URC yn penodi'r prif weithredwr benywaidd cyntaf

Ffynhonnell y llun, Mark Lewis/Huw Evans Agency

Disgrifiad o'r llun, Mae Abi Tierney'n symud o'r Swyddfa Gartref i ymuno ag Undeb Rygbi Cymru

Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi penodi menyw i fod yn brif weithredwr am y tro cyntaf.

Abi Tierney fydd olynydd parhaol Steve Phillips, a ymddiswyddodd ym mis Ionawr yn dilyn ymchwiliad gan 91热爆 Cymru i honiadau o ragfarn rhyw, hiliaeth a chasineb at ferched o fewn y sefydliad.

Fe gafod Nigel Walker ei benodi'n brif weithredwr dros dro, ond ef bellach yw cyfarwyddwr rygbi gweithredol cyntaf yr undeb.

Dyma'r ail benodiad mawr ers i Richard Collier-Keywood ddod yn gadeirydd annibynnol cyntaf yr undeb, gan olynu Ieuan Evans a gafodd ei ethol i'r r么l.

Mae Abi Tierney'n ymuno 芒'r undeb o'r Swyddfa Gartref ble gafodd ei phenodi'n ymgynghorydd moeseg ym mis Mehefin eleni.

Yn Chwefror 2020 fe gafodd ei phenodi'n gyfarwyddwr cyffredinol Swyddfa Basport Ei Fawrhydi a Fisas a Mewnfudo y DU.

Cyn ymuno 芒'r Gwasanaeth Sifil, roedd hi'n gyfarwyddwr datblygu busnes y cwmni Serco Health ac yn gyfrifol am roi arweiniad strategol i helpu'r busnes dyfu.

Mae hi hefyd wedi bod yn gyfarwyddwr gydag Ysbytai Athrofaol Caerl欧r a Chyngor Dinas Aberdeen, ac yn arweinydd marchnata gwasanaethau busnes byd-eang IBM.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth rhaglen Wales Investigates ddatgelu honiadau am ddiwylliant gwenwynig o fewn URC

Fe gamodd Nigel Walker i'r adwy wedi ymddiswyddiad Steve Phillips. Roedd wedi ystyried ymgeisio am y swydd yn barhaol ond mae'n dweud ei fod wedi tynnu'n 么l yn gynnar yn y broses.

Roedd Walker wedi ymgyrchu gyda'r cyn-gadeirydd, Ieuan Evans i wneud newidiadau mawr i'r ffordd mae bwrdd URC yn cael ei reoli.

Fe bleidleisiodd 97.2% - sef 245 o glybiau - o blaid y newidiadau mewn cyfarfod arbennig ym mis Mawrth, arweiniodd at benodiad Richard Collier-Keywood.

Walker hefyd sydd wedi llywio'r undeb trwy adolygiad tasglu annibynnol sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd, ac roedd ganddo ran bwysig yn y trafodaethau cyn dod o gytundeb newydd chwe blynedd gyda phedwar clwb rhanbarthol Cymru.

Y cyn-farnwr Y Fonesig Anne Rafferty sy'n cadeirio adolygiad y tasglu i ymddygiad yr undeb yn sgil honiadau rhaglen Wales Investigates.

Dywed URC y bydd argymhellion a chasgliadau adolygiadau blaenorol yn cael eu hystyried fel rhan o'r adolygiad, ond nid oes gofyn i'r tasglu newydd ddyblygu gwaith rheiny.

Bydd y panel yn llunio adroddiad ac yn gwneud argymhellion a fydd yn cael eu cyhoeddi'n llawn.