Cymru'n colli cyfle euraidd i drechu Lloegr yn Twickenham
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Cymru golli cyfle euraidd i ennill yn Twickenham am y tro cyntaf ers 2015, wrth i Loegr eu trechu 19-17 yn eu hail g锚m baratoadol cyn Cwpan y Byd yn Ffrainc.
Roedd Warren Gatland wedi newid y t卯m yn llwyr o'r fuddugoliaeth yn Stadiwm Principality y penwythnos diwethaf.
Y bachwr Dewi Lake oedd yn gapten yr wythnos hon, ond bu'n rhaid iddo adael y maes ar 么l 25 munud oherwydd anaf.
Bydd hynny'n bryder mawr i'r prif hyfforddwr gyda llai na mis i fynd tan g锚m gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd, yn erbyn Fiji yn Bordeaux.
Ar 么l pwysau cynnar gan Loegr, iddyn nhw y daeth pwyntiau cyntaf y g锚m, a hynny'n dri phwynt o droed y maswr Owen Farrell.
Roedd hi'n hanner cyntaf o safon isel, ac roedd hynny'n cael ei adlewyrchu yn y sg么r.
Wedi 31 munud fe welodd asgellwr ifanc Lloegr, Henry Arundell gerdyn melyn am daclo Liam Williams heb fod 10 llath yn 么l.
Yna, roedd Farrell yn llwyddiannus gyda chic gosb arall - cyffyrddiad olaf yr hanner cyntaf - gan olygu mai 6-0 i Loegr oedd hi ar yr egwyl.
Eiliadau'n unig ar 么l dechrau'r ail hanner fe welodd y blaenasgellwr Tommy Reffell gerdyn melyn i Gymru am beidio 芒 rhyddhau'r chwaraewr ar 么l taclo, ac fe lwyddodd Farrell gyda'r gic cosb hefyd.
Daeth pwyntiau cyntaf Cymru ychydig funudau'n ddiweddarach, a hynny o droed y maswr Owen Williams.
Gyda 57 munud ar y cloc cafodd prop Lloegr, Ellis Genge, gerdyn melyn am ddymchwel sgrym, ac fe lwyddodd Cymru i gymryd mantais.
Ar 么l cic letraws gan Dan Biggar, cafodd Josh Adams ei daclo yn yr awyr gan Freddie Steward, ag yntau ar fin sgorio.
Cafodd gerdyn melyn am y drosedd honno, ac roedd saith pwynt i Gymru oherwydd cais cosb, gan eu rhoi ar y blaen o 9-10.
Funudau'n ddiweddarach cafodd Farrell gerdyn melyn am dacl uchel ar Taine Basham, er bod t卯m Cymru yn amlwg yn credu y dylai fod wedi gweld coch.
Roedd hynny'n golygu fod Lloegr i lawr i 12 chwaraewr, a manteisiodd Cymru ar hynny wrth i'r mewnwr Tomos Williams groesi am gais.
Llwyddodd Biggar i'w throsi, ond o fewn dim fe wnaeth Lloegr daro n么l gyda chais gan Maro Itoje, a hwythau'n dal 芒 12 chwaraewr yn unig ar y maes.
Yn syth wedi hynny daeth y newyddion fod y swyddog teledu wedi penderfynu fod trosedd Farrell yn haeddu cerdyn coch, gan olygu na fyddai'n dychwelyd i'r cae.
Gyda chwe munud yn weddill cafodd y clo Adam Beard gerdyn melyn, gan olygu mai 14 chwaraewr yr un fyddai hi ar gyfer y munudau olaf.
Llwyddodd George Ford gyda'r gic gosb a ddaeth yn sgil trosedd Beard er mwyn rhoi Lloegr yn 么l ar y blaen 19-17, ac fel hynny y gorffennodd hi.
Mae'r golled yn golygu bod rhediad gwael Cymru yn Twickenham yn parhau - dydyn nhw ddim wedi ennill yno ers 2015.
Bydd g锚m baratoadol olaf Cymru yn erbyn De Affrica yng Nghaerdydd y penwythnos nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Awst 2023
- Cyhoeddwyd5 Awst 2023