'Trywanu' Pwllheli: Arestio tri ac un yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae person wedi ei gludo i'r ysbyty ac mae tri arall wedi eu harestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol bwriadol.
Roedd yr heddlu wedi gofyn i bobl gadw draw yn dilyn "digwyddiad mewn eiddo domestig" ym Mhwllheli fore Iau, sydd lai na bedair milltir o faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan.
Dywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans eu bod wedi derbyn galwad i'r digwyddiad tua 08:30.
Cafodd parafeddyg, dau ambiwlans ffordd ac ambiwlans awyr eu hanfon i'r safle.
Cafodd un person ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor am driniaeth. Does dim manylion am gyflwr yr unigolyn.
Arestio tri
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard Griffith: "Ar hyn o bryd, mi allaf gadarnhau bod un person yn yr ysbyty, a thri o bobl yn y ddalfa mewn cysylltiad 芒'r digwyddiad.
"Dwi'n apelio ar unrhyw un a welodd unrhyw beth mewn cysylltiad 芒'r digwyddiad, neu sydd 芒 gwybodaeth, i gysylltu gyda ni ar y we neu drwy ffonio 101."
Mewn neges ar Twitter fe ddywedodd y Ganolfan Waith bydd swyddfa Pwllheli, sydd wedi ei leoli ar Ffordd Caerdydd, yn aros ar gau am weddill y dydd.
Yn 么l yr aelod seneddol lleol, Liz Saville Roberts, mae hi wedi cyfarfod Heddlu'r Gogledd i drafod yr hyn mae hi'n ei gyfeirio ato fel "achos o drywanu".
Ond ychwanegodd nad oedd ganddi wybodaeth am gyflwr "y dyn gafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd mewn ambiwlans".
Dywedodd: "Yn dilyn achos o drywanu ym Mhwllheli yn gynharach heddiw mae Mabon ap Gwynfor AS a minnau wedi cael cyfarfod gyda Heddlu Gogledd Cymru a'r Prif Gwnstabl ac yn cael ein diweddaru o'r datblygiadau diweddaraf."
Ychwanegodd: "Deallwn fod person茅l yr Uned Ymateb Arfog a thrinwyr c诺n wedi'u galw i Bwllheli i gefnogi swyddogion heddlu lleol a bod y cynllun traffig ymateb brys a roddwyd ar waith ar gyfer wythnos yr Eisteddfod wedi'i weithredu.
"Byddwn yn postio diweddariadau cyn gynted ag y byddant wedi'u cadarnhau'n swyddogol."
Yn gynharach dywedodd y llu er nad oedd unrhyw bryderon i'r gymuned ehangach, roeddent yn gofyn i aelodau o'r cyhoedd osgoi'r ardal.
Fe wnaeth y digwyddiad arwain at oedi hir i deithwyr yn yr ardal, gyda llawer yn teithio i'r Eisteddfod gerllaw.