "ben i lawr" ac "yn rhannol dan dd诺r".
Roedd y pedwar yn dod o ardal Amwythig a'r gred ydy bod y criw wedi teithio i Harlech ddydd Sadwrn gyda chynlluniau i wersylla yn Eryri.
Doedd neb wedi gweld na chlywed gan y pedwar ers bore Sul, a sbardunodd hynny ymdrech chwilio fawr yn y gogledd-orllewin.
Ond fore Mawrth, ar 么l derbyn gwybodaeth gan aelod o'r cyhoedd, cafodd y car ei ganfod ger ffordd yr A4085.
'Chwerthin rhwng y dagrau'
Wrth dalu teyrnged dywedodd mam Harvey Owen, Crystal, fod ei mab 17 oed yn berson "unigryw" ac "arbennig".
"Roedd Harvey yn berffaith pan ddaeth i'r byd a bydd yn gadael felly," meddai.
"Does dim geiriau o gwbl i ddisgrifio'r boen rydym yn ei deimlo wrth golli'r enaid mwyaf gwerthfawr, a dim geiriau i egluro pa mor arbennig oedd Harvey."
Dywedodd Ms Owen fod Harvey yn angerddol am chwarae'r git芒r, cerddoriaeth jazz, barddoniaeth a chelf.
Ychwanegodd bod ei mab "yn ffynnu mewn bywyd ac roedd ganddo bopeth i fyw amdano".
"Mae gan bawb stori ddoniol i'w hadrodd am Harvey a'r straeon yma sy'n ein cadw ni i fynd, yn gwneud i ni chwerthin rhwng y dagrau a byddan nhw'n parhau yn fyw.
"Wnaeth o erioed achosi unrhyw niwed... yr oedd a bydd am byth yn fab y gallwn fod yn falch ohono.
"Mae'r ffaith y bydd Harvey yn 17 oed am byth yn annioddefol i feddwl amdano ac yn anoddach fyth i'w dderbyn.
"Daliwch eich anwyliaid yn dynn, mae'r holl f芒n bethau rydyn ni'n poeni amdanyn nhw yn amherthnasol, mae bywyd mor fyr a gall fod mor greulon.
"Rwyf wedi colli fy mab, y bachgen roeddwn i'n ei garu gymaint, ac ni allaf dderbyn na fyddaf yn gallu ei ddal eto na dweud wrtho fy mod yn ei garu eto."
Ddydd Gwener, fe apeliodd Heddlu'r Gogledd ar unrhyw un sydd 芒 lluniau dashcam a allai fod o ddefnydd i gysylltu 芒 nhw.
Cadarnhaodd swyddogion hefyd bod teuluoedd rhai o'r dynion ifanc wedi ymweld 芒 safle'r gwrthdrawiad ddydd Iau.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Simon Barrasford bod ymchwiliad "llawn a manwl" ar waith er mwyn darganfod achos y gwrthdrawiad.
"Mae rhan o'r ymchwiliad hwnnw yn cynnwys edrych ar luniau teledu cylch cyfyng a hoffem ddiolch i bawb sydd eisoes wedi cysylltu 芒 ni," meddai.
"Mae rhan o'r ymchwiliad hefyd yn cynnwys ymchwiliad fforensig llawn ar y car ac mae'r gwaith yma'n parhau gyda'r Uned Ymchwilio Fforensig Gwrthdrawiadau.
"Hoffem hefyd ddatgan ein diolch i'r gymuned yng Ngharreg am eu hamynedd a dealltwriaeth barhaus."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2023