Symud gweddillion hofrennydd o gopa mynydd yn Eryri
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwaith o symud gweddillion hofrennydd aeth ar d芒n ar 么l gorfod glanio'n sydyn ar gopa mynydd yn Eryri., wedi cychwyn.
Mae hofrennydd Chinook o safle awyrlu Odiham yn Hampshire, wedi ei anfon i Eryri er mwyn cludo'r gweddillion oddi ar y mynydd.
Roedd yr hofrennydd yn rhan o Uned Hyfforddi Chwilio ag Achub yr Awyrlu sydd wedi ei lleoli yng ngwersyll Y Fali ar Ynys M么n.
Daeth yr hofrennydd i lawr ar gopa'r Aran ger Yr Wyddfa, brynhawn Mawrth, 9 Awst, ac fe gafodd gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad.
Yn 么l y Weinyddiaeth Amddiffyn, hofrennydd hyfforddi Griffin sy'n cael ei defnyddio gan y Weinyddiaeth ddaeth i lawr.
Roedd pump o bobl ar ei bwrdd ar y pryd - pedwar aelod milwrol ac un aelod o'r cyhoedd - gydag un person arall ar y mynydd.
Fe laniodd yr hofrennydd fel mesur diogelwch ar 么l datblygu problemau technegol, cyn iddi fynd ar d芒n ac ni chafodd neb eu hanafu.
Mae ymchwiliad wedi cychwyn i ddarganfod y rheswm pam y bu'n rhaid i'r hofrennydd lanio ar frys.