URC 'yn dal yn edifeiriol' dros honiadau o rywiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth dros dro Undeb Rygbi Cymru (URC) yn mynnu fod y corff yn parhau i deimlo edifeirwch am sut y gwnaeth drin honiadau o rywiaeth a chasineb.
Daw sylwadau Nigel Walker wedi i aelod o fwrdd URC farnu rhai honiadau a wnaed mewn ymchwiliad gan y 91热爆.
Dywedodd Henry Engelhardt nad oedd rhai rhannau o'r rhaglen "yn gywir".
"Mae Henry Engelhardt a phawb arall sy'n ymwneud ag URC dal yn edifeiriol am yr hyn a aeth ymlaen," meddai Mr Walker.
"Mae'n ddrwg gan bobl, mae'n ddrwg gan yr undeb, mae'n ddrwg gen i fod pobl wedi cael eu rhoi trwy'r hyn a welsom ar raglen 91热爆 Investigates, gan gynnwys Henry."
Mae Mr Engelhardt yn gyfarwyddwr anweithredol annibynnol o URC ac yn gyn brif weithredwr cwmni yswiriant Admiral.
Dywedodd Mr Walker fod Mr Engelhardt wedi bod yn un o'r cefnogwyr pennaf dros newid llywodraethol o fewn URC.
Ychwanegodd Mr Walker fod y sefydliad wedi bod yn gweithio'n "ddiflino" ers "mwy na thebyg 12 neu 18 mis" i wneud newidiadau i'r drefn llywodraethol.
Pan ofynnwyd iddo a oedd ganddo hyder yn Mr Engelhardt - a oedd wedi defnyddio'r gair "cyffrogarwch" [sensationalism] mewn sgwrs ar bodlediad Walescast i ddisgrifio rhaglen 91热爆 Wales Investigates ar y mater - dywedodd fod ganddo "ffydd ddiamod".
"Mae gen i hyder diamod yn Henry Engelhardt, mae ei record yn siarad drosto'i hun," meddai Mr Walker.
"Mater iddo ef yw dweud a ddywedodd y peth anghywir neu a allai fod wedi bod hyd yn oed yn fwy cadarnhaol am yr angen am newidiadau," ychwanegodd, gan nodi ei fod wedi trafod yr angen hwnnw ar y podlediad hefyd.
"Ond fe ddywedodd hynny cyn iddo fynd ymlaen i ddweud y pethau. Roedd yno mewn r么l breifat - nid fi sy'n osgoi y mater yma - roedd yno mewn swyddogaeth breifat yn lansio ei lyfr, ond mae gen i ffydd lwyr.
"Nid wyf wedi gweld unrhyw beth yn y ddwy flynedd rwyf wedi bod yn Undeb Rygbi Cymru, o amgylch y bwrdd hwnnw gyda Henry Engelhardt a fyddai'n gwneud i mi gwestiynu ei gymeriad neu neu ei awydd i Undeb Rygbi Cymru fod y sefydliad y mae angen iddo fod yn sgil yr hyn a welsom bedwar mis yn 么l."
Dywedodd AS G诺yr - y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol, Tonia Antoniazzi - bod Nigel Walker wedi ymateb "yn bwyllog iawn" i sylwadau "annerbyniol" Henry Engelhardt, a'i bod yn "siomedig" nad yw Mr Engelhardt wedi cynnig "mwy o gyd-destun".
Wrth siarad ar raglen 91热爆 Radio Wales Breakfast, dywedodd bod Mr Walker "wedi gweithio'n galed eithriadol... i wneud yn iawn am yr hyn aeth o'i le" o fewn y g锚m yng Nghymru, ac felly nad oedd ei sylwadau yn syndod.
"Fyswn i ddim yn disgwyl i Nigel Walker daflu Henry Engelhardt dan y bws... felly dydw i ddim yn synnu. Ond rwy'n siomedig bod Henry heb ddod yn 么l a chynnig mwy o gyd-destun i'r hyn a ddywedodd, oherwydd roedd yr hyn a ddywedodd yn hollol annerbyniol.
"Mae ei enw fel cyn-brif weithredwr Admiral heb ei ail, felly pan fo rhywun fel 'na... yn gwneud y fath sylwadau, ry'ch chi'n tybio beth sy'n mynd o'i le."
Roedd Mr Engelhardt, meddai, wedi "dilorni" rhaglen 91热爆 Wales Investigates a honiadau'r unigolion oedd yn sail iddi - honiadau a gafodd "eu hategu fis gan brofiad Amanda Blanc [cyn-gadeirydd Bwrdd Rygbi Proffesiynol URC]".
Ychwanegodd Ms Antoniazzi ei bod yn 'nabod "sawl un arall" oedd wedi cael profiad o rywiaeth "a oedd methu mynd ar y rhaglen oherwydd y pwysau arnyn nhw o ganlyniad".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2023