Penodi Fay Jones yn is-weinidog wrth i Sunak ad-drefnu
- Cyhoeddwyd
Mae Fay Jones AS wedi ei phenodi'n is-weinidog yn Swyddfa Cymru gan Brif Weinidog y DU.
Mae Rishi Sunak wedi ail-strwythuro ei gabinet ar 么l diswyddo'r cyn-ysgrifennydd cartref, Suella Braverman.
Mae Ms Jones yn cymryd lle AS Dyffryn Clwyd, James Davies.
Cafodd Ms Braverman ei diswyddo yn dilyn sylwadau am Heddlu'r Met pan gyhuddodd y llu o ffafriaeth gyda rhai protestwyr.
Ymysg y newidiadau eraill gan Mr Sunak mae'r cyn-brif weinidog David Cameron yn ysgrifennydd tramor a James Cleverly yn ysgrifennydd cartref.
'Hollol gefnogol o'r Prif Weinidog'
Fe wnaeth Fay Jones AS sefyll fel ymgeisydd Ceidwadol yn yr Etholiad Cyffredinol yn 2019 a bu'n cynrychioli Brycheiniog a Sir Faesyfed ers hynny.
Mae hi hefyd wedi bod yn gweithio fel chwip i'r llywodraeth ers mis Hydref 2022.
Yn wreiddiol o Gaerdydd, gweithiodd fel ymchwilydd i'r Brenin pan oedd yn Dywysog Cymru, ac mae hi hefyd wedi gweithio ym myd amaeth gydag adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y DU, ac undeb NFU.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies ei fod yn "gefnogol o bob un aelod o'r cabinet" ac nad oes "neb yn anghytuno gyda'r Prif Weinidog o gwbl".
"Mae fyny i'r Prif Weinidog i wneud y penderfyniadau dros bwy sy'n eistedd yma, dwi'n hollol gefnogol o'r Prif Weinidog."
Wrth drafod diswyddo Suella Braverman, oedd yn cynrychioli adain dde'r blaid, dywedodd Mr Davies: "Dwi'n si诺r bod digon o bobl o gwmpas bwrdd y cabinet yn gallu adlewyrchu'r teimladau gwahanol yn y blaid Geidwadol."
"Ar ddiwedd y dydd mae'r wasg yn canolbwyntio ar ydy rhywun yn dod o'r dde neu chwith... be' sy'n bwysig ydy bod y cabinet yn barod i weithio gyda'r Prif Weinidog i ddanfon y blaenoriaethau o'r llywodraeth".
Mae David Cameron yn dychwelyd i'r cabinet am y tro cyntaf ers mwy na saith mlynedd, a hynny ar 么l iddo ymddiswyddo fel Prif Weinidog yn 2016.
Mae'r cabinet newydd wedi cwrdd am y tro cyntaf ddydd Mawrth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2016