Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pryder Archdderwydd o 'danseilio'r rheol iaith'
Gorymdeithiodd cannoedd o bobl drwy Aberd芒r i ddathlu seremoni gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.
Yn draddodiadol mae'r Orsedd yn cyhoeddi bwriad yr Eisteddfod i ymweld ag ardal o leiaf blwyddyn a diwrnod cyn cychwyn y Brifwyl.
Roedd yr orymdaith ac yna'r seremoni, yn Stadiwm Ron Jones, yn cynnig rhagflas o'r hyn sydd i ddod pan fydd yr 诺yl yn cael ei chroesawu i'r ardal.
Ond yn ystod ei araith o'r maen llog gwnaeth yr Archdderwydd hefyd amddiffyn rheol iaith yr Eisteddfod yn sgil rhai galwadau diweddar iw' lacio.
"Mae tanseilio'r Eisteddfod Genedlaethol a'r rheol Gymraeg yn chwalu cynefin cenedlaethol y Gymraeg," meddai Myrddin ap Dafydd.
"Un Maes, un wythnos, dyna'i gyd mae'r rheol Gymraeg yn ei hawlio."
'Chwalu cynefin genedlaethol y Gymraeg'
Gan alw'r cymoedd yn "dir gobaith" yr iaith Gymraeg, fe ddywedodd yr Archdderwydd: "Mae rhif yr ysgolion Cymraeg yn uwch erbyn heddiw ond dydi o ddim yn dderbyniol o hyd.
"Dydi 80% o blant Cymru ddim hyd yn oed yn cael y cyfle i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg, ac mae angen i hynny newid."
Pwnc sydd wedi denu cryn ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar yw'r rheol iaith, gyda rhai'n mynegi siom ac eraill yn cefnogi bod yn rhaid i artistiaid berfformio yn y Gymraeg.
Ond yn annerch y dorf fe ddywedodd yr Archdderwydd: "Mae'r Cenhedloedd Unedig ac UNESCO yn nodi'n eglur fod yr hawl i warchod ac amddiffyn iaith sydd o dan bwysau, yn hawl ddynol sylfaenol.
"Mae un o ieithoedd y byd yn diflannu yn farw pob pythefnos, ac fel rheol colli cynefin yr iaith sy'n gyfrifol am y diflaniad.
"Mae ganddon ni gyd gyfrifoldeb i sicrhau nad ydy hynny'n digwydd i'r Gymraeg.
"Mae croeso mawr i siaradwyr Cymraeg newydd yn yr Eisteddfod a'r Orsedd - agor drysau, bod yn gymhwysol ydy holl hanfod yr Eisteddfod. Croesawu pobl at yr iaith yw ein bwriad ni.
"Mae tanseilio'r Eisteddfod Genedlaethol a'r rheol Gymraeg yn chwalu cynefin cenedlaethol y Gymraeg.... un maes, un wythnos, dyna'i gyd mae'r rheol Gymraeg yn ei hawlio."
'Gweithio'n galed'
Yn ogystal a'r Orsedd roedd y seremoni yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau a chymdeithasau lleol.
Dyma fydd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf yn yr ardal ers 1956.
Ond bydd hefyd yn dychwelyd i'w gwreiddiau, gan i'r 诺yl fodern gyntaf gael ei chynnal yn Aberd芒r yn 1861.
Cyn y seremoni dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Helen Prosser: "Rydym wedi bod yn gweithio'n galed ers rhai misoedd yn paratoi'r rhestr cystadlaethau, gan wneud yn si诺r fod yna flas lleol.
"Mae'r Seremoni Gyhoeddi llawn traddodiad a bydd yn garreg filltir bwysig yn y cyfnod cyn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.
"Mae digwyddiadau fel hyn, a'r digwyddiadau cymunedol cyson sy'n cael eu cynnal ar draws Rhondda Cynon Taf, yn creu bwrlwm go iawn yn arwain at yr 诺yl y flwyddyn nesaf."
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf rhwng 3-10 Awst 2024.