Hyfforddi cenhedlaeth newydd o beilotiaid Chinook

Disgrifiad o'r llun, Dros y blynyddoedd mae'r Chinooks wedi gweld gwasanaeth yn rhai o fannau peryclaf y byd, megis Affganistan.
  • Awdur, Llyr Edwards
  • Swydd, Newyddion 91Èȱ¬ Cymru

Os ydych chi wedi bod â'ch llygaid ar awyr gogledd Cymru dros yr wythnosau diwethaf, efallai eich bod wedi cael cip ar hofrenyddion Chinook anferth yn gwibio ar draws y gorwel.

Ar hyn o bryd wedi'u lleoli yn RAF y Fali ar Ynys Môn, maent yno fel rhan o ymgyrch i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o beilotiaid.

Dywedodd yr Awyrlu y bydd yr hofrenyddion yn aml yn gweithredu mewn parau.

Maen nhw wedi gofyn i'r cyhoedd - yn enwedig unrhyw rai sy'n marchogaeth ceffylau - i fod yn ymwybodol o'r ymarferion.

Mae Operation Kukri yn golygu'r angen i hedfan yn isel dros fôr a mynydd.

Ond bu'n rhaid i un o'r Chinooks orfod glanio ar frys ger Arthog ym Meirionnydd ddiwedd yr wythnos diwethaf.

Mae'r awyrlu'n dweud mai wedi glanio rhag ofn bod rhywbeth yn bod oedd yr hofrennydd, wedi i rybydd fflachio i fyny yn y cockpit.

Gwasanaethu yn fyd-eang

Mae gogledd Cymru yn cael ei ystyried fel man delfrydol i ymarfer oherwydd y tirlun arbennig sydd yno.

Mae gweld a chlywed sŵn yr hofrenyddion yn gyfarwydd i lawer yn y gogledd gan eu bod yn beiriannau enfawr ac unigryw.

Dros y blynyddoedd maent wedi gwasanaethu yn rhai o fannau peryclaf y byd, megis Affganistan.

Ar hyn o bryd mae degau o ddynion a merched ifanc yn gorffen eu hyfforddiant ar gyfer defnyddio'r Chinooks cyn iddyn nhw fynd ati i wasanaethu mewn amrywiol sefyllfaoedd.

Yn ogystal â bod ar gael at ddiben milwrol, mae'r hofrenyddion hefyd yn cael eu defnyddio ar gyfer pob math o ddigwyddiadau dyngarol.

Disgrifiad o'r llun, Mae posib cludo hyd at 54 o filwyr ar y tro.

Dywedodd yr Arweinydd Sgwadron Michael Jones o Ganolfan yr Awyrlu yn Y Fali: "Mae 'na griw o 28 Squadron o Ganolfan yr Awyrlu Benson yn ne swydd Rhydychen yn hyfforddi ac yn hedfan cyn mynd ymlaen i'r front line.

"Mae gogledd Cymru yn le da i ymarfer. Un, mae'n hardd!

"Mae'n rhoi cyfle i hyfforddi mewn tiriogaeth wahanol yn y mynyddoedd… mae'r môr yn agos felly mae 'na options o hyd yn dibynnu ar be' sy'n mynd ymlaen."

Disgrifiad o'r llun, Yr Arweinydd Sgwadron, Michael Jones: "Mae pobl leol wedi bod yn ardderchog"

O ran y Chinooks, aeth ymlaen i dweud: "Mae nhw'n gweithio efo pobl, criwiau a military yn yr UK ac wrth gwrs 'dan ni wedi gweld nhw yn gweithio ar draws y byd yn Affganistan a llefydd mae na ryfeloedd ynde.

"Mae nhw'n hyfforddi ar gyfer pob math o scenarios ar draws y byd neu ym Mhrydain."

Gan gyfeirio at y digwyddiad yn Arthog fe ychwanegodd: "Oedd na incident allan yn yr aircraft ac oeddan nhw'n gorfod landio jyst fel precaution.

"Doedd 'na ddim byd allan o'i le, 'ddaru nhw landio a rŵan a mae nhw jyst yn aros am beirianwyr i ddod i'w drwsio.

"Pryd bynnag fydd o wedi ei drwsio bydd o'n mynd yn ôl adref i Benson.

"Mae pobl leol wedi bod yn ardderchog ynde a maen nhw wedi bod yn sgwrsio hefo'r criw a'r peirianwyr… diolch yn fawr i'r bobol leol ynde."