Eisteddfod: Ciwio am oriau yn parhau ym Maes B
- Cyhoeddwyd
Mae ciwiau hir i gael mynediad i Faes B yn Eisteddfod Genedlaethol Ll欧n ac Eifionydd, gyda channoedd o bobl ifanc wedi bod yn disgwyl oriau.
Roedd disgwyl i Maes B - sy'n cynnig lle i wersylla a gigs a digwyddiadau gyda'r nos - agor i'r cyhoedd am 12:00 ddydd Mawrth.
Ond wrth i'r maes ieuenctid baratoi i agor, roedd gwaith adeiladu yn parhau i ddigwydd er mwyn paratoi'r safle cerddoriaeth.
Er bod y cae gwersylla wedi agor erbyn 13:00, bu cannoedd o bobl yn parhau i giwio am oriau i gael mynediad yno.
Dywedodd yr Eisteddfod mewn datganiad toc wedi 19:00 nos Fawrth: "Mae dros 2,000 o bobl ifanc wedi cyrraedd Boduan yn barod, sydd yn llawer mwy na'r niferoedd sy'n arfer cyrraedd ar ddechrau'r 诺yl fel rheol, ac rydyn ni wrthi'n prosesu pawb ar hyn o bryd, ac mae hyn, wrth gwrs yn cymryd amser.
"Mae digonedd o dd诺r ar gael i bawb sy'n disgwyl, ac mae t卯m Maes B yn gweithio'n gyflym i brosesu pawb cyn gynted 芒 phosibl."
Dywedodd un person ifanc wrth 91热爆 Cymru Fyw ei bod wedi disgwyl pedair awr a hanner - o 12:00 tan 16:30 - er mwyn cael mynediad i'r safle gwersylla.
Doedd y ciw ddim wedi gwella erbyn gyda'r nos chwaith, gyda rhai'n dweud am 19:00 eu bod wedi disgwyl am bedair awr, a'u bod yn dal i ddisgwyl.
"Ni wedi bod yn ciwio ers pedair awr a dal heb gael mynediad," meddai Ifan Rees, 18 o Gaerdydd.
"Profiad erchyll yn enwedig ar 么l gyrru am bum awr. Siomedig!"
Erbyn diwedd y prynhawn roedd swyddogion lles i'w gweld yn rhoi poteli d诺r i'r rheiny yn y ciw ac yn gofalu eu bod nhw'n iawn.
'Dim gwahanol i unrhyw 诺yl fawr arall'
Yn siarad gyda Radio Cymru dywedodd un o drefnwyr Maes B, Guto Brychan, fod yr oedi'n deillio o "sicrhau bod pawb yn dod mewn yn ddiogel".
"Yn amlwg, ni wedi gwerthu dros 2,500 o docynnau o flaen llaw, ac mae'n edrych fel bod y rhan fwyaf o'r 2,500 yna wedi penderfynu troi lan yn y cwpl o oriau ers i ni agor," meddai.
"'Dan ni yn prosesu trwy pawb. Yn amlwg mae 'na gamau 'da ni'n gorfod cymryd i sicrhau bod pawb yn dod mewn yn ddiogel.
"So mae'n mynd i gymryd bach o amser, ond dio'm gwahanol i unrhyw 诺yl fawr arall."
Mae pabell wedi cael ei ffensio i ffwrdd ar y safle hefyd, gyda llwyfan agored arall wedi cael ei godi ar y safle ddydd Mawrth.
"Mae'r llwyfan awyr agored yn mynd i'n galluogi ni i gynnig gwell profiad i bawb, yn hytrach na bod rhai pobl yn methu 芒 mynd i wylio'r prif fandiau," meddai'r Eisteddfod.
"Yn dilyn llwyddiant y penwythnos cyntaf ar y Maes, penderfynwyd bod angen edrych eto ar y ddarpariaeth ym Maes B ac agor popeth allan gyda llwyfan awyr agored.
"Oherwydd hyn, nid yw'r babell wreiddiol am gael ei defnyddio ar gyfer gigs, ac yn hytrach mae'n cael ei defnyddio fel rhan o swyddfa gefn y t卯m."
Roedd Lisa, 18, o Gaerdydd wrthi'n cyrraedd blaen y ciw am 16:30, ar 么l bod yn aros nes 12:00 i fynd i mewn.
"Mae'n warthus eleni o'i gymharu gyda blwyddyn diwethaf, lle doedd 'na ddim ciws o gwbl," meddai.
Ychwanegodd criw arall o ferched o Ynys M么n eu bod nhw wedi ciwio am dair awr cyn gallu mynd i mewn.
"Mae ganddon ni fwy o stwff yn y car ond maen nhw'n deud bod ni'n goro ciwio i gyd eto i fynd n么l fewn," meddai un.
"Felly 'dan ni jyst am fynd i'r maes am r诺an."
Fe benderfynodd eraill osod cadeiriau allan i eistedd, yn hytrach na pharhau i aros yn y ciw, gydag un criw o Sir G芒r eisoes wedi bod yn aros ers dwy awr.
"Oedd e'n lot mwy esmwyth llynedd, doedd dim ciw," meddai Sara.
Mewn cynhadledd i'r wasg fore Mawrth, dywedodd Elan Evans, trefnydd Maes B, bod tocynnau gwersylla "bron 芒 gwerthu mas", a'i bod yn disgwyl y bydd hynny'n digwydd cyn diwedd yr wythnos.
Ychwanegodd y byddan nhw'n arbrofi gyda llwyfan agored heb do ym Maes B eleni i gynnig mwy o ofod i artistiaid.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2023
- Cyhoeddwyd7 Awst 2023
- Cyhoeddwyd7 Awst 2023