91热爆

Prinder tai i bobl leol: 'Mae pawb isio dod yn 么l'

  • Cyhoeddwyd
Aberdaron
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gyda 3,000 o bobl ar y rhestr aros am dai cymdeithasol, yn 2020 roedd 65% o drigolion Gwynedd yn methu fforddio prynu cartref yn y sir.

Os ydy golygfeydd Aberdaron yn denu ymwelwyr, siawns bod y rheiny'n fwy annwyl fyth i'r bobl sydd wedi'u magu yng nghanol gogoniannau Pen Ll欧n.

Ond wrth i'r Eisteddfod fynd rhagddi ym Moduan, mae'r alwad am dai i bobl ifanc yn eu cymunedau'n un o'r prif bynciau trafod ar y maes.

Troi'i golygon am y brifysgol fydd Nel Ll欧n nesaf, ond mae'n gobeithio dychwelyd i'w bro i fyw ryw ddydd. Ehangu gorwelion dros dro - ond creu cartref yn ei libart ei hun yn y pen draw.

"Mae dipyn o ffrindiau isio mynd, gweld be sy tu hwnt i Ben Ll欧n, ond mae pawb isio dod yn 么l," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nel Ll欧n ac Alaw Haf Lewis - dwy sy'n gobeithio gallu byw ym mro eu mebyd yn y dyfodol

"Mae prisiau tai mor anodd... mae hi just yn anodd, chi'n gweld visitors yn dod yma, maen nhw'n prynu tai, tai ddylai fod yn fforddiadwy i bobl ifanc."

Yn yr un modd mae Alaw Haf Lewis yn gobeithio cael t欧 yn ei milltir sgw芒r pan fydd hi'n amser i fagu teulu.

"Dwi'm yn gw'bod, gawn ni weld - dyna fydd y broblem 'efo dim pres," dywedodd.

"'Dwi isio aros 'efo pobl Cymraeg ond, gawn ni weld falla wneith o newid pan 'dan ni isio dod yn 么l."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd dros 100 o bobl wedi ymgynnull ger stondin Cymdeithas yr Iaith ar faes y brifwyl ar gyfer rali i brotestio'r sefyllfa dai

Mae Cyngor Gwynedd newydd gyhoeddi eu bod yn ehangu'r cynllun i brynwyr tro cyntaf gael grantiau i adnewyddu tai gwag oedd yn arfer bod yn ail gartrefi.

Mewn datganiad, dywed y cyngor: "Mae'r cynllun ehangach i gynnig grantiau i adnewyddu tai gweigion wedi bod yn weithredol ar ei ffurf presennol ers 2021 a daw'r addasiad hwn mewn ymateb i gynnydd yn nifer yr ymgeiswyr sy'n methu bodloni'r meini prawf i dderbyn y grant.

"Yn flaenorol, nid yw perchnogion cyn ail gartrefi wedi bod yn gymwys ar gyfer y grant, er gwaetha'r ffaith eu bod yn adeiladau segur.

"Felly, er mwyn ymateb i'r diffyg hwn, mae'r cyngor wedi penderfynu ymestyn meini prawf y cynllun i gynnwys tai segur a fu'n arfer bod yn ail gartrefi, hynny yw eiddo a fu'n gymwys i dalu Premiwm Treth Cyngor."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Walis George eisiau gweld pobl leol yn cael y cyfle cyntaf i brynu tai sy'n mynd ar y farchnad

Ar y maes fe fu galwad gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg am ddeddf eiddo i reoli'r farchnad agored ar gyfer gwerthu tai.

Un fu'n annerch y rali gyhoeddus oedd cyn brif weithredwr Cymdeithas Dai Eryri, Walis George.

"Bydden ni isio gweld sefyllfa lle mae pobl leol yn cael y cyfle cynta' i brynu," meddai.

"'Dan ni ddim isio cosbi pobl sy'n gwerthu tai - mae angen i bobl gael pris teg - ond mae'n rhaid i hyn gael ei gyflyru a'i yrru gan yr angen lleol, ddim potensial gwerth ariannol maes o law."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ymprydiodd Ffred Ffransis am 75 awr i dynnu sylw at ddifrifoldeb yr argyfwng tai

Yn ystod y dydd hefyd fe ddaeth ympryd yr ymgyrchydd iaith Ffred Ffransis i ben. Fe fu'n gwrthod bwyd am dros dridiau - 75 awr, i gyd-fynd 芒'i oed.

"Fy anogaeth i wrth wneud hyn, ydy dangos yn fy ffordd i mor ddifrifol ydy'r sefyllfa ac i annog pobl eraill ystyried be fedran nhw neud," ddywedodd Mr Ffransis wrth gloi'r weithred.

Yna fe aeth rhai o aelodau Cymdeithas yr Iaith ati i ludo sticeri'n galw am ddeddf iaith newydd i furiau pabell Llywodraeth Cymru.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ymwelwyr yn heidio i Aberdaron yn y tymor gwyliau

Wrth ymateb i'r alwad am ddeddf eiddo, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym o'r farn fod gan bawb yr hawl i gartref derbyniol, fforddiadwy i'w brynu neu'i rentu yn eu cymunedau, fel y gallan nhw fyw a gweithio'n lleol.

"Rydym yn cymryd camau radical gan ddefnyddio'r drefn gynllunio, eiddo a threthi i gyflawni hyn, fel rhan o becyn i ymateb i gyfres gymhleth o faterion."

Yn ddiweddar fe gafodd papur gwyrdd ei gyhoeddi ar bolisi tai oedd yn cyfeirio at rent teg ac eiddo fforddiadwy.

Fe fydd papur gwyn yn cael ei gyhoeddi gan y llywodraeth maes o law.

Pynciau cysylltiedig