Traean o aelwydydd Cymru'n cael £300 ar gyfer help biliau

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bydd tua thraean o bobl Cymru yn derbyn £300 gan Lywodraeth y DU i helpu gyda'u biliau

Bydd tua thraean o aelwydydd Cymru yn dechrau derbyn £300 gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddydd Mawrth i'w helpu gyda'u biliau.

Mae 422,000 o aelwydydd yng Nghymru yn gymwys ar gyfer ail daliad costau byw Llywodraeth y DU, sy'n gyfanswm o £900 ar gyfer y flwyddyn ariannol.

Bydd y rhai sydd â hawl i'r taliad yn ei dderbyn yn awtomatig dros yr wythnosau nesaf.

Dywedodd Mel Strides AS, yr Ysgrifennydd Gwladol Gwaith a Phensiynau mai "mynd i'r afael â chwyddiant yw'r ffordd orau o hybu incwm pobl".

Ychwanegodd: "Wrth i ni weithio i'w haneru, rydyn ni'n amddiffyn y cartrefi mwyaf bregus rhag prisiau uchel gyda'r taliad Costau Byw diweddaraf hwn."

Llai o gymorth ar gael eleni

Siroedd Blaenau Gwent a Merthyr sydd â'r gyfradd uchaf o aelwydydd sydd â hawl i'r taliad yng Nghymru - y ddau bron ar 40% - tra mai Sir Fynwy yw'r isaf, gyda 21% yn gymwys.

Wrth groesawu'r taliad, mae elusen Sefydliad Bevan yn pryderu bod teuluoedd yn ei chael hi'n anoddach eleni, a bod llai o gymorth ar gael.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Dr Steffan Evans mai hwn fydd y gaeaf cyntaf y bydd yn rhaid i ni dalu dwywaith cymaint am ein hynni na chyn y rhyfel yn Wcráin

Dywedodd Dr Steffan Evans, pennaeth polisi y sefydliad: "Dangosodd arolwg a wnaethon ni dros yr haf fod un o bob saith o bobl yng Nghymru weithiau, yn aml, neu bob amser yn cael trafferth fforddio hanfodion.

"Y gaeaf diwethaf fe gafon ni gyd £66 oddi ar ein bil ynni bob mis. Dyw hynny ddim am fod yno eleni.

"Efallai mai hwn fydd y gaeaf cyntaf y bydd yn rhaid i ni dalu dwywaith cymaint am ein hynni nag a wnaethon ni cyn y rhyfel yn Wcráin.

"Mae'r holl bwysau yn mynd i ddod ar adeg pan nad yw lefel y gefnogaeth yn mynd i fod yn agos at yr hyn oedd y llynedd."

I fod yn gymwys ar gyfer y taliad roedd angen i unigolyn fod â hawl i fudd-dal cymwys rhwng 18 Awst 2023 a 17 Medi 2023.

Fe ddywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies, fod y llywodraeth wedi darparu cymorth o £3,300 ar gyfartaledd i gartrefi eleni a'r llynedd, ond mae Sefydliad Bevan yn dadlau fod angen i'r llywodraeth edrych ar atebion hirdymor.

Mae'r elusen yn galw am gynyddu budd-daliadau, sicrhau bod pobl yn medru gweithio digon o oriau i ennill cyflog teilwng a lleihau'r pwysau mae talu am ynni a thai yn rhoi ar aelwydydd.